Reform yn annhebygol o gyflwyno system yswiriant i ariannu'r GIG

Mae Nigel Farage wedi galw yn y gorffennol am "ailystyried sylfaenol" er mwyn trwsio'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n hynod annhebygol y byddai Reform UK yn ceisio cyflwyno system yswiriant i ariannu'r Gwasanaeth Iechyd petai nhw'n rheoli Llywodraeth Cymru ar ôl etholiadau'r Senedd flwyddyn nesaf.
Mae'r BBC ar ddeall bod y blaid wedi diystyru'r syniad oherwydd diffyg amser a phryderon am heriau cyfreithiol.
Yng nghynhadledd Gymreig Reform UK y llynedd galwodd arweinydd y blaid, Nigel Farage, am "ailystyried sylfaenol" er mwyn trwsio'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru - gan gynnwys y model ariannu.
Yn y gorffennol mae Mr Farage wedi trafod cyflwyno system Ffrengig o ariannu'r Gwasanaeth Iechyd.
Ond mae llefarydd ar ran y blaid wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i wasanaeth iechyd am ddim a chadw'r polisi presgripsiynau am ddim.

Mae Jo Stevens wedi dweud bod Reform am "werthu'r GIG i'r sawl sy'n fodlon talu'r pris uchaf"
Nid yw'r blaid wedi cyhoeddi unrhyw bolisïau Cymreig eto, ond mae'r gwrthbleidiau wedi bod yn codi pryderon am gynlluniau Reform i'r Gwasanaeth Iechyd.
Mae'n debygol y bydd y Gwasanaeth Iechyd yn un o brif bynciau llosg ymgyrch etholiad y Senedd gyda chryn dipyn o graffu ar record y blaid Lafur ac addewidion pleidiau eraill.
Dydd Sadwrn, dywedodd Jo Stevens yn ei haraith i gynhadledd plaid Lafur Cymru yn Llandudno bod Reform am "werthu'r GIG i'r sawl un sy'n fodlon talu'r pris uchaf".
'Amlygu'r sgandalau yn y GIG'
Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Edrychwch ar beth mae Llafur wedi ei wneud.
"Mae rhestrau aros ar eu lefelau uchaf erioed - y gwaethaf yn y DU. Nid ydynt yn gallu cael y staff, na chwaith cadw'r staff sydd ganddyn nhw.
"Mi fydd llywodraeth Reform yn mynd i'r afael â hyn. Mi wnawn ni amlygu'r gwastraff, y methiannau a'r sgandalau o fewn y GIG.
"Mae angen i ni gael gwared o'r gwastraff, y biwrocratiaeth, a rhoi diwedd ar yr aneffeithlonrwydd fel bod cleifion yn cael y gofal sydd angen arnynt.
"Mae Reform yn credu mewn gwasanaeth iechyd am ddim ar y pryd ac rydym wedi ymrwymo i gadw presgripsiynau am ddim hefyd."

Dywedodd Stephen Kinnock bod Reform eisiau "codi tâl ar gleifion am eu gofal iechyd"
Ddydd Iau ar orsaf radio LBC, dywedodd Mr Farage ei fod eisiau ariannu'r Gwasanaeth Iechyd drwy drethi cyffredinol.
Ond, aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "teimlo petai cwmnïau yswiriant yn cystadlu am yr arian rydym ni'n talu i mewn, mi fyddwn ni'n cael mwy o werth am arian".
Ychwanegodd: "I raddau, rwyf wedi cael fy nghamddehongli yn fwriadol ar hyn gan y blaid Lafur, sydd mewn trafferth go iawn."
Dywedodd llefarydd gofal Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Stephen Kinnock bod y sylwadau yn brawf bod Reform eisiau "codi tâl ar gleifion am eu gofal iechyd".
'Bodlon ystyried unrhywbeth'
Cododd Mr Farage yr angen am ddadl ynglŷn â system yswiriant i'r Gwasanaeth Iechyd pan oedd yn arweinydd UKIP nôl yn 2015.
Ond, roedd maniffesto diwethaf Reform UK ar gyfer Etholiad Cyffredinol yn addo GIG am ddim ar y pryd, law yn llaw â "diwygiadau sylweddol".
Fis Ionawr eleni, mewn cyfweliad ag LBC gofynnwyd i Nigel Farage os oedd yn agored i fodel Ffrengig i ariannu'r NHS.
Dywedodd nad oedd o eisiau copïo'r system Ffrengig yn llwyr "ond beth am i ni gael rhywbeth dyfnach ac ehangach?"
Ychwanegodd: "Os allwn ni gael model ariannu gwell a mwy effeithiol, os allwn ni roi gofal am ddim ar y pryd, rwy'n fodlon ystyried unrhywbeth."

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd
Yn Ffrainc, nid yw gofal iechyd am ddim - mae'r costau yn gymysgedd o yswiriant sy'n cael ei godi trwy'r system drethi, yswiriant preifat ychwanegol, a chleifion yn cyfrannu trwy daliadau ar y cyd.
Petai unrhyw newidiadau i bolisi'r blaid ar sut i ariannu'r gwasanaeth iechyd, mae'n debygol y byddai hynny ar gyfer maniffesto'r blaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn 2029.
Mae'n debyg y byddai'n well gan arweinwyr y blaid lynu at un polisi trwy Brydain yn hytrach na chael cynnig Cymreig - er bod y Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd.
Mae arolygon barn yn awgrymu y gallai Reform UK ddod yn gyntaf neu'n ail yn etholiadau'r Senedd fis Mai, felly mae 'na bosibilrwydd cryf, os ydy hynny'n parhau, iddyn nhw fod y blaid fwyaf yn y Senedd.
Mae'n debygol iawn y byddai angen rhyw fath o gytundeb gyda phlaid neu bleidiau eraill er mwyn llywodraethu.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Mai