'Braint cael cario fflam y Gemau Paralympaidd'

Lowri Morgan (ail o'r chwith) wrth i'r ffagl Baralympaidd adael Lloegr am Ffrainc
Disgrifiad o’r llun,

Lowri Morgan (ail o'r chwith) wrth i'r ffagl Baralympaidd adael Lloegr am Ffrainc fore Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd, anturiaethwr a rhedwr marathonau ultra Lowri Morgan wedi disgrifio'r "fraint ac anrhydedd" o gael rhan ganolog mewn taith arbennig yn hanes y Gemau Paralympaidd.

Roedd hi ymhlith 24 o bobl a gafodd eu dewis i gerdded ar hyd Twnnel y Sianel yn Folkestone fore Sul a throsglwyddo'r fflam Baralympaidd hanner ffordd dan Fôr Udd i 24 o hebryngwyr o Ffrainc.

Mae hwn yn draddodiad newydd eleni ers y cyhoeddiad y llynedd mai Ysbyty Stoke Mandeville yn Lloegr, man cychwyn y mudiad Paralympaidd, yw cartref parhaol y fflam.

Wedi i'r fflam ddod allan o'r twnnel yn Calais, fe fydd yn cael ei rhannu'n 12 o fflamau gan groesi Ffrainc dros bedwar diwrnod cyn dechrau'r Gemau ym Mharis.

'Syrpreis - a chyfrinachedd mawr'

Wrth siarad ar raglen Bore Sul BBC Radio Cymru, dywedodd Lowri Morgan bod hi'n "syrpreis mawr iawn i fi dderbyn yr ebost yn gofyn i mi fod yn rhan o gario fflam i'r Gemau Paralympaidd".

Dywedodd bod "rhywun caredig wedi meddwl amdana'i" ac awgrymu i'r trefnwyr gynnig "y fraint a'r anrhydedd yma" iddi.

"Mae hwn wedi bod yn hynod gyfrinachol - o'n i ddim yn gw'bod yn union beth o'n i'n 'neud tan ychydig ddiwrnode yn ôl.

"Mae'r digwyddiad yn mynd i fod yn un o'r pethe mwya' bythgofiadwy bydda i'n 'neud - a dwi 'di 'neud tipyn o bethe yn fy mywyd i!

"Dyma'r tro cynta' iddyn nhw 'neud hyn, sef mynd â'r fflam trwy'r twnnel o dan y sianel."

Disgrifiad o’r llun,

Eglurodd Lowri mai trwy dwnnel gwasanaeth ategol y cafodd y fflam ei chludo o Loegr i Ffrainc

Dywedodd Lowri wrth y rhaglen ei bod yn cael "goose-bumps" wrth edrych ymlaen at yr achlysur.

"Pan o'n i'n blentyn [ac yn rhedeg ar y trac ac ar draws gwlad] o'n i wastad yn breuddwydio am allu cyrra'dd y Gemau Olympaidd," meddai.

"Yn anffodus, nath hynny byth ddigwydd i mi oherwydd anafiade, ac wrth gwrs fe nath y trywydd droi at chwarae rygbi dros Gymru.

"Ond o'r diwedd dwi'n ca'l rhoi bach o fy hun mewn i'r Gemau [Paralympaidd] a dwi'n hynod o excited am hynny."

Pynciau cysylltiedig