Aled Siôn Davies: Ei yrfa mewn 20 llun
- Cyhoeddwyd
Mae Gemau Paralympaidd 2024 yn dechrau ym Mharis wythnos yma, gyda chynrychiolaeth sylweddol o Gymry yn rhan o dîm Prydain.
Yn eu mysg fydd Aled Siôn Davies, a fydd yn cystadlu yn y gemau am y bedwaredd tro.
Cafodd Aled fedal aur ar daflu disgen yng Ngemau Llundain 2012, ac yng ngemau Rio a Tokyo a ddilynodd fe enillodd aur am daflu pwysau (shot put).
Mae'n mynd o nerth i nerth ac ym mis Mai fe enillodd bencampwriaeth y byd am daflu pwysau am y chweched tro - ei nawfed fedal aur ym mhob cystadleuaeth.
Felly, i ddathlu beth mae Aled wedi ei gyflawni dyma gasgliad o rywfaint o luniau o'i yrfa hyd yn hyn.

Ganwyd Aled ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 24 Mai, 1991. Cafodd ei eni gyda'r cyflwr fibular hemimelia, a olygir y ganwyd heb ffibwla ei goes dde.
Uchod mae'n cystadlu yn ei gystadleuaeth fawr gyntaf - Pencampwriaethau'r Byd yn Christchurch, Seland Newydd, 2011

Aled yn hyfforddi ym Monte Gordo, Portiwgal, ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 (12 Ebrill, 2012)

Y cystadlu ar ddiwrnod olaf cystadleuaeth y ddisgen categori F42 yng Ngemau Llundain - 2 Medi, 2012

Dathlu ennill y gystadleuaeth gyda thafliad o 46 medr a 14cm

Aled yn cofleidio Anthony Hughes - yr hyfforddwr a'i helpodd i ennill yn Llundain

Dathlu ar y podiwm gyda'r fedal rownd ei wddf

Blwyddyn wedi'r llwyddiant yn y Gemau Olympaidd fe enillodd Aled fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd, y tro hyn yng nghystadleuaeth y taflu pwysau (shot put) categori F42

Ar 19 Rhagfyr 2013 derbynodd Aled MBE gan y Tywysog Charles mewn seremoni ym Mhalas Buckingham

Mai 2014 - cario fflam Gemau'r Gymanwlad i gopa'r Wyddfa cyn dechrau'r bencampwriaeth yn Glasgow

Medal arian oedd hi i Aled yn y Gemau'r Gymanwlad yn Yr Alban yn 2014

Cafodd y cystadlaethau taflu pwysau eu cynnal yn stadiwm Hampden yn ystod Gemau'r Gymanwlad 2014

Mae Aled wedi parhau gyda'r ddisgen a'r taflu pwysau yn ystod ei yrfa, enillodd fedal aur yn y ddwy gamp ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Doha, 2015.
Enillodd aur yn y ddwy gamp ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Lyon yn 2013, a hefyd yn Llundain yn 2017

Aur arall yng Ngemau'r Olympaidd - tro yma yn y taflu pwysau yn Gemau Rio, 2016

Llun swyddogol o Aled cyn Pencampwriaethau'r Byd yn Llundain, 2017

Aur eto yng nghystadleuaeth taflu pwysau yn y Gemau Olympaidd, ond yn Tokyo roedd rheolau mygydau ac ymbellhau oherwydd Covid

Athletwyr Paralymaidd Tokyo o Gymru tu allan i'r Senedd, 13 Medi 2021 - Aled yn y rhes gefn ar y pen ar y chwith

Gyda'i gyd-Gymro Harrison Walsh yn dathlu yn Gemau Gymanwlad 2022. Aur i Aled ac efydd i Harrison

Cafodd Aled anrhydedd OBE yng Nghastell Windsor ar 8 Tachwedd, 2022

Aled yn dathlu buddugoliaeth ym Mhencampwriaethau'r Byd ym Mharis, Gorffennaf 2023

Buddugoliaeth diweddara' Aled - aur ym Mhencampwriaethau Para'r Byd yn Kobe, Japan, ar 25 Mai 2024
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Awst 2024
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
- Cyhoeddwyd25 Awst 2024