Dyn wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan dractor ym Môn - cwest

Llys Crwner CaernarfonFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Bu farw mecanig o Ynys Môn ar ôl cael ei wasgu gan dractor yr oedd yn gweithio arno, clywodd cwest.

Roedd Endaf Telford Jones, 49 o Engedi, ar fferm rhwng Y Fali a Cemaes yn gynharach yn y mis.

Dywedodd crwner yng Nghaernarfon bod Mr Jones yn gweithio ar ei ben ei hun, ac o ganlyniad nid yw'n glir eto sut yr aeth yn sownd.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach barhau.

map Rhydwyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i fferm yn Rhyd-wyn ger Caergybi ddydd Mercher

Fe glywodd y gwrandawiad - a barodd ond tair munud - fod Mr Jones yn gweithio ar dractor yn Fferm Hafodty yn Rhyd-wyn ger Porth Swtan.

Dywedodd y crwner cynorthwyol, Sarah Riley: "Nid ydym yn gwybod yr amgylchiadau'n llawn eto, ond o'r adroddiadau cychwynnol i mi, mae'n dangos ei fod wedi mynd yn sownd rhwng y trawst a brês cefn fforch y tractor.

"Roedd yn gweithio ar ei ben ei hun, ac o ganlyniad mae'r manylion yn brin ar hyn o bryd."

Fe ddangosodd archwiliad post mortem ei fod wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan rannau o'r peiriant.

Fe ddaeth yr heddlu i'r fferm, ond bu farw Mr Jones cyn iddo allu cael ei gludo i'r ysbyty.

Cafodd y cwest ei ohirio fel bod modd cynnal archwiliad llawn i'r hyn ddigwyddodd.

Pynciau cysylltiedig