'Symud ambiwlans awyr yn ergyd ariannol i'r elusen'
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod o'r Senedd o’r canolbarth yn dweud ei fod yn disgwyl y bydd gostyngiad mewn rhoddion i'r elusen ambiwlans awyr os bydd hofrennydd brys yn cael ei symud o'i safle presennol yn Y Trallwng.
Gallai adolygiad sydd ar y gweill i geisio gwella'r gwasanaeth arwain at gau canolfannau yn Y Trallwng a Chaernarfon.
Dywedodd Russell George, AS Maldwyn, fod nifer o’i etholwyr yn bwriadu atal rhoddion os bydd y ganolfan yn y canolbarth yn cau.
Yn ôl yr elusen, mae'r gwasanaeth yn achub bywydau ledled Cymru ble bynnag mae’r criwiau wedi’u lleoli gan bwysleisio hefyd nad ydyn nhw'n cymryd cefnogaeth y cyhoedd yn ganiataol.
Mae’r adolygiad – sy’n ceisio “sicrhau bod cymaint o bobl â phosib” yn elwa o’r gwasanaeth – wedi awgrymu dau opsiwn i’w alluogi i ymateb i o leiaf 139 o alwadau ychwanegol y flwyddyn.
Mae'r ddau yn golygu cau canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon a symud yr hofrenyddion i Ruddlan, yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Pedair canolfan ambiwlans awyr sydd yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda'r ddwy arall yng Nghaerdydd a Llanelli.
Dywedodd un cefnogwr sydd wedi codi miloedd o bunnau i’r elusen dros y blynyddoedd, y byddai’n meddwl ddwywaith am helpu yn y dyfodol.
Mae Beryl Vaughan o Lanerfyl wedi codi dros £10,000 ei hun ac roedd hi'n rhan o ymgyrch Cerddwn Ymlaen - taith gerdded trwy Gymru yn 2012 - a gododd dros £100,000.
'Dwi ddim yn deall pam'
“'Dw i ddim yn licio dweud na faswn i’n fodlon rhoi, ond (os yw canolfan Y Trallwng yn cau) 'dwi ddim yn meddwl y byddai’n un o’r rhai ar ben fy rhestr i," meddai Ms Vaughan.
"Mae 'na gymaint o elusennau rŵan yn yr ardal yma sydd angen pres ac mae arian yn mynd yn brinnach.
“'Dw i’n teimlo y bydd pobl yn y canolbarth yn gweld hi’n anodd iawn i roi tuag at hofrennydd os yw’n symud i fyny i’r gogledd.
"Ond 'dw i ddim yn deall pam bod nhw’n meddwl am wneud y ffasiwn beth!
"'Da ni’n byw mewn ardal wledig iawn, ac mae angen help yn syth yma.”
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023
Partneriaeth yw'r gwasanaeth - gyda'r gwasanaeth iechyd yn cyflogi'r meddygon sy'n teithio ar yr hofrenyddion ac yn talu am yr offer maen nhw'n ei ddefnyddio.
Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n talu am yr hofrenyddion, y peilotiaid a'r canolfannau awyr.
Mae angen £11.2m y flwyddyn ar yr elusen i gynnal y gwasanaeth.
Dywedodd Russell George ei fod yn pryderu y gallai’r elusen weld gostyngiad mewn rhoddion.
“'Dwi’n meddwl y bydd yn cwympo a fy neges i bobl yw dal ati i roi," meddai.
"Ond 'dw i wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi i ddweud ‘os bydd yn symud, byddaf yn stopio cyfrannu’. Mae ‘na risg enfawr.”
Mae’r Cynghorydd Elwyn Vaughan wedi ymgyrchu i gadw canolfannau'r Trallwng a Chaernarfon ar agor a dywedodd ei fod e hefyd yn ymwybodol o bobl yn atal rhoddion i’r elusen.
“Mae ‘na bobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod yn canslo eu cyfraniadau – mae hynny yn bryder go iawn," meddai.
"Mae 'na deimlad dwys iawn yn y canolbarth o berchnogaeth dros y gwasanaeth, ac mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu bradychu.”
Beth yw'r opsiynau?
Mae arweinwyr byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd Cymru wedi nodi’r hyn maen nhw’n ei ddisgrifio fel “y ddau opsiwn cryfaf” ar gyfer gwella’r gwasanaeth, ac mae modd i bobl rannu eu sylwadau ar yr opsiynau hynny tan 29 Chwefror.
Byddai Opsiwn A yn golygu cau canolfannau awyr Y Trallwng a Chaernarfon ac agor un newydd ger ffordd yr A55.
Byddai dau dîm yn gweithio shifftiau ar wahân, o 08:00 tan 20:00, a 14:00 tan 02:00.
Mae Opsiwn B yr un fath ag A, ond gyda cherbyd ffordd ychwanegol yn gweithio shifft ychwanegol rhwng 20:00 ac 08:00 o Wrecsam.
Yn ôl adroddiad diweddaraf yr adolygiad, byddai Opsiwn A yn golygu trin 139 o gleifion ychwanegol bob blwyddyn, a 208 yn fwy o dan gynllun B.
Tra bod yr adroddiad yn dweud y byddai mwy o gleifion yn cael eu trin ym mhob rhan o Gymru, mae ymgyrchwyr sydd am gadw'r Trallwng ar agor yn honni y byddai pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ar eu colled.
Dywedodd Bob Benyon, un o gefnogwyr y ganolfan yn y canolbarth: “Allwn ni ddim deall sut y gallan nhw gyfiawnhau cau'r Trallwng, o le mae hofrennydd yn gallu cyrraedd 1,258,000 o bobl mewn 24 munud.
"Mae hynny'n 477,000 yn fwy na'r ganolfan arfaethedig yn Rhuddlan.
"Felly, mae’n anochel y bydd yr amseroedd ymateb yn arafach i lawer o bobl.”
'Gwasanaeth Cymru gyfan'
Mae’r adolygiad yn cael ei arwain gan Stephen Harrhy - prif gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – a ddwedodd nad oes unrhyw benderfyniad wedi’i wneud a’r nod yw i bobl ym mhob rhan o Gymru elwa.
“'Dw i am sicrhau os yw pobl yn cael gwasanaeth nawr, byddan nhw’n dal i gael y gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol, ond bydd mwy o bobl yn ei gael e ar hyd a lled Cymru.
"Ry’n ni’n gwybod bod pobl yn colli allan ar hyn o bryd a 'dw i am weld mwy o’r rheiny yn cael mynediad at y gwasanaeth."
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022
Ychwanegodd Mr Harrhy: “'Dw i’n deall i raddau pam fod pobl yn ei alw’n ‘wasanaeth ambiwlans awyr canolbarth Cymru’, ond mae’n wasanaeth i Gymru gyfan.
Gallai unrhyw un o'r asedau ymateb i unrhyw un mewn unrhyw ran o Gymru."
Bydd y ddau opsiwn arfaethedig yn costio mwy, ond yn ystod ymgysylltiad cyhoeddus mae’r adolygiad wedi clywed pryderon – pe bai canolfannau’n cau – y gallai rhoddion i’r elusen o’r ardaloedd hynny “leihau ac ansefydlogi’r gwasanaeth".
Yng nghanol tref Y Trallwng, roedd gan Louise a Jan, dau ffrind o’r dref, safbwyntiau gwahanol.
Dywedodd Louise: “Dw i’n ei gefnogi, ond pe bai’n symud i ogledd Cymru, fyddwn i ddim mor awyddus i wneud hynny.
"Dw i’n teimlo ei fod yn rhywbeth lleol, felly chi'n talu iddo fod yma."
Ychwanegodd Jan “Mae fy nghyfraniad i yn rhodd loteri a 'dw i wedi bod yn ei wneud ers oesoedd.
"'Dw i ddim yn meddwl y byddwn i’n ei newid, oherwydd ble bynnag mae’n mynd bydd ei angen.”
Yng Nghaernarfon hefyd, roedd pobl yn meddwl y byddai effaith negyddol ar roddion os yw’r ambiwlans awyr yn symud i Ruddlan.
Dywedodd William Jones: “'Dw i ddim yn gweld nhw mor barod i roi pres os nad oes ambiwlans awyr i gael yma.
"Dydi o ddim yn idea da iawn a gobeithio gwnaiff o ddim digwydd.”
Ychwanegodd Myfyr Jones: “Os nad oes ambiwlans awyr yma mae’n siŵr o ddweud mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, bod y peth ddim yma i hel y pres yn y lle cyntaf.”
'Un o’r gwasanaethau gorau yn y byd'
Mae arweinwyr elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi galw ar i gefnogwyr ymddiried ynddyn nhw gan eu bod wedi darparu “un o’r gwasanaethau ambiwlans awyr gorau yn feddygol” yn y byd.
Mewn datganiad dywedodd yr elusen bod y timau o arbenigwyr meddygol yn Y Trallwng a Chaernarfon yn cael eu tanddefnyddio, a'u bod yn cefnogi nod yr adolygiad i fynd i'r afael â thanddefnydd a’r angen ymhlith cleifion sydd ddim yn cael ei ddiwallu ar hyn o bryd.
Ychwanegodd y bydd yr holl roddion yn cael eu “defnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol, sy’n canolbwyntio ar y claf.
"Mae hyn yn golygu achub cymaint o fywydau â phosibl ledled Cymru ac, wrth wneud hynny, gwneud yn siŵr nad oes unrhyw gymuned dan anfantais sylweddol.
“Rydym yn wasanaeth Cymru gyfan.
"Bydd ein criwiau ymroddedig, ble bynnag maen nhw wedi'u lleoli, yn teithio ar hyd a lled y wlad i ddarparu gofal achub bywyd brys. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth pobl Cymru.”
Daw’r datganiad i ben drwy ddweud bod cefnogwyr yn y canolbarth a’r gogledd-orllewin “yn anhygoel o hael, a dydyn ni ddim yn cymryd hyn yn ganiataol".
Ar ddiwedd y cyfnod ymgysylltu fe fydd Stephen Harrhy yn gwneud argymhelliad i bwyllgor o arweinwyr y byrddau iechyd gyda phenderfyniad terfynol yn cael ei wneud cyn diwedd mis Mawrth.