Dwy funud o dawelwch ar draws Cymru ar ddiwrnod cofio VE

- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o bobl wedi bod yn cofio am y rheiny fu'n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd - 80 mlynedd ers i'r rhyfel ddod i ben yn Ewrop.
Am 12:00 bu pobl ar draws Cymru yn cynnal dwy funud o dawelwch i gofio dros 15,000 o filwyr o Gymru a fu farw yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn Abaty Westminster mae Gwasanaeth Cofio a Diolchgarwch yn cael ei gynnal.

Y dorf yn Sgwâr Trafalgar ar ddiwrnod nodi Buddugoliaeth yn Ewrop ym Mai 1945
Yng Nghaerdydd, fe wnaeth Aelodau o'r Senedd gynnal dwy funud o dawelwch ynghyd â gweddill y DU.
Yn ystod y dydd mae digwyddiadau niferus yn cael eu cynnal yng Nghymru gan gynnwys gwasanaeth yn Eglwys San Silyn Wrecsam.
Bydd yna wasanaeth arbennig gyda the prynhawn yn cael ei gynnal yn Ysgol Glan Gele, yn Abergele, Conwy.
Yn Sir Fynwy ar ddechrau'r diwrnod fe wnaeth y Royal Monmouthshire Royal Engineers godi baner i goffáu y rhai a gollwyd ac fe gafodd coeden ei phlannu yn un o gaeau'r dref.
Yn y prynhawn, bydd gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghastell Trefynwy a bydd rhan o'r dref yn cael ei goleuo yn hwyrach nos Iau.
Cofio diwrnod VE yn Abertawe
Fe ddaeth pobl o bob oed ynghyd mewn gwasanaeth yng Nghapel Crist yn Abertawe i nodi'r diwrnod.
Roedd y digwyddiad, a oedd wedi ei drefnu i fod yn hygyrch i gyn-filwyr dall ac anabl, yn cynnwys perfformiadau gan ysgolion lleol yr ardal, yn ogystal ag emynau a chinio i'r gymuned.
Fe wnaeth cyn-filwr Richard Pelzer osod torchbleth ar ran Blind Veterans UK.
Roedd mwy na dros 40 o gyn-filwyr yn bresennol yn y gwasanaeth.
- Cyhoeddwyd20 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd ysgrifennydd gwladol Cymru, Jo Stevens: "Wrth i ni ddathlu 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, ymdawelwn i anrhydeddu'r dynion a'r menywod dewr o Gymru a fu'n ymladd yn yr Ail Ryfel Byd.
"Mae eu dewrder, eu gwytnwch a'u hymroddiad diwyro i ryddid wedi gadael ôl parhaol ar ein hanes. Mae ein dyled iddynt yn enfawr ac ni ellir byth ei had-dalu.
"Heddiw, mewn digwyddiadau ym mhob cwr o Gymru a'r tu hwnt, rydyn ni'n cofio'r rheini a wnaeth yr aberth eithaf, yn diolch i'r rhai a ddychwelodd adref, ac yn addo cadw eu gwaddol yn fyw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Criw yr RNLI yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Mae criw yr RNLI hefyd wedi bod yn nodi'r 80 mlynedd wrth iddyn nhw gofio'r rhai fu'n chwarae rhan allweddol yn y rhyfel.
Cafodd 3,760 o gychod achub eu lansio yn ystod y rhyfel a llwyddwyd i achub 6,376 o fywydau.
Dywed Hayley Whiting o'r RNLI: "Wrth i ni nodi 80 mlynedd ers diwrnod VE, mae'n bwysig cofio am y y gwaith y gwnaeth ein criwiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd a'r dyfalbarhad y gwnaethon ddangos i achub bywydau ar y môr."