Dyn yn cyfaddef lladd mam, 30, yn Llanelli
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Borth Tywyn wedi cyfaddef dynladdiad mam i ddau o blant yn Llanelli, ond wedi gwadu ei llofruddio.
Fe wnaeth Richard Jones, 50, ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher trwy gyswllt fideo.
Plediodd yn ddieuog i lofruddiaeth Sophie Evans, ond yn euog i'w dynladdiad.
Cafwyd hyd i gorff Ms Evans, 30, mewn tŷ ar Ffordd Bigyn yn Llanelli ar 5 Gorffennaf eleni.
Cafodd Jones ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl i'r achos llofruddiaeth yn ei erbyn ddechrau ar 20 Ionawr.
Wrth roi teyrnged iddi dywedodd teulu Ms Evans: "Ry'n wedi torri'n calonnau wedi'n colled. Fe fydd yn cael ei cholli gennym i gyd.
"Mae'n merch a chwaer brydferth a rhyfeddol wedi'i chymryd oddi wrthym a bydd ein bywydau fyth yr un fath eto.
"Roedd hi'n fam gariadus i ddwy o ferched - rhai roedd hi'n eu caru â'i holl galon. Roedd hi'n chwaer ryfeddol a oedd yn graig i'n teulu.
"Roedd hi'n ddisglair ac yn ddoniol a wastad yn gwneud i ni chwerthin."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024