Cymuned Llanbed yn dod at ei gilydd er mwyn adfywio'r dref
- Cyhoeddwyd
Mae cymuned yng Ngheredigion wedi dod i sylweddoli pa mor bwysig yw rôl unigolion wrth fynd ati i adfywio canol trefi.
Yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Senedd, mae "diffyg capasiti" gan gynghorau sir i gefnogi gwaith adfywio angenrheidiol.
Ond yn sgil yr heriau hyn, mae aelodau o gymuned Llanbedr Pont Steffan wedi bwrw ati eu hunain er mwyn creu newid ar eu stryd fawr.
Mae'r gwaith o adnewyddu cloc Neuadd y Dref wedi dechrau - hynny gan ddefnyddio £27,000 o'r Cynllun Trawsnewid Trefi, trwy gymorth Cynnal y Cardi - ac er i'r cloc gael ei ddifrodi'n fwriadol yr wythnos hon, mae'r cyngor yn benderfynol o barhau gyda'r gwaith.
Mae arian hefyd wedi ei glustnodi i adnewyddu ffynnon o'r 19eg ganrif a chofeb rhyfel y dref, ac yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb mae cynlluniau ar y gweill i adeiladu parc sglefrio.
“Rydyn ni i gyd yn wirfoddolwyr ac yn gwneud hyn am ein bod ni eisiau gweld gwahaniaeth," meddai Maer Llanbedr Pont Steffan, Gabrielle Davies.
"Rydyn ni eisiau gweld Llanbed yn llewyrchu eto.
“Dyw e ddim wedi bod yn hawdd, ni wedi edrych yn hir i ddod o hyd i arian grant, ac mae dechrau, a gwybod ble i edrych yn cymryd amser.”
'Diffyg sgiliau gan gynghorau'
Mae Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn cael ei darparu dros gyfnod o dair blynedd gyda 44% o’r cyllid yn mynd i’r de ddwyrain, 27% i’r de orllewin, 22% i’r gogledd a 7% i’r canolbarth.
Mae'r adroddiad newydd gan y Senedd yn nodi fod angen i awdurdodau lleol ymyrryd mwy o ran adfywio trefi.
Dywedodd fod “diffyg capasiti a sgiliau” gan gynghorau i gyflawni’r adfywio cynaliadwy sydd ei angen.
Mae'n awgrymu hefyd nad yw pwerau a all helpu i ysgogi adfywiad canol trefi “yn cael eu defnyddio’n effeithiol nac yn gyson”.
Yn gynharach yr wythnos hon, fe gafodd cloc Neuadd y Dref ei ddifrodi'n fwriadol, a hynny yn dilyn cyfnod o'i adfer.
Yn ôl y cyngor fe wnaeth unigolyn, neu grŵp o unigolion, ddringo'r sgaffaldiau sy'n amgylchynu'r cloc gan dorri i mewn i'r tŵr, torri'r gwydr hynafol a thorri bysedd y cloc.
Dywedodd y cynghorydd tref, Elen Page ei bod hi'n ystyried y mater fel "sarhad personol".
Ond, mae'r digwyddiad wedi gwneud y Cyngor Tref yn fwy penderfynol fyth i drawsnewid Llanbedr Pont Steffan, yn ôl Ms Page.
- Cyhoeddwyd25 Medi
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2021
Mae Gabrielle Davies yn credu y dylai’r broses adfywio fod yn haws a chyflymach.
“Mae’n anodd oherwydd mae’n rhaid i chi gael arian y tu ôl i chi i ddechrau gwneud cais am y grantiau hyn, a ry'n ni'n ffodus iawn yn Llanbed bod arian cyhoeddus ar gael.”
Y gobaith yw y gallai'r buddsoddiad yn Llanbedr Pont Steffan helpu i ddenu mwy o bobl i ymweld neu hyd yn oed i fyw yn y dref.
Ond nid yw’n fater o wneud i Lanbed edrych yn dda un unig, mae’r gymuned eisiau i'r dre deimlo fel lle da i fyw hefyd.
Mae Angharad Williams eisiau gweld amrywiaeth o weithgareddau i bobl ifanc y dref, ac fe aeth ati dros yr haf i helpu i ailsefydlu clwb tennis sydd wedi bod yn segur ers 20 mlynedd.
“Mae’n rhywbeth oedd gennym ni pan oedden ni’n blant ac roedd hi wedi cyrraedd y pwynt lle oedd rhaid defnyddio cyfleusterau neu wynebu eu colli.”
Mae'r ardal wedi elwa o grant gwerth £127,000 gan Chwaraeon Cymru oedd yn caniatáu gwaith i uwchraddio dau gwrt tennis, gyda chyrtiau pêl-rwyd a phêl-fasged newydd yn cael eu gosod hefyd.
Daeth 30 o blant i’r sesiwn hyfforddi gyntaf, lle mae Angharad Williams yn gwirfoddoli i’w dysgu.
“Dwi’n meddwl weithiau, gall lle edrych yn bert ond oni bai bod pethau i bobl eu gwneud, does dim pwynt edrych fel cerdyn post.”
Mae teimlad o frwdfrydedd ymhlith y gymuned ynghylch creu newid, gyda gwirfoddolwyr ynghlwm â’r holl waith.
Bydd gwobrau cyntaf Cyngor Tref Llanbed yn cael eu cynnal dros y penwythnos er mwyn dathlu "arwyr di-glod" y dref - sef rheiny sy'n gwneud gwahaniaeth trwy gyfrannu at fywyd cymunedol, ac yn defnyddio eu hamser i helpu ac ysbrydoli eraill.
Un sydd wedi ei henwebu yw Angie McDermott, sy'n casglu sbwriel ar y stryd fawr - a hynny bob wythnos yn ddi-ffael.
“Rwy’n ymfalchïo yn lle dwi’n byw ac am iddo edrych mor braf â phosib. Mae'n rhoi argraff dda i dwristiaid,” meddai Ms McDermott.
“Rwy’n dod o Lundain ac wedi ymddeol yma gyda fy ngŵr. Mae pobl mor gyfeillgar ac mae'r awyrgylch yn dda. Mae’n dangos ein bod ni’n ceisio gwneud pethau’n well a’n bod ni’n gofalu am y gymuned hon.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: “Er bod rhai amrywiadau rhanbarthol wedi bod yng nghyflymder cyflwyno’r rhaglen, yn enwedig yn y cyfnod cynnar pan oedd oedi o ran Covid yn dal i gael effaith, mae pob rhanbarth wedi gallu cyflwyno cynigion buddsoddi cryf sydd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cefnogi bywiogrwydd canol ein trefi.”