5 cornel o Gymru ar ochr arall y ffin

Mae dwy hen ardal Gymreig Ergyng ac Ewias ar ochr Lloegr o'r ffin erbyn hyn
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Yr awdur Mike Parker sydd wedi dewis pump o lefydd Cymreig yr ochr draw i Glawdd Offa (Offa's Dyke) i fynd am dro i'w gweld.
Mae Mike wedi ysgrifennu llyfr am y ffin rhwng Cymru a Lloegr, All the Wide Border: Wales, England and the places between.

Wedi ei eni ddim ymhell o'r ffin yn Lloegr mae Mike Parker yn byw yng Nghymru erbyn hyn
Coedwig Colunwy (Clun Forest)

Coedwig Colunwy
Coedwig Colunwy yw ardal fwya' gorllewinol Lloegr ar hyd ffin Cymru. Mae 'na nifer o olygfeydd prydferth a phentrefi bychain.
Mae gan Bettws-y-Crwyn eglwys hardd iawn.
Mae'n dda i weld Castell Bryn Amlwg ac yr hen Anchor Inn, sef yr ysbrydoliaeth ar gyfer nofel enwog Mary Webb, Seven for a Secret. Ysgrifennodd hi bod yr ardal yn gorwedd 'between the dimpled lands of England and the gaunt purple steeps of Wales - half in faery and half out of it'.
Croesoswallt (Oswestry)

Mae Croesoswallt yn disgrifio ei hun fel 'tref fwya' Cymreig Lloegr', a mae hynny yn dweud y cyfan!
Cyn yr oes Normanaidd, roedd ardal gorllewin Swydd Amwythig yn rhan o deyrnas Gymreig o'r enw Pengwern. Mae'r cysylltiad Cymreig yma dal yn amlwg yn ardal Croesoswallt.
Mae llawer i'w weld yn y dref gan gynnwys amgueddfa ddiddorol, marchnad ardderchog, tafarndai croesawgar a theithiau cerdded yn yr ardal.
Fforest Ddena

Roedd y dramodydd enwog Dennis Potter yn disgrifio Fforest Ddena fel 'the heart-shaped place between two rivers'.
Mae'n eistedd rhwng ochr Seisnig yr Afon Gwy ac ochr Gymreig Afon Hafren.
Mae y goedwig yn hyfryd, ond mae gweddillion diwydiant i'w gweld mewn llefydd. Mae'r pentrefi yn daclus, ond mae'r blodau wedi eu hanner bwyta ar ochr y ffordd gan fod hwn yn gartref i boblogaeth baedd gwyllt mwyaf Prydain.
Mae'r Forest of Dean Sculpture Trail yn daith cerdded yn yr ardal. Fel yn y Cymoedd, roedd glowyr Dena yn hoff iawn o rygbi, bandiau pres a hyd yn oed eisteddfodau. Mae'n ardal unigryw!
Ergyng ac Ewias

Mae Ergyng ac Ewias yn ddwy deyrnas Gymreig cafodd eu gwahanu oddi wrth Gymru canrifoedd yn ôl. Ergyng (Archenfield yn Saesneg) yw rhan dde-orllewinol Swydd Henffordd: tir sy'n llawn caeau, tafarndai ac eglwysi.
Dyma lle mae'r Herefordshire Romanesque, enghreifftiau gwych o waith cerrig o gyfnod y Normaniaid. Y mwyaf rhyfeddol ohonynt i gyd yw Llanddewi Cil Peddeg (Kilpeck), hen brifddinas Ergyng.
Yn agos at y ffin fodern mae teyrnas fechan Ewias, gan gynnwys Dyffryn Aur a Dyffryn Olchon. Mae'n dda i'w weld ar droed neu feic. Yma, mae angen i chi fynd yn araf.
Y Ddyfrdwy

Gallwch sefyll ar y bont dros yr afon Dyfrdwy sydd yn cysylltu trefi Holt (sir Ddinbych) a Farndon (Swydd Caer).
Mae'r trefi yn yr ardal yn werth eu gweld: Holt gyda'i gapeli, terasau brics coch a'i gastell, a Farndon yn llawn villas.
Mae'r Ddyfrdwy yn llawn pethau diddorol - ewch am dro o Farndon i Aldford, pentre stâd Grosvenor (Dugiaid Westminster).
Neu ewch i ochr arall Caer. Yn swyddogol, Cymru yw e, ond mae'n teimlo fel lle gwahanol iawn.
Geirfa
Clawdd Offa / Offa's Dyke
gorllewinol / westerly
ffin / border
ysbrydoliaeth / inspiration
teyrnas / kingdom
cysylltiad / connection
gweddillion diwydiant / remains of industry
baedd gwyllt / wild boar
unigryw / unique
gwahanu / separate
de-orllewinol / south-westerly
gwaith carreg / stone work
prifddinas / capital city
terasau / terraced houses
stâd / estate
Dugiaid / Dukes
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2024