Y Golden Cross: Bar hoyw hynaf Cymru

Y Golden Cross
  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Yng nghanol Caerdydd mae nifer o adeiladau uchel, swyddfeydd a fflatiau newydd.

Ac yn eistedd yng nghanol yr adeiladau yma mae yna dafarn statws Gradd II, sy'n ein hatgoffa o hanes diddorol yr ardal yna o Gaerdydd.

Mae tafarn y Golden Cross ar gornel Stryd y Tollty a Heol Pont yr Aes, tafliad carreg o Ganolfan Siopa Dewi Sant.

Dyma hanes bar hoyw hynaf Cymru.

Mae'r dafarn heddiw mewn rhan o Gaerdydd sydd wedi cael ei hadfywio dros y blynyddoedd diwethaf.

Yn yr 20fed ganrif roedd tafarndai'r ardal yn cael cwsmeriaid a oedd yn weithwyr o'r dociau neu'n forwyr.

Ar un adeg roedd dros ddwsin o dafarndai yn y gornel yma o Gaerdydd, ond heddiw Y Golden Cross yw'r unig un sy'n dal yno.

Daeth y Golden Cross yn dafarn hoyw swyddogol dros 20 mlynedd yn ôl. Dros y blynyddoedd mae'r sîn LHDTC wedi tyfu yng Nghaerdydd.

Yn 1846 roedd y dafarn wreiddiol wedi agor dan yr enw The Shields and Newcastle Tavern.

Yn 1855 newidiodd yr enw i The Castle Inn, ond yn 1863 newidiodd eto i'w henw presennol, The Golden Cross.

Fodd bynnag, mae adeilad presennol y dafarn yn dyddio i ddechrau yr 20fed ganrif.

Mae tu mewn y Golden Cross yn drawiadol iawn gyda llythrennau SA Brain & Co. Ltd. i'w gweld yn glir ar y ffenestri tu allan.

Disgrifiad o’r llun,

Y teils Craven Dunnill sydd i'w gweld yn y prif far

Tu mewn i'r dafarn mae'r rhan fwyaf o'r nodweddion gwreiddiol wedi eu cadw, oherwydd fod y perchnogion a'r staff eisiau cadw cymeriad y dafarn.

Mae'r teils Craven Dunnill ar waliau'r prif far cyhoeddus, mewn brown a gwyrdd ar y dado, a melyn a gwyrdd uwchben.

Disgrifiad o’r llun,

Llun o Gastell Caerdydd a gafodd ei baentio gyda llaw yn 1903

Mae yna ddau banel wedi eu paentio gyda llaw; mae'r un mawr yn y bar cyhoeddus o Gastell Caerdydd o 1903.

Mae llun teils o Hen Neuadd y Dref yn 1863 gan Craven Dunnill o Jackfield, Swydd Amwythig.

Mae yna hefyd banel yn dangos hen fragdy Brains ar Heol Eglwys Fair, Caerdydd yn 1890.

Disgrifiad o’r llun,

Llun o hen Fragdy Brains ar Heol y Santes Fair yn ystod Oes Fictoria

Mae statws rhestredig Gradd II y dafarn yn golygu bod nodweddion gwreiddiol yr adeilad yn gorfod cael eu cadw ar gyfer y dyfodol.

Geirfa

tafarn / pub

Gradd / Grade

atgoffa / remind

tafliad carreg / stone's throw

hoyw / gay

adfywio / regenerate

canrif / century

morwyr / seamen

dwsin / dozen

swyddogol / official

LHDTC / LGBTQ

gwreiddiol / original

presennol / present

dyddio / dates

trawiadol / stunning

disgwyl / expect

nodweddion gwreiddiol / original features

perchnogion / owners

Swydd Amwythig / Shropshire

bragdy / brewery

cyntedd / porch

rhestredig / listed

Pynciau cysylltiedig