Beth yw Gorsedd y Beirdd?
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae'n rhan bwysig o Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ond beth yw Gorsedd y Beirdd?
Ar Fryn y Briallu, Llundain, cafodd yr Orsedd ei sefydlu yn 1792 gan Iolo Morganwg.
Daeth yn rhan o'r Eisteddfod ar ddechrau'r 19eg ganrif, mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin.
Mae Cylch yr Orsedd wedi ei ffurfio o 12 carreg. Y garreg fawr wastad yng nghanol y cylch yw'r Maen Llog, a dyma lwyfan yr Archdderwydd yn ystod y seremonïau.
Mewn trefi ar hyd a lled Cymru, gallwch weld cylchoedd cerrig, sydd yn arwydd fod yr Eisteddfod wedi bod yno.
Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Mae'n cael ei ethol gan yr Orsedd am dair blynedd.
Mae'n arwain seremonïau'r Orsedd, fel y Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.
Mae aelodau'r Orsedd yn cael eu galw yn dderwyddon ac mae gan bob un enw barddol.
Dyma gymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant.
Enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod sy'n gwisgo'r wisg wen. Gallwch adnabod enillwyr y Goron, y Gadair a'r Fedal Ryddiaith gan eu bod yn gwisgo llawryf am eu penwisg.
Mae'r aelodau sy'n gwisgo gwyrdd ym myd y celfyddydau. Mae enillwyr cadair a choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gwisgo'r wisg werdd.
Mae'r wisg las ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i'w bro neu i'r genedl ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu'r Cyfryngau.
Mae sain y ddau Gorn Gwlad yn rhan bwysig o ddefodaeth yr Orsedd ers yr 1860au. Gallwch glywed y ffanffer cyfarwydd pan mae enillwyr prif wobrau'r Eisteddfod yn cael eu galw i'r llwyfan yn y Pafiliwn.
Mae'r Blodeuged, sef tusw o flodau'r maes, a'r Corn Hirlas yn cael eu cyflwyno i'r Archdderwydd gan bobl yr ardal.
Mae plant o ardal yr Eisteddfod yn perfformio'r ddawns flodau, sydd yn cyfleu casglu blodau'r maes.
Mae'r cleddyf yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremonïau'r Eisteddfod.
Ceidwad y Cledd sy'n gofalu ar ôl y cleddyf. Gan ei fod yn gleddyf heddwch, nid yw byth yn cael ei ddadweinio i gyd.
Mae derwyddon enwog yn cynnwys sêr Hollywood Ioan Gruffudd a Matthew Rhys, y cantorion Bryn Terfel a Caryl Parry-Jones, yr athletwyr Tanni Grey-Thompson ac Aled Siôn Davies, y cyflwynwyr Alex Jones a Huw Stephens, a'r cewri rygbi Cymru George North a Jamie Roberts.
Geirfa
Bryn Briallu/Primrose Hill
sefydlu/to establish
canrif/century
gwastad/flat
llwyfan/stage
Archdderwydd/Archdruid
seremonïau/ceremonies
ethol/elect
arwain/lead
Coroni/Crowning
Y Fedal Ryddiaith/Prose Medal
Cadeirio/Chairing
derwyddon/druids
enw barddol/bardic name
cyfraniad/contribution
llawryf/laurel
penwisg/headdress
celfyddydau/arts
defodaeth/ritualism
gwasanaeth/service
cyfarwydd/familiar
tusw/bouquet
Corn Hirlas/Horn of Plenty
cyfleu/to depict
cleddyf/sword
Ceidwad y Cledd/Keeper of the Sword
heddwch/peace
dadweinio/to unsheath
cewri/giants
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd9 Mai