Gwaharddiad gyrru i bêl-droediwr am fethu rhoi gwybodaeth i'r heddlu

Enzo Fernandez yn ystod gêm Chelsea yn erbyn Crystal Palace ddechrau MediFfynhonnell y llun, Action Images/Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Enzo Fernandez naw pwynt ar ei drwydded cyn yr achos dros fethu â datgelu gwybodaeth i'r heddlu

  • Cyhoeddwyd

Mae pêl-droediwr yn Uwchgynghrair Lloegr wedi cael ei wahardd rhag gyrru am chwe mis wedi i lys ei gael yn euog o fethu â datgelu gwybodaeth i'r heddlu am drosedd gyrru yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd chwaraewr canol cae Chelsea a'r Ariannin, Enzo Fernandez, ei ddyfarnu'n euog gan ynadon ym mis Gorffennaf o beidio dweud wrth Heddlu Dyfed-Powys pwy oedd gyrrwr car Porsche oedd yn cael ei amau o yrru drwy olau coch yn Llanelli ar 28 Tachwedd 2023.

Cafodd ei ddyfarnu'n euog hefyd o fethu â rhoi gwybod pwy oedd yn gyrru'r un car oedd yn cael ei amau o oryrru ar Ffordd Caerfyrddin, Abertawe ar 20 Rhagfyr 2023.

Does dim prawf mai Mr Fernadez oedd y gyrrwr ar y ddau achlysur, ond fe glywodd y llys nad oedd wedi ymateb i geisiadau am wybodaeth ynglŷn â phwy oedd yn gyrru'r care.

Mae'r gwaharddiad gyrru yn dod i rym yn syth.

Mae Enzo Fernandez eisoes wedi cael naw pwynt ar ei drwydded wedi tair trosedd goryrru rhwng 8 Awst, 2023 a 3 Mawrth 2024.

Fe roddodd Cadeirydd yr Ynadon, Wyn Evans, chwe phwynt cosb yr un yn achos y ddwy drosedd, gan ddod â'r cyfanswm ar ei drwydded yrru i 21.

Yn ogystal â'r gwaharddiad gyrru, bydd yn rhaid i Fernandez dalu cyfanswm o £3,020 mewn dirwyon a chostau.

Fe gafodd orchymyn i dalu dirwy o £1,000 a £100 o gostau i Heddlu Dyfed-Powys mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn Llanelli.

Mae hefyd yn gorfod talu dirwy o £1,000 i Heddlu De Cymru, ynghyd â thaliad ychwanegol o £800 a £110 o gostau.

Fe fydd yn rhaid iddo dalu'r holl arian erbyn 9 Hydref.

Absennol o'r llys

Fel yn achos y gwrandawiad blaenorol, nid oedd y chwaraewr 23 oed y talodd Chelsea dros £106m amdano yn y llys i glywed y ddedfryd.

Fe chwaraeodd i'r Ariannin ddydd Mawrth wrth i'w dîm golli yn erbyn Colombia mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd.

Roedd yn aelod o'r tîm a enillodd Cwpan y Byd yn 2022 ac fe ymunodd â Chelsea yn 2023.

Roedd dogfennau'r llys yn nodi dau gyfeiriad ar ei gyfer - un yn Kingston upon Thames a maes hyfforddi Chelsea oedd y llall.