Clefyd Parkinson: Dosbarthiadau samba yn llwyddo i 'godi ysbryd'

Eirwen Malin
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eirwen Malin ddiagnosis o glefyd Parkinson 10 mlynedd yn ôl

  • Cyhoeddwyd

"Mae rhai rhannau o bob diwrnod yn ofnadwy, ond does dim rhaid iddo fe fod fel'na pan chi allan yn mwynhau."

Mae menyw wedi sefydlu dosbarthiadau SParky Samba yng Nghaerdydd i "godi ysbryd" a helpu pobl ymdopi gyda chlefyd Parkinson.

Cafodd Eirwen Malin, 73 oed o Wenfô ym Mro Morgannwg, ddiagnosis o'r cyflwr 10 mlynedd yn ôl.

Daeth y syniad ar ôl sgwrs gyda'i mab am sut y gallai rhythmau a churiadau'r offerynnau taro helpu gyda rhythmau'r ymennydd.

Dywedodd Parkinson's UK Cymru bod samba yn "wych" i helpu pobl sydd â'r cyflwr, yn gorfforol ac yn feddyliol.

'Ddim yn siŵr pwy o'n i'

Daeth diagnosis Eirwen - sy'n wreiddiol o Wrecsam - fel "syrpreis" iddi, a dywedodd ei bod wedi cymryd "tipyn o amser i ddod i’r afael â'r peth".

"O'n i ddim cweit yn siŵr ble o'n i… ddim yn siŵr pwy o'n i a dweud y gwir," meddai.

"O'n i 'di mynd o fod yn rhywun hollol iach a chryf - bron yn bennaeth y teulu - ac wedyn o'n i'n rhywun efo rhyw broblem, o'dd e’n od iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Grŵp SParky Samba Caerdydd yn cynnal arddangosfa yn Rhydaman yn ddiweddar

Ar ôl rhai blynyddoedd yn dod i arfer â'i diagnosis, roedd Eirwen eisiau dod o hyd i weithgaredd y gallai hi ei wneud i helpu gyda'i chyflwr.

"Un bore roeddwn i’n siarad â fy mab, sydd â ffrindiau mewn band samba, am sut y gallai'r rhythmau o’r offerynnau helpu gyda Parkinson's.

"Oherwydd mae lot o bethau sy'n mynd o'i le gyda Parkinson's yn ymwneud â rhythmau… fel rhythmau cerdded, rhythmau nofio.

"Mae rhai therapyddion yn defnyddio beats a cherddoriaeth i helpu pobl, ac o'n i’n meddwl 'wel os yw’r curiad tu mewn i dy ben di, efallai gall hwnna helpu' oherwydd ti methu anghofio samba - mae'r curiad wastad yn dy ben di."

'Dod mewn yn drist, gadael yn hapus'

Mae samba yn gerddoriaeth o Dde America, gyda'i wreiddiau yn niwylliant Affro-Brasil, sy'n cael ei berfformio gyda llawer o offerynnau taro.

Mae gan bob aelod o ensemble samba rôl benodol gan fod y gerddoriaeth yn aml yn golygu gosod gwahanol rythmau dros ei gilydd.

Gyda chymorth Parkinson's UK Cymru ac arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, penderfynodd Eirwen sefydlu dosbarth SParky Samba i bobl gyda chlefyd Parkinson yng Nghaerdydd yn 2022.

Dywedodd Eirwen: "Mae’r sesiynau yn mor uplifting ac yn helpu i godi ysbryd pobl.

"Mae pobl yn dod mewn yn drist ac yn gadael yn hapus."

Erbyn hyn, mae’r dosbarthiadau yn digwydd mewn tri rhanbarth gwahanol yng Nghymru - Caerdydd, Llandudno a Sir Benfro.

Mewn cwrs preswyl i bobl â chlefyd Parkinson ym Mhen-y-bont ar Ogwr, perfformiodd Eirwen a’r grŵp o Gaerdydd, cyn cynnal gweithdy.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brenda Thomas ei bod wedi "joio mas draw" yn y gweithdy SParky Samba

I Brenda Thomas o Rydaman, dyma oedd y tro cyntaf iddi drio samba.

Cafodd hi ddiagnosis clefyd Parkinson ym mis Mehefin 2023, a dywedodd fod cadw'n brysur yn ei helpu i ymdopi.

"Joiais i mas draw. Nes i ddim gwisgo'r earplugs - troes i'r hearing aids off a theimlo'r vibrations yn dod trwy’r llawr.

“O'dd e'n hollol ffantastig.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Liz Morgan o Parkinson's UK Cymru o'r farn bod samba yn "wych" i helpu pobl sydd â'r cyflwr

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd bellach yn edrych ar sut yn union y gallai samba wella canlyniadau iechyd a lles i bobl â chlefyd Parkinson.

Dywedodd Liz Morgan o Parkinson's UK Cymru ei bod hi'n gyffrous i weld dosbarthiadau Eirwen yn cael y sylw maen nhw'n eu haeddu.

"Mae'n helpu pobl yn ffisegol ac yn feddyliol oherwydd ti'n gorfod cadw'r beats a hefyd ti'n gallu anghofio am bethau am sbel fach.

"Mae’n wych."

Pynciau cysylltiedig