Dyn 92 oed wedi marw ar ôl mynd yn sownd mewn mwd - cwest

- Cyhoeddwyd
Roedd dyn 92 oed o ardal Cricieth wedi marw o hypothermia ar ôl mynd yn sownd mewn mwd mewn cae, clywodd cwest.
Roedd adroddiadau bod William Morris Jones, oedd yn ofalwr tir cyn ymddeol, wedi mynd ar goll yn fuan ar ôl y Nadolig y llynedd.
Daethpwyd o hyd iddo ddiwrnod yn ddiweddarach mewn cae llawn dŵr heb fod ymhell o'i gartref yn Rhoslan.
Cafodd cwest yng Nghaernarfon ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal i'r hyn ddigwyddodd.
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2024
Roedd William Morris Jones wedi diflannu ar 28 Rhagfyr 2024, ac roedd yr heddlu wedi apelio ar gyfryngau cymdeithasol am wybodaeth.
Daethpwyd o hyd iddo'n farw y diwrnod canlynol.
Dywedodd y Crwner Cynorthwyol Sarah Riley: "Daethpwyd o hyd iddo mewn cae a oedd yn hynod o gorsiog ac yn llawn dŵr.
"Mae'n ymddangos iddo fynd yn sownd mewn mwd wrth groesi'r cae.
"Roedd y llwybr yn un y byddai'n ei gymryd fel arfer, ond roedd amodau ar y pryd yn hynod o anodd i'w pasio."
Roedd archwiliad post mortem yn dangos ei fod wedi marw o fronco-niwmonia a achoswyd gan hypothermia.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.