Dim cytundeb Ironman Cymru yn Sir Benfro tu hwnt i 2026

Lewis EcclestonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lewis Eccleston oedd enillydd y dynion yng nghystadleuaeth 2025 yn Ninbych-y-pysgod

  • Cyhoeddwyd

Dyw Cyngor Sir Penfro ddim wedi taro bargen eto gyda threfnwyr cystadleuaeth triathlon Ironman ynglŷn â chynnal y digwyddiad yn y sir tu hwnt i 2026.

Mae cystadleuaeth Ironman Cymru wedi cael ei chynnal yn Sir Benfro ers 2011.

Mae'r digwyddiad yn cynnwys cwrs nofio 2.4 milltir, taith o 112 milltir ar gefn beic o amgylch Sir Benfro, a marathon llawn i gwblhau'r ras - sy'n dechrau a gorffen yn Ninbych-y-pysgod.

Mae'r cytundeb presennol i gynnal Ironman yn Sir Benfro yn dod i ben flwyddyn nesaf.

Franziska HofmannFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Franziska Hofmann wnaeth ennill ras y merched eleni

Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Penfro yn darparu £65,000 y flwyddyn o gefnogaeth ariannol i'r digwyddiad, ynghyd â gwasanaethau eraill fel glanhau strydoedd a chasglu sbwriel.

Y gred yw bod y digwyddiad yn cyfrannu tua £5m i'r economi leol.

Mae trafodaethau rhwng Cyngor Sir Penfro ac Ironman yn parhau, ond mae rhai cynghorwyr wedi mynegi pryder am effaith digwyddiadau triathlon mawr ar eu cymunedau.

Nôl ym mis Rhagfyr 2024 fe gyflwynwyd rhybudd gynnig gan Chris Williams ac Alec Cormack yn galw ar y cyngor sir i dynnu cefnogaeth ariannol ar gyfer digwyddiad blynyddol Long Course, sy'n cael ei gynnal ym mis Mehefin, yn sgil "effaith ar drigolion a busnesau" oedd yn byw ger y cwrs.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro bod y cytundeb presennol ar gyfer Ironman Cymru yn dod i ben yn 2026.

"Mae'r cyngor yn edrych 'mlaen at groesawu Ironman Cymru ar 13 Medi 2026, ond dyw hi ddim yn bosib gwneud unrhyw sylw am gytundebau yn y dyfodol i gynnal y digwyddiad, am fod trafodaethau yn parhau."

Dywedodd llefarydd ar ran Ironman: "Rydym mewn trafodaethau gyda Chyngor Sir Penfro ar gytundeb i lwyfannu Ironman Cymru y tu hwnt i 2026, ac rydym yn obeithiol am ddyfodol y ras ar ôl y flwyddyn nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.