Awyrgylch Ironman Cymru yn 'well nac unman arall'

Shane williams yn nofioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol, Shane Williams, yn cystadlu yn Ironman Cymru am yr wythfed tro eleni

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth miloedd o athletwyr heidio i Ddinbych-y-pysgod ddydd Sul i gystadlu yn Ironman Cymru – sydd bellach yn un o'r digwyddiadau mwyaf yn y calendr chwaraeon yng Nghymru.

Eleni fe wnaeth y ras ddenu dros 2,700 o gystadleuwyr o bob cwr o'r byd - yn eu plith athletwyr proffesiynol benywaidd a oedd yn cystadlu am gyfran o'r wobr ariannol o $50,000 a lle yn Ironman y Byd yn 2026.

I gyflawni ras Ironman mae'n rhaid nofio am 2.4 milltir, seiclo am 112 o filltiroedd, ac yna rhedeg Marathon.

Un a fu'n cymryd rhan oedd Shane Williams, cyn-seren rygbi Cymru, a hynny am yr wythfed tro.

"Fi'n lwcus bo' fi dal yn gallu cystadlu yn un o'r rasys gorau yn y byd! Os ti'n cystadlu yn Ironman Cymru ti'n gallu cymharu hynny gyda Ironmans dros y byd. I fi hon yw'r gorau."

cystadleuwyr yn nofio yn Ironman Cymru 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 2,700 o gystadleuwyr yn ceisio cwblhau'r ras ddydd Sul

Fe ddechreuodd digwyddiadau'r penwythnos yn swyddogol ddydd Gwener gyda rhediad ysgafn i'r athletwyr ond hefyd y ras boblogaidd Ironkids - sef triathlon i blant.

Ond uchafbwynt y penwythnos oedd y brif ras ddydd Sul lle mae cystadleuwyr yn nofio yn y môr, beicio drwy Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro cyn rhedeg drwy ganol tref Dinbych-y-pysgod.

Y gefnogaeth 'yn arbennig'

Mae Shane Williams yn pwysleisio mai'r awyrgylch sydd yn ei ddenu'n ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn.

"Yr awyrgylch reit rownd y ras, y gefnogaeth ym mhob tref chi'n mynd trwyddo a hefyd Dinbych-y-pysgod ei hun dros y penwythnos – arbennig!

"S'dim unman fel Dinbych-y-pysgod," meddai cyn ras eleni.

"Fi'n edrych 'mlaen, gobeithio bydd y tywydd yn clirio lan a fi'n gallu mynd mas 'na yn saff, joio'r ras a gorffen ar ddiwedd y dydd."

Rhai o'r criw sy'n trefnu Ironman CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai adrannau o'r cwrs yn Ninbych-y-pysgod bellach yn "eiconig ar draws y byd," meddai un o'r criw sy'n trefnu

Mae'r digwyddiad wedi tyfu'n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl Rhys Tiplady o dîm trefnu Ironman Cymru,

"Ni 'di gweld cynnydd o tua 2,000 o athletwyr i'r pwynt lle ni'n gwerthu allan yn gyson gyda 2,700 a mwy o athletwyr," meddai.

"Mae'n hwb enfawr i'r ardal leol... gyda gwestai'n llawn flwyddyn ymlaen llaw."

Mae'r elfennau unigryw i'r ras yn Ninbych-y-pysgod sydd hefyd yn destun balchder i'r trefnwyr.

"Fi'n siŵr bo' lot o bobl 'di gweld yr anthem yn cael ei ganu cyn y nofio – sy'n wefr arbennig i nid yn unig yr athletwyr, ond i ni fel staff a chefnogwyr hefyd.

"Y rhedeg o'r nofio i'r transition... yn Llanusyllt, sy'n cael ei adnabod fel 'Heartbreak Hill' – mae'n eithaf eiconig ar draws y byd."

Mel Davies yn rhedegFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Mel Davies yn gobeithio cwblhau Ironman Cymru am yr eildro ddydd Sul

Un arall fydd yn mentro yw Mel Davies, sy'n rhoi cynnig ar yr her am yr eildro.

"Nes i 'weud 'never again' ond fi 'ma to! Mae 'na rywbeth spesial am Ddinbych-y-pysgod sy'n tynnu pobl 'nôl bob blwyddyn.

"Mae'r cyffro rownd Dinbych-y-pysgod a'r clwb a phawb sy'n neud e wedi bod yn electrig am yr wythnos neu ddwy ddiwethaf... Pawb just wedi bod yn excited, yn nerfus, checo tywydd dwy, dair gwaith y dydd!"

Ond er y cyffro, mae Mel yn dweud bod yr ymarfer wedi bod yn heriol.

"Mae'r training wedi bod yn galed iawn, rhaid fi 'weud dros y gaeaf... Ond mae wedi bod yn help mawr traino efo'r clwb - Clwb Triathlon Caerfyrddin."

Mae IRONMAN Cymru wedi cadarnhau y bydd y digwyddiad yn dychwelyd i Ddinbych-y-Pysgod yn 2026, heb unrhyw gynlluniau i'w symud.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.