Teyrnged i dad fu farw wedi i gar daro becws

Bu farw Ryan Anthony Bagnall yn fuan ar ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiadFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ryan Anthony Bagnall yn fuan ar ar ôl cael ei gludo i'r ysbyty wedi'r gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn a fu farw wedi i gar daro becws yn Wrecsam fore Llun wedi talu teyrnged iddo.

Roedd Ryan Anthony Bagnall yn 26 oed ac yn dod o ardal Gwersyllt ar gyrion y ddinas.

Bu farw ychydig ar ôl cael ei gludo i Ysbyty Maelor Wrecsam wedi i'r Vauxhall Corsa gwyn roedd o'n ei yrru daro ffenestr flaen becws Gerrards ar Ffordd Rhuthun ychydig wedi 02:00.

Mae dynes oedd yn teithio yn y car yn parhau i gael triniaeth at "anafiadau sylweddol" mewn ysbyty yn Stoke.

“Roedd Ryan yn rôg gofalgar a hoffus," dywedodd ei deulu mewn datganiad.

"Roedd yn dad ffyddlon i'w ddwy ferch ac fe fydd yn cael ei golli gan ei deulu a'i ffrindiau.

"Gofynnwn nawr am breifatrwydd wrth i ni alaru."

Mae ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru i'r achos yn parhau.

Dywedodd y Sarjant Steve Richards o Uned Plismona'r Ffyrdd: “Er i'r gwrthdrawiad yma ddigwydd yn yr oriau mân, rydym yn parhau i annog unrhyw un all fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu unrhyw un all fod â lluniau dash cam neu CCTV, i gysylltu â ni.”

Pynciau cysylltiedig