Lluniau gŵr a gwraig i atgoffa pobl ifanc am streic y glowyr
- Cyhoeddwyd
"Creu cofnod." Dyna oedd bwriad y newyddiadurwraig Amanda Powell a'i gŵr y ffotograffydd Richard Williams wrth gyhoeddi llyfr newydd am streic y glowyr gychwynnodd 40 mlynedd yn ôl i eleni.
"Roedden ni yn ymwybodol iawn fod pobl ifanc ddim yn gwybod am be ddigwyddodd, nid yn unig yn ystod y streic ond yn hanes y diwydiant," meddai Ms Powell.
"Dyna pam roedden ni'n meddwl ei bod hi yn bwysig iawn bod atgofion pobl yn cael eu cadw fel cofnod parhaol fel bod pobl yn gwybod beth yw ein hanes ni."
Mae'r gyfrol Coal and Community in Wales – Images of the Miners’ Strike: Before, During and After yn cynnwys lluniau gan Richard o'r cyfnod a hefyd straeon personol rhai o'r bobl sy'n ymddangos yn y lluniau.
Dywed Amanda Powell: "Mae'r lluniau yn adrodd stori blynyddoedd diwethaf y pyllau glo dwfn yn ein hardal leol, yn bennaf trwy’r bobl a oedd yno, yn y pyllau glo a’r cymunedau.
"Pan sylwon ni fyddai eleni yn nodi pen-blwydd y streic yn 40, roedden ni'n gwybod bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth."
Mae Richard Williams yn gyn-ffotograffydd a golygydd lluniau'r Western Mail.
Dywedodd ei fod wedi "sylweddoli ers fy arddegau fy mod yn dyst i ddirywiad y diwydiant mwyngloddio glo o'm cwmpas, ac fe es ati i gofnodi'r dirywiad blynyddoedd cyn i streic 1984-85 ddechrau".
"Fe ddilynais y streic hyd at y diwedd, ac yna tynnu lluniau o'r hyn a ddigwyddodd wrth i'r glowyr fynd yn ôl i'w gwaith, ac wedi hynny, wrth i'r pyllau glo oedd yn weddill gau."
Yr hyn wnaeth daro'r ddau wrth baratoi'r llyfr oedd bod pob un o'r bobl y bu nhw'n eu holi yn teimlo'r un mor gryf am y streic heddiw ag oedden nhw 40 mlynedd yn ôl.
"Ar y cyfan, roedd pobl yn teimlo'r un mor gryf, neu hyd yn oed yn gryfach dros eu rhesymau am brotestio yn erbyn cynlluniau’r llywodraeth a'r NCB i gau'r pyllau glo.
"Mae'n hawdd gweld pam – dyw’r cymoedd neu gymunedau glo ddim wedi gwella'n ariannol ers aeth y diwydiant glo."
Wrth edrych yn ôl un peth sy'n taro'r ddau yw bod mwy o wybodaeth ar gael nawr am gynlluniau'r Llywodraeth Dorïaidd ar y pryd a'r Prif Weinidog Margaret Thatcher.
"Ry'n ni'n gwybod llawer mwy nawr am sut oedd y Llywodraeth ar y pryd wedi paratoi am y streic.
"Dwi ddim yn meddwl fod newyddiadurwyr na'r glowyr wedi sylweddoli faint o ymdrech oedd Llywodraeth Thatcher wedi rhoi i sicrhau fod popeth yn erbyn y glowyr ar y pryd."
Wrth grynhoi be mae'r lluniau yn ei gyfleu, mae'r ddau yn gytûn mai emosiynau yw'r ateb.
"Mae rhai o luniau mwyaf emosiynol fy ngŵr, yn dod o’r diwrnod pan oedd y gymuned ym Mlaengarw, ger Penybont-ar-Ogwr, yn protestio oherwydd roedd glöwr wedi torri’r streic a dychwelyd i’r gwaith," meddai.
"Roedd bron yr holl gymuned allan ar y strydoedd, ac mae dicter a theimladau’r protestwyr yn neidio allan o'r lluniau.
"Hefyd, o'r un diwrnod yn ystod y streic, ry' ni’n gweld gwraig glöwr yn ymladd gyda'r heddlu.
"Dwi'n hoff iawn o’r llun hwn oherwydd mae hi’n gwisgo ffrog haf ar ddiwrnod heulog, bag llaw dros ei braich ac mae hi’n mynd ati yn ffyrnig yn erbyn yr heddlu.
"Mae'r lluniau yn atgoffa ni’n gryf pa mor galed oedd y streic a sut oedd pobl yn dioddef."
Un arall sydd wedi cadw cofnod o gyfnod y streic mewn lluniau y gwnaeth e dynnu ar y pryd yw'r ffotograffydd amatur Geraint Burgess o Ystradgynlais.
Roedd y cyn-löwr wedi gweithio ym mhyllau Treforgan a Blaenant ers pan yn 18 oed.
"Bues i'n cymryd llunie i gadw cofnod ac atgofion am byth o be oedd yn digwydd. 'Sdim colliers ar ôl nawr," meddai.
"Ma'r rhan fwya' o'r bois sy' yn y llunie gyda fi, yn anffodus, wedi marw erbyn hyn. Roedd llunie yn bopeth i fi."
Mae e'n cofio dweud wrth ei dad, oedd yn gyn-löwr ei hun, fod y streic yn dechrau yn 1984.
"Fe dd'wedodd e wrtha'i: 'Os byddi di yn croesi'r llinell biced, bydd di ddim yn croesi stepen drws y tŷ hwn eto.' Ac roedd e o ddifri."
Achub swyddi a chymunedau oedd bwriad y streic, meddai Mr Burgess.
Mae'n cyfaddef ei bod hi'n amser caled yn ariannol ac yn emosiynol, ond ei fod e'n lwcus oherwydd ei fod e ar y pryd yn byw gyda'i fam a'i dad.
Roedd e wedi treulio cryn dipyn o amser yn ystod blwyddyn y streic yn picedu. Dyna le buodd yn tynnu llawer o'i luniau.
"Roedd lot o densiwn, ond bydden ni yn sefyll 'nôl. Roedd yr heddlu yn cadw llygad arno fi, galle ni glywed nhw yn dweud 'Co fe fan'na', ac o'n i'n gw'bod bo' nhw ishe cael gafel ar y camera.
"Bydden nhw yn dilyn fi. Yn y diwedd fe wnes i stopio mynd â'r camera oherwydd bo fi ffili fforddio un arall."
Yn ystod un llinell biced ym Mhenybryn fe gafodd ei arestio a'i roi mewn cell.
"Fe ges i sawl ergyd wrth iddyn nhw drio dodi fi yn y gell, a sawl clais," meddai.
Ar ddiwedd y streic fe aeth e'n ôl i'r gwaith, er ei fod e'n teimlo ar y pryd y dylen nhw wedi aros mas yn hirach.
"Bydde ni wedi gallu ennill mewn cwpl o fisoedd. Pan ethon ni'n ôl i Dreforgan fe ges i fy symud ar ôl tri mis yn unig i bwll Blaenant."
Yn 1990 daeth ei swydd ym mhwll Blaenant i ben.
"Bues i'n gweithio gyda'r cyngor wedyn, nes bo fi 'di ymddeol. Ond, yn fy nghalon rwy'n falch iawn i ddweud bo' fi 'di bod yn golier."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd24 Ebrill