10 llun: Yr etholiad cyffredinol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth y Blaid Lafur sicrhau buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol - drwy'r DU, ac yma yng Nghymru.
Cipiodd Llafur 27 sedd, ac aeth pedair i Blaid Cymru ac un i'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dyma oedd y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd i las y Ceidwadwyr ddiflannu o'r map yng Nghymru - ar noson drychinebus i'r blaid ledled y DU.
Dyma'r hyn sydd angen i chi ei wybod am yr ornest yma yng Nghymru, mewn 10 llun.
1. Colledion mawr i'r Ceidwadwyr
Roedd hi'n noson drychinebus i'r Ceidwadwyr, gan golli pob un o'u seddi yng Nghymru am y tro cyntaf ers dros 20 mlynedd. Roedd David TC Davies a phedwar cyn-Ysgrifennydd Cymru arall ymhlith nifer o wleidyddion adnabyddus i golli eu seddi nos Iau.
2. Llafur yn 'ennill a cholli ar yr un pryd'?
Fe gipiodd y blaid Lafur naw sedd yng Nghymru, gan ennill cyfanswm o 27. Ond er iddyn nhw wthio’r Ceidwadwyr allan o Gymru, fe welodd Llafur gwymp yng nghanran ei phleidlais yng Nghymru - 37% o’r bleidlais, sy'n gymharol isel i blaid sydd wedi ennill mwyafrif ysgubol. Wrth i'r blaid ddathlu, ein gohebydd gwleidyddol fu'n edrych ar y "darlun gwleidyddol gymhleth".
3. Plaid Cymru'n cipio Môn
Fe wnaeth Plaid Cymru gipio Ynys Môn oddi ar y Cediwadwyr. Roedd AS newydd yr ynys Llinos Medi dan deimlad ar ôl derbyn y canlyniadau: "'Dw i just isio cynrychioli Ynys Môn, ble 'dw i’n garu gymaint."
4. AS newydd yn creu hanes
Kanishka Narayan o’r Blaid Lafur enillodd sedd Bro Morgannwg, gan olygu mai fo ydi'r AS Cymreig cyntaf erioed o leiafrif ethnig. Fe gipiodd y sedd oddi ar gyn-Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns, a oedd yn ei chynrychioli ers 2010.
5. Un sedd i'r Democratiaid Rhyddfrydol
Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol gipio un sedd, a hynny oddi ar y Ceidwadwyr yn Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe. Wedi trechu Fay Jones, oedd wedi cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed ers 2019, dywedodd David Chadwick y byddai gan Gymru "unwaith eto lais Rhyddfrydol yn ymladd ei chornel".
6. Reform o fewn trwch blewyn o gipio Llanelli
Dyma oedd y tro cyntaf i blaid Reform UK sefyll mewn etholiad cyffredinol - a llwyddodd y blaid i orffen yn ail mewn sawl sedd yng Nghymru. Yn Llanelli, fe ddaeth y blaid o fewn 1,504 pleidlais i gipio'r sedd gan Lafur.
7. AS sgandal betio yn colli ei sedd
Fe wnaeth Craig Williams, a oedd yn rhan o'r sgandal betio, golli ei sedd ym Maldwyn a Glyndŵr. Mae’r Comisiwn Hapchwarae yn ymchwilio i fetio honedig yn ymwneud â'r etholiad gan Mr Williams - sydd wedi ymddiheuro am wneud "camgymeriad barn" a dweud ei fod yn "bwriadu clirio [ei] enw".
8. Canlyniadau 'hanesyddol' i Blaid Cymru
Llwyddodd Plaid Cymru i gadw dwy sedd a chipio'i dwy brif sedd darged yng Nghaerfyrddin ac Ynys Môn. Yn ôl yr arweinydd Rhun ap Iorwerth, roedd rhain yn ganlyniadau "rhagorol" i'r blaid: "Ma' hon di bod yn etholiad lle oeddan ni'n gwybod fod gennym ni neges glir a phositif ac mae'r canlyniad yn un hanesyddol."
9. Jo Stevens yw Ysgrifennydd Cymru
Cafodd Jo Stevens ei phenodi'n Ysgrifennydd Cymru gan Brif Weinidog Llafur newydd y DU, Syr Keir Starmer. Roedd AS Dwyrain Caerdydd wedi gwasanaethu dan Syr Keir fel llefarydd materion Cymreig yr wrthblaid yn San Steffan ers Tachwedd 2021.
10. Y canlyniadau'n llawn
A dyma hi - map gwleidyddol Cymru ar ddiwedd etholiad cyffredinol 2024. Gallwch weld pwy enillodd yn eich hardal chi yma, gan ddefnyddio'ch cod post.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf