Ydy Llafur wedi ennill a cholli ar yr un pryd?

Llafur
Disgrifiad o’r llun,

Er i nifer eu seddi gynyddu, mae'r niferoedd o bleidleisiau i Lafur wedi gostwng o'i gymharu â 2019

  • Cyhoeddwyd

Ydy Llafur yn colli ar yr un pryd ag y mae hi’n ennill yr etholiad?

Mae’n fuddugoliaeth ysgubol i’r blaid sy’n rhoi mwyafrif mawr a mandad cryf i’r Prif Weinidog newydd, Syr Keir Starmer.

Mae e wedi newid ei blaid ers iddi ddioddef colledion trwm yn yr etholiad blaenorol.

Ei wobr yw’r allwedd i Downing Street a’r cyfle i newid cyfeiriad Prydain.

Ond mae’r darlun gwleidyddol yn gymhleth.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Wrth iddyn nhw ennill cynifer o seddi a gwthio’r Ceidwadwyr allan o Gymru, fe welodd Llafur cwymp yng nghanran ei phleidlais yng Nghymru.

Cafodd Llafur 37% o’r bleidlais yng Nghymru.

Ma hynny’n gymharol isel – ac yn sicr yn isel i blaid sydd wedi ennill mwyafrif ysgubol.

Mewn llawer o lefydd fe wnaeth ymgeiswyr llwyddiannus Llafur Cymru ddenu llai o bleidleisiau eleni na’u ragflaenwyr aflwyddiannus yn 2019.

Ond fe fuon nhw’n lwcus, achos fe ddisgynnodd y bleidlais Geidwadol yn bellach - i 18%. Dyw hi ddim wedi bod mor isel â hynny ers 1918.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn gynnar yn y noson fe ddywedodd y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford y bydd 'na bethau i Lafur eu dysgu o’r canlyniadau yma.

Mae hynny’n sicr yn wir wrth i’r etholiadau i Senedd Cymru agosáu.

Oedd, roedd y pleidleiswyr eisiau cael y Ceidwadwyr allan o'r llywodraeth.

Mae hynny’n amlwg.

Ond ar ôl i’w dathliadau orffen bydd yn rhaid i Lafur weithio allan pa negeseuon eraill roedd y pleidleiswyr yn danfon yn yr etholiad hynod ddiddorol hwn.