Pwy yw'r bobl y tu ôl i ganu torfol Cwpan y Byd?
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr Cymru wedi cael eu hannog i ymuno yn y digwyddiad canu “mwyaf eto” ym Marseille y penwythnos hwn, cyn herio Ariannin yn rownd wyth olaf Cwpan Rygbi’r Byd.
Daw hynny wedi i gannoedd ymgynnull yn y dinasoedd mae Cymru wedi chwarae ynddyn nhw hyd yma, i ganu caneuon traddodiadol cyn y gemau.
Dywedodd un o’r trefnwyr, Huw Davies, ei bod hi’n “bleser o’r eithaf” i gael dangos doniau canu’r Cymry i’r byd yn ystod y gystadleuaeth.
Fe wnaeth prop Cymru, Gareth Thomas hefyd roi teyrnged yr wythnos hon i’r gefnogaeth “anghredadwy” sydd wedi dilyn y tîm ar eu taith hyd yma yn Ffrainc.
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
Dechreuodd y cyfan fel cais ar y cyfryngau cymdeithasol, cyn dod yn arferiad cyson cyn pob gêm.
Fe wnaeth cannoedd o gefnogwyr Cymru ymgynnull yng nghanol Bordeaux cyn yr ornest agoriadol yn erbyn Ffiji – er y tymheredd crasboeth – i ganu ffefrynnau megis Calon Lan, Cwm Rhondda ac Hen Wlad Fy Nhadau.
Yn dilyn llwyddiant y ‘flash mob’ cyntaf, trefnwyd digwyddiadau tebyg mewn lleoliadau yn Nice, Lyon a Nantes wnaeth hefyd ddenu torfeydd sylweddol.
“Mae canu yn ein calonnau ni, a ges i’r syniad bach cyn dod draw ‘ma y byddai’n grêt i ni’r Cymry ac i drigolion y dinasoedd lleol gael blas o’n diwylliant,” meddai Huw, sydd o Sir Gâr yn wreiddiol ond wedi byw yng Nghaerdydd ers dros 50 mlynedd.
“Mae’n hiaith a’n canu ni’n rhan bwysig o’n diwylliant ni, ac i fod yn onest mae’r bobl leol ym mhob dinas wedi adweithio.
“Ni’n canu anthem Ffrainc hefyd, La Marseillaise, ac maen nhw’n mwynhau hynny mas draw.”
'Mesen di tyfu'n dderwen'
Roedd yn ffyddiog y byddai’r digwyddiadau’n llwyddiant, meddai, gan fod y Cymry’n “fwy na hapus i droi lan i ganu... ar unrhyw achlysur”.
“Yn Lyon roedd e’n anferth. Mae fel mesen sydd ‘di tyfu’n dderwen,” meddai Huw, sy'n aelod o Gôr y Gleision.
“Fi’n gobeithio ym Marseille, bydd y dorf yn cynyddu eto.”
Mae’n falch hefyd o weld bod pobl yn ôl adref yng Nghymru wedi bod yn mwynhau clipiau o’r canu – a bod hyd yn oed chwaraewyr y garfan yn eu gwerthfawrogi.
“Mae’n galonogol clywed tîm Cymru, maen nhw’n gweld y pethe hyn ar y cyfryngau cymdeithasol, ac maen nhw’n dweud bod hwnna’n ffantastig,” meddai.
“Maen nhw’n gweld y cefnogwyr yma yn eu lluoedd ac mae’n rhoi tipyn o hwb iddyn nhw.”
Wrth siarad gyda’r wasg yr wythnos hon, fe ategodd prop Cymru Gareth Thomas y teimladau hynny.
“Mae wedi bod yn anghredadwy hyd yma – pobman i wedi mynd, maen nhw wedi teithio,” meddai.
“Chi’n gweld y fideos ohonyn nhw’n canu ar yr awyren ac yn y strydoedd, mae’n anhygoel.”
Un arall o’r rheiny sydd wedi bod yn mwynhau codi llais yw Meryl Haynes, cefnogwr a ymunodd yn y canu yn Bordeaux a Nice.
“Y teimlad o falchder oedd y peth mwyaf, just gallu dangos i bobl yn Ffrainc bod ni’n wlad fach, ond mae gennon ni galon anferth,” meddai.
“Oedd hi’n dipyn o dorf – oeddan ni ‘di gweld y neges ar Facebook, a deud wrth bobl eraill, sydd ‘di deud wrth bobl eraill, ac mae o wedi tyfu fel ‘na.
'Fel maes carafanau eisteddfod!'
“Roedd bod yna’n canu efo’r Cymry yn wefr anhygoel. ‘Dan ni’n angerddol am ein gwlad ac am yr iaith... roedd pobl leol yn pasio a stopio, a just yn synnu efo’r canu.”
Mae Meryl wedi treulio’r saith wythnos ddiwethaf yn teithio Ffrainc gyda’i gŵr Steve yn eu cartref modur, ac yn disgrifio’r profiad fel un “anhygoel”.
“Roedd y lle gwersylla yn Lyon fel maes carafanau eisteddfod!” meddai.
“Pob motorhome efo’r Ddraig Goch a baneri, ac roeddach chi’n codi yn y bora a chlywed pobl yn siarad Cymraeg bobman.”
Fe wnaeth y gantores soprano Jessica Robinson ymuno gyda’r dorf yn Lyon, a chyflwynwraig BBC Radio Cymru, Shan Cothi fydd y gwestai arbennig ar gyfer y canu ym Marseille.
Mae Huw Davies hefyd yn obeithiol y bydd y penwythnos yn gorffen ar nodyn uchel i Gymru ar y cae hefyd.
“So ni’n mynd i roi fyny nawr,” meddai.
“Fi eisoes wedi cael pobl o’r flash mob yn gofyn ydyn ni’n ‘neud un yn Paris [cyn y rownd gynderfynol].
"Wrth gwrs, medde fi, rhaid bod yn bositif!”