Pen Llŷn John ac Alun mewn pump lle
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst, y ddeuawd o Dudweiliog sydd wedi bod yn crwydro Pen Llŷn ac ymweld â'u hoff leoedd ar y penrhyn, gan gael ambell i sgwrs ar y ffordd.
Tudweiliog: “Cymdeithas mor glos, pawb yn ffrindiau”
Man cychwyn y daith oedd Tudweiliog – y pentre' lle mae’r ddau wedi ymgartrefu.
Tra bod John wedi byw ym Mhen Llŷn erioed, gadawodd Alun am gyfnod i fyw yn Lloegr a ‘thrio’i lwc’ cyn dychwelyd nôl i'r pentref. Cawson nhw sgwrs ar raglen John ac Alun ar Radio Cymru â Gwenan Griffith, brodor o'r pentref a adawodd am gyfnod hefyd, cyn dod yn ôl adref i fyw.
“Dwi’n annog pawb i gael profiadau a mynd i ffwrdd o’r ardal,” meddai Gwenan, “achos ar ôl i chi fynd i ffwrdd, ‘da chi’n gwerthfawrogi’r lle mwy.
“O’n i wedi bod yn byw yng Nghaerdydd am saith mlynedd. Pan o’n i’n gweithio llawn amser, do’n i’m yn gallu dod adra mor aml. Dydi’r A470 ddim y lôn mwya’ caredig yn y byd! O’n i ddim isho dod adra heb fod gen i swydd i fynd iddi.”
Ar ôl derbyn cynnig am swydd gyda Chyngor Gwynedd, cododd ei phac a gadael ei bywyd yn y brifddinas o fewn pythefnos er mwyn dod yn ôl i'w chynefin.
Ers y cyfnod clo, mae Gwenan yn gweithio adref gan amlaf – rhywbeth sydd ond yn bosib ers datblygiadau diweddar yng nghyflenwad y we yn yr ardal. Ydi hi’n teimlo y byddai posib iddi aros yma, petai’r dechnoleg ddim yno i’w chefnogi?
“I fod yn onest, na – hyd at ychydig o flynyddoedd yn ôl, oedd y cyflenwad we mor araf, roedd anfon ffeils fideos yn cymryd dros nos.
"Y gobaith ydi gan fod y dechnoleg yma – ac yn sicr mae’r sgiliau yma – mae ‘na botensial i gadw pobl lleol sy’n dalentog, i allu ffynnu yma.”
Porth Ysgaden: "Fy hoff le ym Mhen Llŷn"
Porth Ysgaden oedd nesa’ ar y daith – hoff le John ym Mhen Llŷn, lle treuliodd oriau yn chwarae, pysgota a hel cregyn pan oedd yn blentyn.
Mae gan y lle gysylltiad agos â theulu Dr Robin Pritchard, a ymunodd â’r ddau am sgwrs.
“O ran teulu’r wraig, ei hen Daid hi oedd yn byw yn y tŷ ar y copa, efo 12 o blant," eglura Robin. "Ei fywoliaeth oedd saer coed cychod, ond hefyd yn byw ar y môr a’r creigiau; crancod, gwichiaid, pysgod. Ond yn anffodus, cafodd ddamwain ffordd, a bu farw, a symudodd y teulu i’n cartref presennol ni yn Nhudweiliog.
"Roedd y porthladd yn bwysig i’r rhan yma o Gymru, cyn ffyrdd mawr fel yr A55," aeth Robin ymlaen i egluro.
“Roedd pob dim oedd yn mynd a dŵad o’r pen yma yn dŵad o’r môr; o Gaernarfon, o Lerpwl, ac i lawr am Borth Colmon, i ochr ddeheuol Llŷn. Glo a chalch fa'ma yn bennaf, a bwyd fel menyn yn mynd allan."
Eglurodd Robin mai plaice yw’r enw Saesneg ar ysgaden, er fod yna ddim llawer o ysgaden na physgod eraill ar ôl yno erbyn hyn, yn anffodus.
Uwchmynydd: “Fedrwn ni ddim mynd dim pellach... A sbïa golygfa 'ma!”
Copa Mynydd Mawr oedd y stop nesa’, a’r olygfa hyfryd sydd yn un arbennig, yn enwedig ar ddiwrnod braf, fel dywedodd John.
“Fedrwn ni ddim mynd dim pellach... Llanbedrog fan’cw, Porth Neigwl. Ochr draw fan hyn, ti bron iawn yn gweld Porth Ysgaden. Ac wrth gwrs, draw fan’cw, Ynys Enlli.”
“Os 'da chi draw ym Moduan,” meddai Alun, “dewch i fyny Mynydd Mawr os 'di’n braf. Welwch chi nunlla tebyg iddo fo ar y ddaear 'ma.”
Enlli sy’n mynd â bryd y ddau – yr ynys hudolus honno sydd, mae’n debyg, yn fan claddu 20 mil o saint.
Mae Alun yn falch iawn ei fod wedi cael ymweld â’r ynys fwy nag unwaith:
“Dwi ‘di bod yna rhyw bedair gwaith, cael picnic bach ar y traeth. O’dd hi’n fendigedig i gyrraedd yno, ond o’dd hi braidd yn stormus i fynd yn ôl! Mae’n rhaid i ti ddarllen y llanw yn iawn.”
Mae John eto i gael mynd, ond yn benderfynol o wneud y siwrne dros y swnt rhyw dro...
“Dwi am fynd rhyw ddiwrnod – y peth dwytha’ 'na i cyn gadael y ddaear 'ma."
Porthdinllaen: “Nunlla tebyg iddo fo”
Cafodd y ddau sgwrs â Meinir Pierce Jones am harbwr Porthdinllaen, a’i arwyddocâd i Ben Llŷn.
“Porthdinllaen ydi un o’r harbwrs naturiol gorau sydd gynno ni ym Mhen Llŷn,” eglurodd Meinir. “Mae o 'di bod yn harbwr am 400 mlynedd a mwy, mae’n siŵr. Harbwr mawr yn rhoi cysgod diogel rhag y tywydd arferol, sef gwynt a glaw o’r de-orllewin.”
Mae bad achub Porthdinllaen yn gwasanaethu ardal eang, i fyny arfordir gogleddol y penrhyn, ac ochr orllewinol Ynys Môn, a hyd yn oed yn gorfod teithio bron i 30 milltir i’r gorllewin, hyd at hanner ffordd rhwng Cymru ac Iwerddon.
Mae Mali Parry Jones yn aelod o griw'r bad achub: “Dwi ‘di bod ar y criw ers tua 12 mlynedd, a fy rôl i yw navigator, neu mordwywraig. Pan 'da ni’n cael lleoliad argyfwng gan gwylwyr y glannau, fy rôl i yw plotio’r cwrs cyflymaf i’r bad achub ei ddilyn, gan gymryd pethau i ystyriaeth, fel y llanw a gwynt.
“Oedd y bad achub cynta' yn 1864. Pethau 'di newid ers hynny... diolch byth ‘da ni ddim yn rhwyfo erbyn hyn! Nôl yn 1864, roedd 'na geffylau yn cael eu cadw yn y caeau uwch ben y cwt, oedd yn helpu i dynnu’r cwch am y dŵr. Bad achub efo hwyliau hefyd wedi bod dros y blynyddoedd, ond cychod efo injans wedi dod bellach.”
Pwllheli: "Ti mewn lle braf"
Pwllheli oedd stop olaf y wibdaith i John ac Alun; yn gyntaf, draw i siop Oriel Pwll Defaid i gael sgwrs gyda Bethan Roberts, un o'r perchnogion.
Dyma un o nifer o siopau annibynnol Pwllheli – gyda siop at ddant pawb, o emwaith, i ddillad, i ddylunio graffeg, ynghyd â’r anrhegion Cymraeg, wedi eu personoleiddio, mae Bethan yn eu gwerthu.
Mae hi’n edrych ymlaen at gael mynd i’r Eisteddfod gyda’i stondin – rhywbeth maen nhw wedi ei wneud ers 1997 – er ei bod hi'n wythnos hir iddi, meddai:
“Dwi’n gobeithio fydda i yna 8 y bore tan iddi ddistewi, tua 7, a nôl i’r garafán a chreu mwy o bethau. 'Sa fo’n wahanol taswn i’n prynu pethau i mewn, 'sa fo’n llai o waith gyda’r nos i mi. Ond dwi’n mwynhau’r gwerthu a gweld y bobl ar y stondin!”
Yna, i orffen y daith, draw i farina Yr Hafan i weld Y Titanic, cwch mae Alun wedi bod yn gweithio arno ers cryn amser.
“Mae hi wedi bod yn brosiect a hanner,” eglurodd, “ond rŵan ei bod hi wedi gorffen, ac ar y môr, dwi’n edrych ymlaen! Mor braf ydi hi, gyrru i mewn i’r maes parcio, ac o fewn pum munud, ti ar y dŵr.”
Mae’r Hafan mewn lleoliad delfrydol i ymwelwyr, hyd yn oed os nad oes ganddyn nhw gwch, meddai, gan fod Llwybr yr Arfordir yn pasio drwyddo.
A dyna ddiwedd gwibdaith a hanner o amgylch rhai o fannau prydferthaf Pen Llŷn – a digon o syniadau am lle i ymweld â nhw yn ystod wythnos yr Eisteddfod!
Gwrandewch ar raglen John ac Alun ar BBC Radio Cymru am 21:00 Nos Sul 30 Gorffennaf i glywed eu hanturiaethau yn teithio Llŷn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023