'Cam enfawr' CPD Y Rhyl at brynu maes hanesyddol

Belle VueFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Y Rhyl 1879 wedi cymryd "cam enfawr" tuag at sicrhau dyfodol ei stadiwm hanesyddol - y Belle Vue - yn dilyn grant gan Lywodraeth y DU.

Bydd y clwb yn derbyn £378,600 o'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol sydd o gwmpas 80% y swm sydd angen i brynu'r stadiwm, yn ôl y clwb.

Cafodd y clwb ffenics ei sefydlu yn 2020 ar ôl i glwb gwreiddiol y dref gael ei ddiddymu yn sgil problemau ariannol.

Yn gartref i'r hen glwb ers 1892, daeth CPD Y Rhyl 1879 i gytundeb i ddychwelyd i Belle Vue er nad oedden nhw'n berchen ar y safle.

'Symbol fod ni yma o hyd'

Mae'r grant yn rhoi "sicrwydd am y dyfodol", meddai'r ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis, sy'n gefnogwr ers y 1950au.

"Mae ansicrwydd wedi bod am ddyfodol y stadiwm ers degawdau ac mae'r grant yma'n hwb ar union yr amser oedd angen hwb.

"Mae'r stadiwm wedi bod yn llyncu arian ers blynyddoedd ac mae o bob tro wedi bod yn ddelfryd iddo gael ei berchnogi gan y clwb neu ryw fath o ymddiriedolaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r stadiwm yn "symbol fod ni yma o hyd", meddai Ffred Ffransis

Dywedodd Mr Ffransis fod y stadiwm "yn llawn atgofion o gemau FA Cup, o ennill uwch gynghrair Cymru, ac o nosweithiau Ewropeaidd yn erbyn Partisan Belgrade ac yn y blaen".

"Mae'r stadiwm yn y dre' ei hun hefyd, ac mae miloedd o bobl dros y cenedlaethau wedi cael y profiad o gerdded trwy'r dref ar ddiwrnod y gêm.

"Mae'r clwb yn un o sefydliadau hynaf y dref. Mae'n dre' digon dirwasgedig ac mae'r clwb a'r stadiwm yn dal baner iddo ac yn symbol fod ni yma o hyd."

'Cam enfawr'

Dywedodd cadeirydd y clwb, Tom Jamieson: "Mae hyn yn newyddion gwych yn dilyn yr holl waith caled y tu ôl i'r llenni dros y pedwar mlynedd ddiwethaf i sicrhau dyfodol Belle Vue i'r clwb a'r gymuned yn Y Rhyl.

"Hoffwn ddiolch yn bersonol i Adam Roche am ei holl waith caled a diflino i sicrhau’r cyllid ac er bod tipyn o waith i’w wneud o hyd, mae hwn yn gam enfawr i ni i gyrraedd ein nod. Hoffwn ddiolch hefyd i’n cynrychiolwyr lleol o Lywodraeth y DU, y Senedd a’r cyngor lleol.”

Pynciau cysylltiedig