Mwy o ganolfannau cynnes i ymateb i gostau byw cynyddol

Lisa Whyte
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lisa Whyte fod mynd i ganolfan gynnes gyda'i merch Esmé yn helpu gyda'i biliau

  • Cyhoeddwyd

“Ni’n joio dod. Mae’n dwym ac ma’ coffi am ddim. Mae’n grêt.”

Mae Lisa Whyte, 41, yn ymweld â chanolfan gynnes ym Mhontarddulais gyda’i merch fach.

Mae’r ganolfan yn un o fwy nag 80 ar draws Abertawe a gafodd eu sefydlu mewn ymateb i’r argyfwng costau byw.

Mae tua 700 o’r canolfannau ar draws Cymru yn ôl ymchwil Prifysgol Abertawe, a ddangosodd hefyd eu bod yn chwarae rôl bwysig wrth ofalu am les pobl.

Ond rhybudd Sefydliad Bevan yw y dylai pobl allu gwresogi eu tai eu hunain.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gwneud "popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw".

'Costau ynni wedi mynd drwy’r to'

“Mae’n galed. Mae lot o deuluoedd yn gweld hi'n anodd,” ychwanegodd Lisa.

Mae’n dod i’r ganolfan i gwrdd â mamau eraill a chadw’n gynnes gyda’i merch Esmé sy’n 10 mis oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Charlotte Bidwell-Williams wedi bod yn defnyddio canolfan gynnes gyda'i merch

Dywedodd fod biliau’r teulu wedi codi a bod gallu gadael y tŷ am ychydig oriau yn help.

“Ni’n cael tost, cacen, cwpaned o goffi. Mae’n dda," meddai.

“Gyda straen ariannol yr argyfwng costau byw, mae’n grêt i ni fod gyda’n gilydd.”

Ychwanegodd un arall o’r mamau, Charlotte Bidwell-Williams, 32: “Mae mor oer ar hyn o bryd. Ma' costau ynni wedi mynd drwy’r to.

“Mae’n dwym yma. Chi’n gwybod bod eich plant yn mynd i gael eu bwydo.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eira Mainwaring, sy'n gweithio mewn canolfan gynnes, yn gweld pobl yn ei ddefnyddio'n ddyddiol

Yn ôl un sy’n gweithio yn y ganolfan, mae pobl o bob oed yn dod am baned a sgwrs yn ddyddiol, a’r galw’n cynyddu.

“Mae’n rhywle iddyn nhw ddod i gael bwyd, cwpaned o de neu goffi i gadw nhw i fynd,” dywedodd Eira Mainwaring.

“Ma’ aros yn tŷ yn gallu bod yn gostus.

"Ma’ llefydd fel hyn yn gynnes drwy’r dydd iddyn nhw a ma’ nhw’n gweld pobl eraill hefyd.”

Ym mharc Pontlliw, y genhedlaeth hŷn sy’n cwrdd ar fore Mercher i gymdeithasu a chadw’n gynnes.

Mae gwirfoddolwyr yn gweini diodydd poeth a rhywbeth i fwyta.

“Fi’n gwirfoddoli, fi’n pigo oedolion lan a dod â nhw ‘ma pan maen nhw’n rhy ffaeledig i ddod eu hunain,” dywedodd Keith Turner.

“Ni ‘di bod yn lwcus iawn i gael sawl grant wrth [Gyngor Sir] Abertawe ac wrth gyngor y gymuned ‘ma.

“Gobeithio byddwn ni ‘ma am sawl blwyddyn i ddod.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ella Rabaiotti wedi bod yn ymchwilio i fuddion canolfannau cynnes gyda Phrifysgol Abertawe

Mae Cyngor Sir Abertawe wedi dosbarthu grantiau i nifer o’r canolfannau ar draws y sir.

Yn ôl ymchwil diweddar gan Brifysgol Abertawe mae’r canolfannau’n cynnig mwy na lle cynnes i bobl, ac maen nhw’n debygol o ddod yn bethau cyffredin mewn cymunedau.

“Yn y lle cyntaf roedd ‘na fuddsoddiad [ar gyfer y canolfannau cynnes],” dywedodd yr ymchwilydd Ella Rabaiotti.

“Dyw bob un ddim yn derbyn arian ond maen nhw wedi parhau.

“Mae’n fwy am y cynhesrwydd emosiynol nag yn ymarferol.”

Normaleiddio costau byw uchel?

Ond mae Sefydliad Bevan yn poeni fod pobl yn dod i’r canolfannau gan na allan nhw fforddio gwresogi eu tai.

“Ma’ ‘na nifer uchel iawn o bobl yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd i wresogi eu cartrefi, i roi bwyd ar y bwrdd,” dywedodd Dr Steffan Evans o’r sefydliad.

“Yn amlwg mae’n grêt bod ‘na lefydd lle all pobl gael cymorth yn eu cymunedau.

“Ond beth ddylai fod yn digwydd yw bod pobl yn gallu bod yn gynnes yn eu cartrefi eu hun.

“Beth sydd angen eto yw’r buddsoddiad yma i sicrhau fod incymau pobl yn ddigon, gwneud yn siŵr fod digon drwy’r system fudd-daliadau fel bod pobl yn gallu gwresogi eu cartrefi.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Steffan Evans fod angen buddsoddi fel bod pobl yn gallu fforddio cynhesu eu tai eu hunain

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod canolfannau clyd wedi "eu datblygu ar lefel leol oedd yn addas i anghenion lleol, ac maent wedi darparu cefnogaeth angenrheidiol i fwy na 117,000 o bobl ar draws Cymru".

"Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw i leddfu pwysau ariannol a chynyddu incwm,” meddai.

“Mae hyn yn cynnwys Siarter Budd-daliadau Cymru, sydd â'r nod o gael gwared ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl rhag hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, a'n rhaglen Cartrefi Clyd sy'n darparu mesurau effeithlonrwydd ynni i aelwydydd agored i niwed sy'n byw yn y cartrefi lleiaf ynni effeithlon."