Strategaeth tlodi plant Cymru'n 'siomedig iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae grwpiau hawliau plant yn dweud eu bod wedi eu siomi gan gynllun Llywodraeth Cymru i gael gwared â thlodi.
Mewn strategaeth, mae'r llywodraeth yn dweud eu bod am leihau costau a helpu incwm teuluoedd i fynd mor bell â phosibl.
Ond mae'r Comisiynydd Plant ac elusennau yn dweud nad oes digon o dargedau yn y ddogfen.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai ei lywodraeth yn defnyddio eu holl bwerau i helpu plant, ond bod penderfyniadau allweddol ar dreth a lles sy’n cael eu gwneud yn San Steffan yn effeithio ar incwm.
Mae Alun Gruffudd yn gweithio i Cyngor ar Bopeth, sydd â swyddfa ym Manc Bwyd Pontypridd, ac mae'n dweud bod llawer o deuluoedd yr ardal yn ei chael hi'n anodd “goroesi o ddydd i ddydd” er eu bod yn gweithio.
Mae’n cynnig cyngor ar y budd-daliadau sydd ar gael, a sut i leihau dyled, ond mae'n dweud "nad oes 'na lot o opsiynau ganddyn nhw o ran cynyddu eu hincwm".
"Maen nhw'n gwneud y gorau gallen nhw, a’r unig beth gallen ni wneud yn aml yw falle rhoi taleb bwyd iddyn nhw, neu helpu gyda chostau ynni," meddai.
"Ond tu hwnt i hynny, mae'n anodd iawn cael datrysiadau hir dymor iddyn nhw."
Strategaeth yn addo 'atebolrwydd cadarn'
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol.
Mae aelwyd yn cael ei hystyried fel un sy’n byw mewn tlodi cymharol os yw’n byw ar lai na 60% o incwm canolrifol (median) Deyrnas Unedig.
Mae hynny'n incwm o lai na £300 yr wythnos, ar ôl talu am gostau tai.
Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfaddef nad oedden nhw’n mynd i gyrraedd targed i ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020.
Does dim dyddiad yn y strategaeth newydd, ond mae’n addo “mecanweithiau monitro ac atebolrwydd cadarn” i fesur effaith polisïau.
Yn sôn am effaith tlodi ar blant, ychwanegodd Mr Gruffudd o Cyngor ar Bopeth: “Yn aml iawn mae'n gallu atal y plant rhag datblygu yn gymdeithasol, neu yn yr ysgol gan eu bod nhw methu canolbwyntio adra heb fwyd a gwres cywir.
“Maen nhw'n gorfod gofalu am eu rhieni yn aml iawn, mae plant yn gorfod cymryd dyletswyddau y dylai oedolion wneud yn y cartref - a hynny o ddydd i ddydd achos bod y fam neu'r tad neu'r ddau gyda diffygion corfforol neu feddyliol, ac yn gorfod cael cefnogaeth gan y plant hefyd.
"Felly maen nhw’n colli ar yr oriau i gymdeithasu efo cyfoedion ac oriau i weithio ar waith ysgol hefyd."
'Angen gweithredu ar frys'
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Dr Steffan Evans o Sefydliad Bevan ei fod yn croesawu'r adroddiad.
"Mae'r ffocws ar yr angen i sefydlu system budd-daliadau Cymreig yn rhywbeth ni'n groesawu a ma' hwnna'n mynd i roi arian nôl ym mhocedi pobl a gwneud gwahaniaeth... ond mae'n rhaid mynd ati ar frys i weithredu hynna.
"Ma' adroddiad newydd wedi dod allan gan y Sefydliad Joseph Rowntree heddiw [dydd Mawrth] sy'n dangos bod dim cynnydd wedi bod yn ein gallu ni i wella tlodi plant dros y ddegawd diwetha' a bod rheiny sydd yn cael eu heffeithio gan dlodi... bod y tlodi yn mynd yn ddyfnach.
"Felly mae'r angen i weithredu be sydd yn y cynllun yma ar frys hyd yn oed yn fwy pwysig."
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd grwpiau plant eu bod yn “siomedig iawn nad yw gweinidogion wedi gwrando ar ein galwadau am gynllun gweithredu cadarn gyda thargedau mesuradwy”.
“Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod y llywodraeth yn cyfeirio yn uniongyrchol at hawliau plant a dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn y strategaeth ddiwygiedig hon, mae agwedd sylfaenol ar goll: atebolrwydd,” medden nhw yn y datganiad, a gafodd ei lofnodi hefyd gan y Comisiynydd Plant, Rocio Cifuentes.
Heb fframwaith monitro, “ni fyddwn yn gwybod a yw arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru yn cyrraedd y plant hynny y mae eu bywydau’n cael eu heffeithio mor ddifrifol”.
Daw’r sylwadau yn dilyn beirniadaeth o strategaeth ddrafft y llynedd.
Ar y pryd, dywedodd y Comisiynydd Plant nad oedd y strategaeth yn dangos “uchelgais, eglurder a manylder”.
Roedd y ddogfen ddrafft yn beirniadu'r Ceidwadwyr, gan ddweud bod angen newid llywodraeth yn San Steffan.
Mae llawer o’r feirniadaeth honno wedi diflannu o’r ddogfen derfynol.
Ynddi, mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn dweud “mae angen i ni ganolbwyntio mwy ar gyflawni”.
Mae’n dweud hefyd bod angen “i ni fod yn gliriach” ynglŷn â monitro ac atebolrwydd.
Dywedodd Mark Isherwood o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Rydyn ni wedi bod yn galw am y strategaeth ddiwygiedig yma ers blynyddoedd lawer.
"Yn 2016, fe newidiodd Llywodraeth Cymru eu targed a does dim pwynt cael targed sydd ddim yn realistig.
"Mae angen monitro ac asesu'r strategaeth yn ofalus."
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2023
Fe wnaeth Ms Hutt hefyd gyhoeddi Siarter Budd-daliadau gyda chynghorau lleol, sydd wedi’i dylunio i’w gwneud hi’n haws i bobl gael budd-daliadau Llywodraeth Cymru.
Mae hynny'n cynnwys cymorth i dalu biliau treth gyngor a chinio ysgol am ddim.
Mae’r siarter yn rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru.
Ond fe wnaeth Plaid Cymru ddweud ei bod hi'n anodd derbyn bod trechu tlodi plant wedi bod yn flaenoriaeth i Lafur.
“Rhaid i’r Llywodraeth Lafur wrando ar arbenigwyr yn y maes ac ail-gyflwyno targedau statudol i ddileu tlodi plant - mae ein plant yn dibynnu arno,” meddai Sioned Williams, llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol.