Tlodi plant: Llywodraeth Cymru â 'diffyg uchelgais'
- Cyhoeddwyd
Mae gan Lywodraeth Cymru "ddiffyg uchelgais" i fynd i'r afael â thlodi plant, yn ôl adroddiad newydd.
Mae 28% o blant Cymru'n byw mewn tlodi cymharol - mwy na'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae pwyllgor y Senedd wedi galw am gael gweinidog penodol i daclo'r broblem, ac i Lywodraeth Cymru osod targedau.
Dywedodd y llywodraeth fod mynd i'r afael â thlodi plant yn "flaenoriaeth lwyr", ond galwodd am fwy o help gan Lywodraeth y DU - sy'n rheoli'r system fudd-daliadau - i daclo "anghydraddoldebau strwythurol".
Galw am osod targedau
Yn ôl Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, rhwng 2019 a 2022 roedd 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn cartrefi ble mae incwm yr aelwyd yn llai na 70% o'r cyfartaledd ar draws y DU.
Er bod hynny wedi gostwng rhwng 2012 a 2022, mae'r gyfradd wastad wedi bod yn uwch yng Nghymru na'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Ond mae ffigwr Cymru yn is na'r 30% sy'n gyfartaledd ar draws y DU, ac yn is na chwech o'r naw rhanbarth yn Lloegr.
Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru yn llunio strategaeth ddrafft ar hyn o bryd ar sut i fynd i'r afael â thlodi plant, ond dywedodd y pwyllgor fod y strategaeth honno yn dangos "diffyg uchelgais".
Mae Aelodau'r Senedd sydd ar y pwyllgor yn dadlau fod y llywodraeth angen gosod targedau pendant, a bod tystiolaeth gan arbenigwyr o wledydd eraill yn dangos fod llywodraethau angen hynny er mwyn cadw eu sylw ar y mater.
Dywedodd y pwyllgor fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt, yn y rhagair ar gyfer y strategaeth ddrafft, yn beirniadu effaith penderfyniadau Llywodraeth y DU ar ymdrechion Cymru i daclo tlodi plant
“Ers 2010, a'r cyfnod o gyni, mae lefel y buddsoddiad gan lywodraethau dilynol y DU wedi gostwng," meddai.
"Cefnwyd ar dargedau tlodi plant, a chaewyd yr uned tlodi plant yn Llywodraeth y DU."
Ond mae'r pwyllgor yn beirniadu'r ffaith fod y strategaeth yn canolbwyntio ar Lywodraeth y DU.
"Rydym yn cydnabod yn llwyr y straen ar arian cyhoeddus yng Nghymru, ac mai Llywodraeth y DU a San Steffan sydd â’r ysgogiadau polisi mwyaf sylweddol ar gyfer ailddosbarthu cyfoeth a lleihau anghydraddoldebau," meddai eu hadroddiad.
"Fodd bynnag, dylai prif neges y strategaeth fod yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i liniaru tlodi plant, yn hytrach na’r hyn na all ei wneud."
'Pryderon sylweddol o fewn y sector'
Ychwanegodd fod "pryderon sylweddol o fewn y sector am y diffyg targedau a cherrig milltir" yn y strategaeth ddrafft.
Mae'r pwyllgor hefyd yn galw am ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio arian a ddaw i Gymru oherwydd cynnydd mewn gwariant ar ofal plant yn Lloegr i "ariannu darpariaeth gofal plant ddi-dor a fforddiadwy", a "datblygu cynlluniau ar gyfer gwneud hyn erbyn mis Gorffennaf 2024".
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Jenny Rathone: “Mae mwy o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi nag unrhyw grŵp oedran arall - rydyn ni angen rhoi diwedd ar dlodi plant.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru osod targedau heriol a realistig i’w hun a phenodi gweinidog sydd â chyfrifoldeb penodol dros y prif ffactorau er mwyn lleihau tlodi plant.”
'Methiant llwyr'
Dywedodd Sioned Williams o Blaid Cymru y dylai "dileu tlodi plant yng Nghymru fod yn un o brif amcanion Llywodraeth Lafur Cymru, ond dros y blynyddoedd rydym wedi eu gweld yn methu targedau i fynd i'r afael â thlodi plant ac yna yn cael gwared ar y targedau hyn yn gyfan gwbl".
Ychwanegodd Mark Isherwood o'r Ceidwadwyr fod "Llafur wedi bod yn gyfrifol am daclo tlodi yng Nghymru am 25 mlynedd" a bod yr adroddiad yn "amlygu eu methiant llwyr i wneud hynny".
"Allen nhw ddim rhoi’r bai ar Lywodraeth y DU am yr holl broblemau sy'n wynebu Cymru - problemau y mae ganddyn nhw'r pwerau i ddelio â nhw," meddai.
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd12 Mai 2022
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n mynd i'r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth lwyr ac yn parhau i weithio gyda'n partneriaid tuag at Gymru ble gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.
"Mae dros 3,000 o blant, pobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau wedi ymwneud â datblygu'r Strategaeth Tlodi Plant diwygiedig.
"Mae hyn wedi'n helpu i ganolbwyntio ar ble gall ein polisïau wneud y gwahaniaeth mwyaf ac adnabod ardaloedd sydd angen blaenoriaethu, ble byddwn yn cyflymu'r gweithredu.
"Ond er mwyn gostwng tlodi plant yn sylweddol yng Nghymru, bydd angen i Lywodraeth y DU ddangos yr un lefel o ymrwymiad a chwarae rhan llawer mwy er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau strwythurol na'r hyn y mae wedi'i wneud ers 2010."