Diwrnod olaf i gofrestru am bleidlais etholiad heddlu

Dyma'r etholiadau cyntaf yng Nghymru ble mae'n rhaid i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod gyda llun cyn pleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru erbyn 23:59 nos Fawrth.

Ar 2 Mai, bydd pleidleiswyr ar draws Cymru yn penderfynu pwy fydd comisiynwyr yr heddlu ym mhob un o'r pedair ardal heddlu.

Mae ymgeiswyr o'r pedair prif blaid wleidyddol.

Does dim etholiadau eraill yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod, yn wahanol i Loegr ble mae etholiadau cyngor yn digwydd mewn rhannau o'r wlad.

Dyma'r etholiadau cyntaf yng Nghymru ble mae'n rhaid i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod gyda llun cyn pleidleisio, ac mae rhybuddion y gallai hynny olygu y bydd llai o bobl yn bwrw eu pleidlais.

Mae modd defnyddio pasbort Prydeinig, trwydded yrru, cerdyn teithio rhatach 60 oed a hŷn, cerdyn teithio rhatach person anabl, neu gerdyn adnabod y cynllun safonau prawf oedran (cerdyn PASS).

Beth mae'r comisiynwyr yn ei wneud?

Cyfrifoldeb y comisiynwyr heddlu a throsedd ydy gosod blaenoriaethau a chyllidebau lluoedd yr heddlu, yn hytrach na bod yn gyfrifol am waith plismyn o ddydd i ddydd.

Nhw sydd hefyd yn penodi Prif Gwnstabliaid y lluoedd heddlu.

Llywodraeth David Cameron benderfynodd greu'r swyddi yn 2012.

Mae 'na bedwar comisiynydd yng Nghymru, sy'n gyfrifol am bedwar heddlu'r wlad - De Cymru, Gogledd Cymru, Dyfed-Powys a Gwent.

14.9% o bobl bleidleisiodd yn yr etholiadau cyntaf ar gyfer comisiynwyr heddlu a throsedd ar draws Cymru.