'Nid damwain' yw y diffyg cefnogaeth i Eluned Morgan

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan wedi dweud ei bod hi'n falch fod Carwyn Jones hefyd yn credu bod "angen cael enw dynes ar y papur pleidleisio"

Mae Gweinidog yn Llywodraeth Cymru yn honni fod ymgyrch i stopio Eluned Morgan rhag bod yn ymgeisydd yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y blaid Lafur yng Nghymru.

Yn ôl y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, "nid damwain" yw hi nad yw Eluned Morgan wedi cael digon o gefnogaeth i fod ar y papur pleidleisio.

Yn y cyfamser, mae Carwyn Jones wedi dweud ei bod hi'n "hanfodol" fod dynes yn un o ymgeiswyr yr etholiad i'w olynu.

Ar wahân i Carwyn Jones - sydd eisoes wedi dweud na fydd yn datgan cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd - mae pob AC bellach wedi datgan cefnogaeth i o leiaf un o'r tri ymgeisydd sydd wed rhoi eu henwau ymlaen.

'Adlewyrchiad gwael'

Dim ond Vaughan Gething a Mark Drakeford sydd wedi croesi'r trothwy o gael pum pleidlais gan bum AC gwahanol. Mae gan Eluned Morgan bedwar.

Nid yw'r broses ffurfiol o ddatgan cefnogaeth wedi agor eto.

Mae cefnogwyr Mark Drakeford, sydd wedi derbyn cefnogaeth 16 aelod, dan bwysau i roi i Eluned Morgan y gefnogaeth y mae hi ei hangen.

Mewn blog sydd i'w gyhoeddi ddydd Llun bydd Alun Davies, sydd eisoes wedi tynnu allan o'r ornest ac sydd nawr yn cefnogi Eluned Morgan, yn dweud nad yw ei methiant i gael digon o gefnogaeth "yn ddamwain".

"Mae'n deillio o ymgyrch sydd wedi'i chynllunio i leihau'r dewis sydd ar gael i aelodau'r blaid," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn "adlewyrchu'n wael iawn ar y Cynulliad ac ar y Blaid Lafur."

Dywedodd nad yw ei sylwadau wedi'u hanelu at unigolion, ond y bydden nhw'n cael eu gweld fel beirniadaeth ar Mark Drakeford.

'Edrych yn rhyfedd'

Yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl, dywedodd Carwyn Jones y byddai'n "edrych yn rhyfedd iawn" os mai dim ond dynion yn unig fydd yn y ras.

"Dwi'n credu ei bod hi'n hanfodol i ddynes fod ar y papur pleidleisio.

"Nid symbol yw hyn, mae'n bwysig adlewyrchu Cymru gyfan.

"Dwi'n gobeithio dros yr wythnosau nesaf bydd modd dod o hyd i ddull o sicrhau fod 'na ddynes ar y papur pleidleisio, a dwi'n annog pobl eraill i edrych ar hyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n credu ei bod hi'n hanfodol i ddynes fod ar y papur pleidleisio" medd Carwyn Jones

Mae Eluned Morgan wedi ymateb i sylwadau Carwyn Jones drwy ddweud ei bod hi'n falch ei fod e "hefyd yn gweld yr angen i gael enw dynes ar y papur pleidleisio".

Ychwanegodd: "Rwyf wastad wedi dweud yr hoffwn fod ar y papur pleidleisio ar lwyddiannau fy hun os yn bosib.

"Mae gennyf lawer o brofiad y gallaf ei gyfrannu, ond y peth pwysicaf yw bod dadl eang wedi bod.

"Mae sawl cefnogaeth yma hefyd yn y gynhadledd Lafur, i wneud yn siŵr fod na drafodaeth eang o fewn blaid, ar ddyfodol y blaid Lafur yng Nghymru a dyfodol gwleidyddiaeth Cymru," meddai.