Blog Vaughan Roderick: Hyder 2024, a phryder 2026
- Cyhoeddwyd
Mae'n demtasiwn bob tro i wleidyddion a newyddiadurwyr gwleidyddol fynd o flaen y gofyn wrth ddarogan - ac nid sôn am osod betiau ydw i yn fan hyn!
Gyda bron pawb yn y blaid Lafur, a'r pleidiau eraill o ran hynny, erbyn hyn yn credu bod allweddu Rhif 10 yn saff ym mhoced Syr Keir Starmer, mae meddyliau llawer yn troi at etholiad arall sy'n dod lawr y trac, sef etholiad Senedd Cymru.
Cynhelir hwnnw ymhen llai na dwy flynedd, a thra bod cefnogwyr Llafur yn gorfoleddu ynghylch eu gobeithion yn etholiad San Steffan, mae 'na bryder cynyddol ynghylch beth allai ddigwydd pan fydd aelodau siambr Bae Caerdydd yn cael eu dewis.
Rhan o'r rheswm am hynny yw'r awgrym yn yr arolygon barn bod etholwyr Cymru, am y tro cyntaf efallai, yn dechrau gwahaniaethu rhwng etholiadau San Steffan a rhai Bae Caerdydd pan ddaw hi at eu dewisiadau.
Yn arolwg diweddaraf YouGov, fel enghraifft, dywedodd 45% o'r rhai a holwyd y byddent yn pleidleisio i Lafur mewn etholiad cyffredinol ond dim ond 30% fyddai'n gwneud hynny mewn etholiad Cymreig.
Ystyriwch hynny am eiliad. Gyda phoblogrwydd Llafur mwy na thebyg ar ei hanterth mae traean o'i chefnogwyr eisoes yn bwriadu troi eu cefnau ar y blaid pan ddaw etholiad Cymru.
Pam felly? Yn rhannol mae'n deillio o duedd sydd wedi bodoli ers dyddiau cynnar datganoli sef bod cyfran o'r etholwyr, am ba bynnag reswm, yn dewis Llafur mewn etholiadau Prydeinig ond yn ochri â Phlaid Cymru mewn etholiadau Cymreig.
Mae hynny wedi bod yn wir o'r cychwyn ond mae 'na sawl rheswm i gredu y bydd steroids wedi eu chwistrellu i'r duedd honno yn 2026.
Un o'r rhesymau hynny yw trafferthion Vaughan Gething. Mae'n anodd gor-ddweud ynghylch pa mor chwerw yw'r berthynas rhwng cefnogwyr Mr Gething a chefnogwyr Jeremy Miles, yr ymgeisydd aflwyddiannus am yr arweinyddiaeth, ymhlith aelodau'r grŵp Llafur yn y Bae.
Hyd yn oed os ydy Vaughan Gething yn cael ei ddiorseddu mae'n anodd gweld yr aelodau Llafur yn llwyddo i uno y tu cefn i bwy bynnag sy'n ei olynu.
Mae Rebecca Evans yn cael ei chrybwyll fel ymgeisydd cyfaddawd ond mae'n anodd ei gweld hi'n apelio at etholwyr Cymru yn yr un modd â Rhodri Morgan, neu hyd yn oed Carwyn Jones.
Ar ben hynny mae 'na gyfres o fomiau wedi eu plannu dros y misoedd diwethaf a allai ffrwydro rhwng nawr ac etholiad Senedd Cymru.
Y cyntaf o'r rheiny yw maniffesto'r blaid Lafur Prydeinig. Mae bysedd Aelodau Seneddol Llafur Cymru yn amlwg iawn yn y cynnwys. Penderfynwyd anwybyddu bron y cyfan o ofynion Llywodraeth Cymru, ac ar ben hynny ceir awgrym y bydd yr 50 o weision sifil yn Swyddfa Cymru rhywsut yn pennu sut y mae cronfeydd strwythurol yn cael eu gwario.
Ychwanegwch at hynny record Llywodraeth Gymreig sydd wedi bod mewn grym ers chwarter canrif a'r chwerwder tuag at yr ymgeiswyr parasiwt sydd wedi glanio yn Abertawe a Chaerdydd ac mae ganddo’ch chi sefyllfa lle mae plaid sydd ar drothwy buddugoliaeth hanesyddol mewn un ornest yn poeni'n ddifrifol ynghylch yr un nesaf.
Diawch, mae gwleidyddiaeth yn ddiddorol!
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin
- Cyhoeddwyd15 Mehefin