Blog Vaughan Roderick: 'Wythnos dda i'r ceffyl blaen'
- Cyhoeddwyd
Dydw i ddim yn gwybod a ydy'r geiriau 'newid' a 'newydd' yn rhannu'r un tarddiad, ond rwy'n ddigon parod i gredu eu bod nhw.
Wedi'r cyfan, croniclo newidiadau yw tasg newyddiadurwr. Dyw "does dim byd wedi newid" ddim yn bennawd effeithiol.
Eto i gyd, dyna fyddai'r pennawd mwyaf gonest wrth i'r ymgyrch basio ei hanner ffordd.
Do, fe ddigwyddodd ambell i beth. Cawsom ni helynt D-Day, cyhoeddi'r maniffestos, dadleuon teledu a sgandalau lleol.
Serch rheiny oll, os ydy'r arolygon barn a greddfau ymgyrchwyr ar lawr gwlad yn agos at fod yn gywir, mae'n anodd osgoi'r casgliad bod gambl Rishi Sunak wrth alw etholiad am brofi'r un mor anffodus ac un Craig Williams.
Mae'r cloc yn tician ym mola'r crocodeil, a'r capten yn gaeth ar ddec y Jolly Roger.
A'r lost boys druan? Wel maen nhw'n glafoerio o synhwyro bod cynteddau grym yn paratoi i'w cyfarch.
Dyw dweud hynny ddim yn golygu bod yr etholiad yn anniddorol na bod yr ymgyrchu yn ddibwrpas.
Mae'r Ceidwadwyr yn debyg o golli ond dyw hynny ddim yn gwbl anorfod, ac o dan y system cyntaf i'r felin mae llond llaw o bleidleisiau yn y llefydd cywir yn gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng buddugoliaeth â daeargryn neu golli â chwalfa.
Yn ôl yn 2015, er enghraifft, pe bai ychydig filoedd o bleidleiswyr mewn llond dwrn o etholaethau wedi pleidleisio'n wahanol fe fyddai mwyafrif David Cameron wedi diflannu.
Heb y mwyafrif yna mae'n debyg na fyddai 'na refferendwm ynghylch Brexit ac fe fyddai Prydain o hyd yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
Dyna yw eironi ein system bleidleisio ni. Dyw llawer o'r pleidleisiau yn y cadarnleoedd pleidiol o fawr o werth, tra bod ambell i bleidlais yn amhrisiadwy.
Pwy wnaeth ennill yr wythnos felly? Wel, mae wythnos lle does fawr ddim wedi newid wrth reswm yn wythnos dda i'r ceffyl blaen, ond yma yng Nghymru mae pethau ychydig bach yn wahanol.
Yn ein podlediad gwleidyddol newydd fe wnaeth Richard Wyn Jones a minnau grybwyll y posibilrwydd mai hwn fyddai'r tro cyntaf ers oes pys i'r Blaid Lafur sicrhau canran uwch o'r bleidlais yn Lloegr nac yng Nghymru.
Os ydych chi'n ceisio dyfalu beth yw ystyr oes pys fe wnai wneud pethau'n fwy plaen - y tro cyntaf i'r blaid wneud yn well yn Lloegr nac yng Nghymru ers ethol Keir Hardie yn aelod seneddol Merthyr yn 1900.
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Mehefin
Does dim angen bod yn athrylith i wybod mai'r ffaith bod Llafur mewn grym ym Mae Caerdydd sy'n gyfrifol am hynny.
O wrando ar rai o fewn y blaid, penderfyniadau amhoblogaidd llywodraeth Mark Drakeford - yr 20 milltir yr awr ac yn y blaen - sydd ar fai, ond i eraill, y cysylltiad rhwng ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething a'r dyn busnes David Neal sy'n achosi'r difrod.
O weld cyn lleied o ofynion Llafur Cymru sydd wedi cyrraedd maniffesto'r blaid Brydeinig, mae'n weddol amlwg mai'r garfan gyntaf sydd â chlust Syr Keir Starmer.