Glastonbury 2024: 'Rhywbeth wna' i fyth anghofio'

  • Cyhoeddwyd

Mae Cynan Evans yn ffan mawr o gerddoriaeth. Cerddoriaeth yw canolbwynt ei waith a cherddoriaeth yw canolbwynt ei fywyd tu allan i'r gwaith hefyd.

Felly pan ofynnodd BBC Introducing iddo fynd i ŵyl Glastonbury ar ran y cynllun datblygu artistiaid Cymreig, Gorwelion, doedd dim angen gofyn dwywaith!

Rhannodd Cynan ychydig o'i uchafbwyntiau gyda Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Cynan a'i ffrind Reem yn Glastonbury

Glastonbury, 2024 - lle i ddechrau?

Dyma fy nhro cyntaf i yn yr ŵyl fyd-enwog yn fferm Worthy, ac mi oedd hi'n un o benwythnosau gorau fy mywyd.

Roedd cael gweld rhai o fandiau mwya'r byd, rhai o'r artistiaid newydd mwya' cyffrous, a dawnsio tan oriau mân y bore i guriadau electronig lliwgar gyda ffrindiau yn rywbeth wna' i fyth anghofio.

Ac roedd cael gweld gymaint o artistiaid o Gymru yn cynrychioli'r wlad yn brofiad swreal hefyd, a ges i sawl pinch me moment go iawn dros y penwythnos hir!

Disgrifiad o’r llun,

Safle anferth Gŵyl Glastonbury i'w gweld am filltiroedd

Wrth eistedd ar y bryn yn gwylio machlud yr haul brynhawn dydd Mercher, doeddwn i methu coelio 'mod i wedi cyrraedd un o wyliau mwya'r byd ar ôl trio am docynnau ers blynyddoedd.

Roedd hwn hefyd yn safle da i geisio deall lleoliadau'r llwyfannau gwahanol gan fod cymaint i'w weld.

Disgrifiad o’r llun,

Perfformiad The Royston Club o Wrecsam

Mae The Royston Club, band o ardal Wrecsam, yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd. Perfformion nhw ar lwyfan Bread & Roses.

Roedd y lle yn orlawn â phobl yn canu eu caneuon air am air. Roedd hi mor braf clywed gymaint o bobl yn siarad Cymraeg o gwmpas y lle yn y dorf yma.

Disgrifiad o’r llun,

Fizz ar lwyfan BBC Introducing

Fizz oedd headliner llwyfan BBC Introducing ar y nos Wener. Un o'r aelodau yw Greta Isaac o Gaerdydd.

Disgrifiad o’r llun,

Fontaines D.C. yn Glastonbury

Roedd hi'n job amhosib i ddewis pwy i'w weld yn hwyr nos Wener. Roedd setiau Dua Lipa, IDLES, Fontaines D.C. a Jungle yn clasho.

Ond ro'n i'n hapus iawn gyda gweld Fontaines D.C. – band ôl-pync o Iwerddon – ar lwyfan The Park yn y diwedd. Maen nhw'n fand dw i wedi dymuno gweld am sawl blwyddyn erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

'Dyw'r ddraig goch byth yn bell... Y Cymry'n tyrru i set DJ Charli XCX

Disgrifiad o’r llun,

Little Simz ar Y Llwyfan Pyramid

Roedd perfformiad Little Simz ar y Llwyfan Pyramid yma yn uchafbwynt i bawb aeth i'w weld.

Roedd hi'n wych gweld perfformiad mor hyderus gan Little Simz o flaen ei chynulleidfa fwyaf ers dechrau ei gyrfa cerddoriaeth. Gwnaeth y perfformiad yma gadarnhau mai hi yw'r person mwyaf cŵl yn y byd... am yr awr yna o leiaf!

Disgrifiad o’r llun,

Miloedd o bobl yn y dorf i weld Coldplay

Daeth dros 100,000 o bobl at ei gilydd i weld Coldplay yn perfformio ar y Llwyfan Pyramid, ac fe ddangoson nhw i'r dorf pam maen nhw wedi bod mor boblogaidd am mor hir. Hwn oedd eu pumed tro yn headline-io Glastonbury.

Mae'n hawdd anghofio'r nifer o ganeuon poblogaidd mae Coldplay wedi eu rhyddhau dros y blynyddoedd, ond fe wnaeth y can mil a mwy o bobl oedd yn gwylio fy atgoffa i yn ddigon cyflym.

Roedd y perfformiad yn anhygoel ac wrth ystyried y visuals, y dorf, y caneuon a'r gwesteion (yn cynnwys Michael J Fox!), teg dweud mai dyma'r diffiniad o fod yn headliner.

Disgrifiad o’r llun,

Kaptin yn chwarae y llwyfan Peace yn Shangri-la

Roedd Kaptin yn arddangos cerddoriaeth o Gymru ac Iwerddon yn ystod ei set.

Mae Kaptin Barrett yn DJ, ymgynghorydd cerddoriaeth a chydlynydd hip-hop i Amgueddfa Cymru.

Roedd hi'n anhygoel clywed artistiaid Cymraeg megis Mace The Great a Juice Menace yn cael eu chwarae yn Shangri-La.

Ond ges i'r sioc fwyaf pan glywes i Pwy Sy'n Galw? gan Dom a Lloyd yn cael spin!

Disgrifiad o’r llun,

SZA yn cloi'r Llwyfan Pyramid am y flwyddyn

Disgrifiad o’r llun,

Amser ymlacio ar ôl penwythnos prysur!

Ar ôl gweld 32 artist ar draws 18 o lwyfannau gwahanol mewn un penwythnos, roedd hi'n amser cysgu.

Diolch Glastonbury am fod mor anhygoel!

2025, unrhyw un?

Mae holl uchafbwyntiau Glastonbury 2024 ar gael ar BBC iPlayer.

Pynciau Cysylltiedig