Llyncdwll enfawr wedi costio mwy na £4m i'w drwsio

LlyncdwllFfynhonnell y llun, Eye in the Sky
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd mwy na 300 tunnell o goncrit a 3,000 tunnell o gerrig eu defnyddio i lenwi'r twll

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwaith o drwsio llyncdwll ym Merthyr Tudful, a gafodd ei ddisgrifio fel y "gwaith peirianneg mwyaf yn ne Cymru" eleni, o'r diwedd yn dod i ben ar ôl bron i flwyddyn.

Ymddangosodd y twll yn ystâd Nant Morlais ym mhentref Pant ar 1 Rhagfyr 2024 - rhyw wythnos ar ôl Storm Bert.

Mae wedi costio mwy na £4m i'w drwsio.

Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful ei bod wedi bod yn "her gymhleth a thechnegol anodd", ond oherwydd "ymrwymiad ac ymroddiad y tîm sy'n ymgymryd â'r gwaith, mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma wedi'i gwblhau'n llwyddiannus".

Roedd yn rhaid i drigolion yr ystâd adael eu cartrefi a mynd i westai, neu aros gyda pherthnasau, wedi i ffos gwympo gan greu'r twll mawr.

Ar ôl i beirianwyr a chontractwyr lenwi'r twll gyda cherrig a gwneud atgyweiriadau helaeth dros dro, cafodd y trigolion ddychwelyd i'w tai cyn y Nadolig y llynedd.

Dywedodd Craig Howe, rheolwr y safle ar ran Edwards Diving Services - cwmni peirianneg sifil a morol arbenigol, mai dyma'r "gwaith peirianneg mwyaf yn ne Cymru" eleni.

"Y gred ydy bod tirlithriad ymhellach i fyny'r dyffryn wedi golchi llwyth o falurion drwy'r twnnel yn ystod y storm, gan achosi'r cwymp," eglurodd Mr Howe.

Ychwanegodd fod y geuffos yn dyddio'n ôl i 1910 ac felly'n "dangos ei oed".

'Diolch i'r trigolion am eu hamynedd'

Cafodd mwy na 300 tunnell o goncrit a 3,000 tunnell o gerrig eu defnyddio ar gyfer llenwi'r twll enfawr.

Dywedodd rheolwr y prosiect, Jack Muldoon, y bu'n un cymhleth.

"Rydych chi'n creu blwch metel i chi'ch hun y tu mewn i'r twll, fel ei bod hi'n ddiogel i weithio yno," meddai.

Ychwanegodd Mr Muldoon y bydd Dŵr Cymru wedi ailgysylltu'r carthffosydd erbyn mis nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Merthyr Tudful fod ganddyn nhw "bob hyder y bydd gweddill y gwaith yn cael ei gwblhau'n fuan".

"Rydym yn diolch i'r trigolion am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus dros yr ychydig fisoedd diwethaf.

"Mae'r gwaith ar amser i orffen ganol fis Tachwedd, gyda chyfanswm y gost ychydig dros £4m."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.