Pobl yn cael mynd adref ar ôl i lyncdwll mawr gael ei lenwi
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n byw yn agos i lyncdwll ym Merthyr Tudful wedi cael dychwelyd adref i'w cartrefi ar ôl iddo gael ei lenwi.
Roedd y twll yn ystâd Nant Morlais ym mhentref Pant - sy'n cynnwys tua 30 o dai - wedi ymddangos ar 1 Rhagfyr.
Dywedodd Cyngor Merthyr Tudful ddydd Mercher eu bod yn gweithio gyda chontractwyr i gael datrysiad parhaol.
Ychwanegodd y llefarydd y bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu yn y flwyddyn newydd.
Yn ôl Cyngor Merthyr Tudful, tirlithriadau yn sgil Storm Bert wnaeth achosi'r twll - a oedd rhwng 9-12m mewn dyfnder a phum metr mewn lled.
Dechreuodd rhai pobl ddychwelyd i'w tai yr wythnos diwethaf, gyda'r cyngor yn obeithiol y byddai'r gweddill yn cael mynd adref erbyn canol wythnos yma.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2024