Senedd Cymru: Cadarnhau ymgeiswyr is-etholiad Caerffili

Mae'r is-etholiad yng Nghaerffili yn cael ei gynnal ar 23 Hydref
- Cyhoeddwyd
Mae rhestr swyddogol yr ymgeiswyr ar gyfer is-etholiad Caerffili wedi ei chadarnhau.
Fe fydd etholwyr yn pleidleisio ar 23 Hydref i ddewis cynrychiolydd nesaf yr etholaeth yn Senedd Cymru yn dilyn marwolaeth yr AS Llafur, Hefin David.
Mae'r cyhoeddwr llyfrau plant lleol, Richard Tunnicliffe, yn gobeithio dal gafael ar y sedd ar ran Llafur Cymru.
Mae Plaid Cymru a Reform yn credu eu bod â siawns dda hefyd o ennill y sedd gyda'u hymgeiswyr nhw - Lindsay Whittle a Llŷr Powell, yn eu tro.
Mae yna wyth ymgeisydd i gyd, gan gynnwys y Ceidwadwr Gareth Potter, y Democrat Rhyddfrydol Steve Aicheler, Gareth Hughes ar ran y Blaid Werdd, Roger Quilliam ar ran UKIP a chynrychiolydd Gwlad, Anthony Cook.
Rhestr lawn yr ymgeiswyr
Ceidwadwyr - Gareth Potter
Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler
Gwlad - Anthony Cook
Llafur - Richard Tunnicliffe
Plaid Cymru - Lindsay Whittle
Reform UK - Llŷr Powell
UKIP - Roger Quilliam
Y Blaid Werdd - Gareth Hughes

Cafodd Hefin David ei ethol yn 2016 i gynrychioli etholaeth Caerffili yn Senedd Cymru
Dyma'r is-etholiad cyntaf ar gyfer y Senedd ers 2018.
Fe fydd yr AS newydd yn y sedd am ryw saith mis, cyn etholiadau llawn y Senedd fis Mai nesaf.
Mae Llafur wedi dal sedd Caerffili ers creu rhagflaenydd y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn 1999.
Mae cynrychiolwyr blaenorol yn cynnwys cyn-Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies, a Jeff Cuthbert, a gamodd i lawr yn 2016 i wasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent.
Fe fydd yr ymgeiswyr yn cymryd rhan mewn dadl fyw ar BBC Cymru ar 15 Hydref.