Greville Wynne: Yr ysbïwr o Ystrad Mynach

Greville Wynne yn dychwelyd i Brydain ar ôl iddo gael ei ryddhau o garchar yn Moscow
- Cyhoeddwyd
Yn 1960 newidiodd bywyd Greville Wynne o Ystrad Mynach am byth yn dilyn trip i Lundain a phryd bwyd gyda dyn a oedd yn un o swyddogion y Gwasanaethau Cudd - MI6.
Ar y pryd, roedd Greville Wynne yn gweithio tipyn dramor fel ymgynghorydd busnes diwydiannol, a'i waith yn aml yn ei dynnu i Ddwyrain Ewrop.
Ynddo, roedd y gwasanaethau cudd felly wedi gweld y person perffaith i'w cynrychioli ar y cyfandir, yn enwedig yng ngwledydd yr Undeb Sofietaidd, ac adrodd unrhyw beth yn ôl i swyddogion yn Llundain.
Er nad oedd ganddo unrhyw brofiad o'r blaen o weithio fel ysbïwr, fe dderbyniodd y cynnig ond o fewn dwy flynedd roedd wedi'i arestio gan y KGB.
Dyma'i hanes rhyfeddol.
Cyfarfod Dickie Francs
Er iddo gael ei eni yn Telford ym mis Mawrth 1919, fe symudodd ifanc i fyw i Ystrad Mynach.
Roedd Greville Wynne â dyslecsia ac fe adawodd yr ysgol yn 14 oed i weithio fel prentis mewn ffatri teleffon.
Cyn yr Ail Ryfel Byd fe astudiodd beirianneg ym Mhrifysgol Nottingham cyn dechrau ei waith wedi'r rhyfel yn gwerthu nwyddau trydanol.
Roedd yr holl deithio yr oedd yn ei wneud yn y 1950au i ddwyrain Ewrop wedi dod i sylw'r gwasanaethau cudd, a dyma ble gwelon nhw'r cyfle i'w recriwtio.
Erbyn 1960 roedd wedi cael ei wahodd i gael bwyd gyda Dickie Francs, wnaeth gyflwyno ei hun iddo fel swyddog MI6.

Cafodd Greville Wynne ei recriwtio yn 41 oed fel ysbïwr
Y dasg yn syml i Wynne oedd gwneud tripiau busnes i Moscow a gwneud cysylltiad gyda Oleg Penkovsky, gŵr oedd yn Asiant Sofietaidd.
Roedd rhaid iddo gyfarfod yn gyson gyda Penkovsky a dod ag unrhyw wybodaeth yr oedd yn ei datgelu iddo yn ôl i Lundain.
Mae gwaith y ddau wedi'i ddogfennu yn ffilm The Courier a gafodd ei ryddhau yn 2020 gyda'r actor Benedict Cumberbatch yn chwarae rhan Greville Wynne.
Roedd y bartneriaeth rhwng Wynne a Penkovsky yn gweithio'n dda, a'r wybodaeth oedd yn cael ei rhannu yn hanfodol i ymdrechion y gwledydd gorllewinol yn ystod Argyfwng Taflegrau Ciwba.
Roedd y dogfennau oedd yn cael eu rhannu gyda Wynne yn dangos manylion am ba daflegrau oedd gan Rwsia a llungopïau o leoliadau yn Ciwba ble'r oedd Rwsia eisiau gosod canolfannau i lansio taflegrau.
Roedd yr wybodaeth yma hefyd yn cael ei rhannu gyda'r CIA yn America ac yn eu rhoi nhw ar y droed flaen yn ystod y trafferthion yn Ciwba ac yn rhoi darlun cliriach o beth oedd cynlluniau Rwsia yno.

Benedict Cumberbatch oedd yn chwarae rhan Greville Wynne yn ffilm 'The Courier'
Roedd gwerth cyfanswm o 10,000 tudalen o adroddiadau cudd a thua 140 awr o gyfweliadau wedi'u rhannu gydag Wynne gan Penkovsky a rheiny i gyd wedi'u cludo nôl i'r gorllewin.
Ond yn mis Tachwedd 1962 cafodd y ddau eu harestio gan y KGB. Ar y pryd roedd Wynne yn Budapest, a oedd dan ddylanwad Sofietaidd, ac wrth iddo gerdded ar hyd stryd, fe ddaeth 'na gar o unlle gyda phedwar dyn yn neidio allan a'i herwgipio.
Fe gafodd ei hedfan i Moscow a'i garcharu gyda Penkovsky a oedd wedi cael ei ddal wythnos ynghynt.
Roedd yn wynebu cyhuddiadau o ysbïo ac o ganlyniad i fradychaeth Penkovsky fe dderbyniodd hwnnw'r gosb eithaf gan y llys a'i saethu ychydig ddyddiau wedi'r achos.
Er i Wynne smalio nad oedd yn ymwybodol beth oedd cynnwys y dogfennau yr oedd yn ei gario i'r gorllewin, fe gafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd yn y carchar.
Fe gafodd ei ddal yng ngharchar Lubyanka yn Moscow ac erbyn 1964 roedd pryderon yn Llundain am ei iechyd tra dan glo.
Yn dilyn misoedd o drafod daeth Llywodraeth Prydain a Rwsia i gytundeb i ryddhau Wynne ar yr amod fod ysbïwr o Rwsia oedd yn y carchar ym Mhrydain, Konon Molody a oedd yn cael ei adnabod hefyd fel Gordon Lonsdale, yn cael ei ryddhau o'i ddedfryd 25 mlynedd.

Oleg Penkovsky oedd cyswllt Greville Wynne yn Moscow
Ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar doedd dim ar ôl o hen fywyd Greville Wynne.
Roedd wedi colli'r rhan fwyaf o'i fusnes tra roedd yn y carchar, ac roedd treulio amser mewn amodau caled yn Moscow wedi gadael ei ôl ar ei iechyd a'i ysbryd.
Aeth yn ei flaen i ymddangos yn y cyfryngau ac yn llefarydd yn aml ar bynciau oedd yn ymwneud â chuddwybodaeth.
Cyhoeddodd ddau lyfr am ei waith fel ysbïwr ond roedd yn dioddef o alcoholiaeth ac iselder ar ôl ei ryddhau o'r carchar a bu farw yn Llundain yn dilyn salwch yn Chwefror 1990 yn 70 oed.
Roedd Wynne yn 41 oed pan drodd i fod yn ysbïwr, a phrin y byddai'r bachgen a fagwyd yn Ystrad Mynach wedi dychmygu y byddai'n destun ffilm Hollywood am ei waith, na chwaith yn cael ei adnabod fel un o ysbiwyr mwyaf arwyddocaol cyfnod y Rhyfel Oer.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl