Ofnau y gallai camlas 225 oed ddechrau sychu o fewn dyddiau

Mae'r tywydd sych diweddar wedi tynnu sylw at yr angen i ddod o hyd i gyflenwad dŵr arall, yn ôl Glandŵr Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd yn sgil pryderon y gallai un o gamlesi mwyaf poblogaidd y wlad ddechrau sychu o fewn wythnos.
Mae'r corff sy'n rhedeg Camlas Mynwy ac Aberhonddu wedi rhybuddio am brinder "difrifol" o ddŵr os nad yw hi'n bwrw glaw yn fuan.
Daw hyn yng nghanol dadl ynghylch sut y dylai'r atyniad hanesyddol sicrhau ei gyflenwad dŵr yn y dyfodol, ar ôl i gyfyngiadau gael eu gosod ar gymryd dŵr o Afon Wysg - sy'n amgylcheddol sensitif.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai unrhyw drefniant rhwng Glandŵr Cymru, sy'n rhedeg y gamlas, a Dŵr Cymru yn benderfyniad masnachol na ddylai chwarae unrhyw ran ynddo.

Mae Phil Hughes yn byw ger Pontypwl ac yn ymgyrchu i wella'r gamlas
Mae'r gamlas - sy'n 35 milltir (56 km) o hyd - yn teithio drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a safle treftadaeth byd Blaenafon.
Mae'n denu oddeutu 3,000,000 o ymwelwyr y flwyddyn - sy'n dod i feicio, cerdded neu hwylio ar y dŵr.
Mae'r gamlas yn 'bwysig i bawb'
Mae'r grŵp 'Bridge 46 to Five Locks' yn gweithredu yn ardal Pont-y-pŵl a Chwmbrân er mwyn "cadw'r gamlas ar agor" ac yn cydweithio â Cyngor Torfaen i alluogi cychod i gyrraedd canol tre Cwmbrân unwaith eto.
Mae'r grŵp o wirfoddolwyr yn cynnal digwyddiadau ar hyd y gamlas ac wedi codi arian i blannu blodau, a gosod meinciau ac arwyddion newydd.
Yn ôl Phil Hughes o'r grŵp, byddai problemau gyda'r cyflenwad dŵr yn tanseilio'r holl ymdrechion i adfer y gamlas, ac yn ei dro, yr ardaloedd gerllaw.
"Dydi'r gamlas ddim just yn bwysig i'r bobl ar y cwch, neu ar y canal, ond i bawb," meddai.
"Pobl sydd efo bed and breakfasts, gwestai, siopau, popeth o Aberhonddu i lawr at Pontnewydd."

Ers degawdau, does dim modd i gychod gyrraedd Cwmbrân, wedi i adeiladwyr gau'r gamlas tra'n codi cartrefi newydd ar gyrion y dref
Daeth yr anawsterau sy'n wynebu'r gamlas i'r amlwg mewn llythyr gafodd ei anfon at fusnesau lleol gan Glandŵr Cymru ym mis Chwefror.
Nododd y llythyr fod y gamlas, a gludodd haearn a glo i ddociau Casnewydd yn y gorffennol, yn dibynnu ar dynnu dŵr o Afon Wysg a'i llednentydd gyda 80-90% o'i chyflenwad yn dod o un ffynhonnell ger Aberhonddu.
Mae cyflwyniad deddf ddiweddar, gafodd ei greu yn rhannol i amddiffyn afonydd yn wyneb newid hinsawdd, yn golygu bod angen trwyddedau bellach i dynnu dŵr o fannau eraill.
Y llynedd, fe wnaeth Glandŵr Cymru fethu gyda'u hapêl yn erbyn rhai o'r amodau gafodd eu gosod gan y corff rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae Afon Wysg wedi ei ddynodi yn ardal cadwraeth arbennig, a warchodir gan y gyfraith oherwydd ei phwysigrwydd i fywyd gwyllt prin megis dyfrgwn ac eogiaid yr Iwerydd.

Bydd Camlas Mynwy ac Aberhonddu yn dathlu ei phen-blwydd yn 225 oed eleni
Yn ôl Mark Evans, Cyfarwyddwr Glandŵr Cymru, mae'r ymddiriedolaeth yn derbyn nad oes modd parhau i dynnu dŵr o'r Wysg ar yr un lefel ag yn y gorffennol.
Ond roedd tywydd sych diweddar wedi tynnu sylw at yr angen brys i ddod o hyd i gyflenwad arall, meddai.
"Mae faint o ddŵr y gallwn ei gymryd yn dechrau peri pryder mawr i ni, mae'n sefyllfa ddifrifol heddiw, gan edrych ar y rhagolygon ar gyfer yr wythnos nesaf.
Fe rybuddiodd y gallai'r sefyllfa arwain at orfod atal cychod rhag defnyddio'r gamlas, ac y byddai effaith hefyd ar fywyd gwyllt.
Cafodd trafodaethau eu cynnal yn ystod yr wythnosau diwethaf gyda Dŵr Cymru i weld os allai helpu i gynnal y gamlas yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych.
Ond fe fyddai hyn yn dod gyda "goblygiadau ariannol", a'r potensial o orfod talu trethi masnachol am y dŵr, gan arwain at gostau sylweddol na allai'r elusen ei fforddio, honnodd Mr Evans.

Mae'r gamlas yn rhoi hwb i fusnesau lleol, meddai Evan Cooper
Ers i'r newyddion dorri, mae tafarn yr Horseshoe Inn yn Llangatwg ger Crughywel wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod y sefyllfa.
Yn ôl Evan Cooper, 18, sy'n gweithio yn y dafarn, mae'r gamlas yn hollbwysig i'r economi lleol: "Mae cychod yn dod ar hyd y gamlas ac yn dod yma am fwyd a diod.
"Mae'n dod a lot o dwristiaid i'r ardal, a heb hynny bydde lot o bobl ddim yn dod i'r dafarn... Mae'r gamlas yn hybu cymunedau. Dim just y dafarn, ond siopau bach a chaffis hefyd."
'Fedrwn ni ddim ei cholli'
Ar gyrion Llangatwg mae perchennog cwmni Beacon Park Boats yn dweud ei fod eisoes wedi derbyn galwadau ffôn gan gwsmeriaid yn holi am effaith y sefyllfa ar eu teithiau cwch.
"Nes i erioed gweld hyn yn dod," meddai Alasdair Kirkpatrick, "mae wedi rhoi sioc fawr i ni i gyd".
"Mae fy holl gwsmeriaid yn mynd i'r tafarndai a'r bwytai lleol, 25% ohonyn nhw'n hedfan i mewn o dramor o lefydd fel America ac Awstralia, yn defnyddio tacsis lleol a gwasanaethau trên ac yn gwario ffortiwn yn lleol," ychwanegodd.
Galwodd ar Lywodraeth Cymru i "roi arian i Dŵr Cymru allu parhau i gynnal lefelau dŵr a chadw holl weithredwyr y gamlas mewn busnes - fedrwn ni ddim ei cholli".
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2019
Dywedodd Gavin Bown o Cyfoeth Naturiol Cymru fod rheoleiddio tynnu dŵr yn "broses gymhleth, yn seiliedig ar dystiolaeth sy'n cydbwyso anghenion amgylcheddol yn ofalus gyda rhai cymunedau lleol".
"Ein blaenoriaeth yw gwarchod cyfanrwydd yr Afon Wysg ac Aber Afon Hafren, gyda'r ddau wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig," esboniodd, gan ychwanegu y byddai'r corff yn parhau i gydweithio â Glandŵr Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru fod Afon Wysg yn "un o'r prif ffynonellau dŵr yfed i tua 250,000 o gwsmeriaid ar draws de ddwyrain Cymru".
Ond ychwanegodd fod hi'n "un o'n hardaloedd cyflenwi sy'n gallu gwrthsefyll sychder lleiaf", gydag adnoddau dŵr cyfyngedig i ddelio ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a thwf poblogaeth.
"Rydym wedi cynnig yn y blynyddoedd sychaf i gyflenwi rhai cwsmeriaid â dŵr o Afon Tawe trwy orsaf bwmpio brys a defnyddio'r capasiti sbâr hwn i dynnu dŵr o Afon Wysg i gynnal y gamlas," eglurodd.
Fodd bynnag, byddai cost i hyn, gyda thrafodaethau'n parhau ynghylch a fyddai hyn yn fforddiadwy i Glandŵr Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "gwarchod a gwella ein hamgylchedd ac adnoddau naturiol yn allweddol i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur".
"Roedd y cyfyngiadau a osodwyd ar y trwyddedau yn unol â'r symiau y gwnaed cais amdanynt gan Glandŵr Cymru," yn ôl llefarydd.