Nigel Farage yn gwrthod cynnal ymchwiliad ar ôl i Gill gael ei garcharu

Yn siarad cyn digwyddiad yn Llandudno nos Lun, dywedodd Nigel Farage nad yw yn bwriadu cynnal ymchwiliad wedi i Nathan Gill gael ei garcharu ddydd Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae Nigel Farage wedi gwrthod cynnal ymchwiliad mewnol i ddylanwad posibl o Rwsia yn rhengoedd Reform UK yn sgil carcharu Nathan Gill.
Mae pleidiau eraill wedi mynnu fod gan Mr Farage gwestiynau i'w hateb ynglŷn â phwy oedd yn gwybod am weithredoedd Gill, cyn-arweinydd y blaid yng Nghymru.
Cafodd Gill ei garcharu am 10 mlynedd a hanner ddydd Gwener ar ôl cyfaddef i dderbyn tua £40,000 am wneud cyfweliadau ac areithiau yn hybu safbwynt Rwsia yn Wcráin.
Wrth gyrraedd Llandudno nos Lun, lle mae Reform UK yn cynnal rali, dywedodd Mr Farage ei fod mor hyderus "ag y gallaf fod" nad oedd unrhyw un arall o fewn y blaid wedi gwneud unrhyw peth tebyg i Gill.
Dywedodd y dylid cynnal ymchwiliad ehangach i ymyrraeth Rwsia a China yng ngwleidyddiaeth Prydain, gan awgrymu taw MI5 ddylai gymryd yr awennau.

Nigel Farage gyda Nathan Gill ym Merthyr Tudful yn 2019
Galwodd Mr Farage garcharu Gill yn "embaras pitw i Reform", gan ychwanegu taw arweinydd y blaid Gymreig "am gyfnod byr iawn" yn unig fu'r gŵr o Ynys Môn.
Wrth ateb cwestiwn gan BBC Cymru ynglŷn â pha mor hyderus y gallai fod taw dim ond Gill oedd wedi troseddu, dywedodd Mr Farage: "Rwy'n hyderus iawn. Mor hyderus ag y gallaf fod.
"Rwy'n synnu'n fawr am Gill – roedd yn aelod o UKIP am amser hir iawn – er bod ei gyfnod yn Reform yn fyr iawn iawn."
Ychwanegodd: "Nid heddwas ydw i. Does gen i ddim adnoddau i gynnal ymchwiliad".
Ar y cwestiwn o unrhyw gyswllt pellach rhwng aelodau blaenllaw o Reform a Gill ar ôl iddo gael ei arestio yn 2021, dywedodd: "Dydw i ddim wedi cael unrhyw ymgysylltiad ag ef, ac nid oes neb yn fy nhîm arweinyddiaeth wedi cael unrhyw ymgysylltiad ag ef o gwbl."
Doedd "neb mewn awdurdod" wedi cysylltu â Gill, ychwanegodd.

Mae Mr Farage hefyd wedi dweud nad yw "erioed wedi cam-drin unrhyw un yn hiliol yn uniongyrchol", yn dilyn cwynion gan 20 o bobl aeth i Goleg Dulwich gydag ef.
Maen nhw'n honni mewn ymchwiliad gan y Guardian bod Mr Farage wedi gwneud sylwadau hiliol a gwrth-Semitaidd wrthyn nhw yn ystod ei amser yn y coleg.
Pan ofynnwyd i Mr Farage beth yr oedd yn ei olygu pan ddywedodd nad yw erioed wedi cam-drin unrhyw un yn hiliol "yn uniongyrchol", dywedodd: "Drwy gymryd o allan ar unigolyn ar sail pwy ydyn nhw neu beth ydyn nhw."
Mae'r honiadau'n cynnwys bod Mr Farage wedi cellwair am siambrau nwy ac wedi rhoi disgybl arall yn y ddalfa, pan oedd yn ddisgybl hŷn, oherwydd lliw eu croen.
Dywedodd Mr Farage: "Ydw i wedi dweud pethau 50 mlynedd yn ôl y gallech chi eu hystyried fel banter mewn maes chwarae, y gallwch chi eu dehongli yng ngolau modern y dydd mewn rhyw fath o ffordd? Ydw."
Ychwanegodd: "Dydw i erioed wedi cam-drin unrhyw un yn hiliol yn uniongyrchol. Na."
Pan ofynnwyd iddo a allai ddweud yn bendant nad oedd wedi cam-drin cyd-ddisgyblion yn hiliol tra yn yr ysgol, dywedodd Mr Farage: "Fyddwn i byth, byth yn ei wneud mewn ffordd niweidiol na sarhaus."
Dywedodd na fyddai'n ymddiheuro i'r bobl sydd wedi gwneud yr honiadau "oherwydd dydw i ddim yn credu i mi wneud unrhyw beth wnaeth frifo unrhyw un yn uniongyrchol."
Nathan Gill yn 'hen hanes' meddai pennaeth polisi Reform
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Nigel Farage ddim am sefyll yn Etholiad Senedd Cymru 2026
- Cyhoeddwyd14 Mai
Carcharu Nathan Gill am dros 10 mlynedd am lwgrwobrwyo
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Mae'r rali Reform UK yn cael ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno nos Lun.
Yn ôl disgrifiad y digwyddiad ar wefan Eventbrite, roedd disgwyl i aelodau a chefnogwyr y blaid ymgynnull o 16:30 ac yna roedd disgwyl areithiau a chyflwyniadau i alw ar bobl i sefyll fel ymgeiswyr.
Dywedodd trefnwyr y digwyddiad ar wefan Eventbrite mai'r pwrpas yw i "ddod â'r egni i Landudno".
Mae grŵp o brotestwyr hefyd wedi trefnu ymgynnull y tu allan i Venue Cymru gan ddweud ar gyfryngau cymdeithasol eu bod am ddangos "i Reform UK nad oes croeso iddyn nhw yng ngogledd Cymru!".
Fe ychwanegon nhw y byddai eu protest yn "wrth-brotest heddychlon".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.