Nigel Farage ddim am sefyll yn Etholiad Senedd Cymru 2026

Roedd awgrym y gallai Nigel Farage sefyll fel ymgeisydd er mwyn medru cymryd rhan mewn dadleuon teledu
- Cyhoeddwyd
Mae Nigel Farage wedi cadarnhau na fydd yn sefyll yn etholiadau'r Senedd, ac nad oes cynlluniau ganddo i arwain y blaid yng Nghymru.
Roedd awgrym y gallai arweinydd Reform UK sefyll fel ymgeisydd er mwyn medru cymryd rhan mewn dadleuon teledu.
Mewn cyfweliad gydag ITV Cymru dywedodd Mr Farage nad oedd yn bwriadu gwneud, gan fyddai hynny'n "chwarae'r gêm yn y ffordd fwyaf sinigaidd".
Awgrymodd yr AS yn San Steffan dros Clacton efallai y bydd rhai aelodau'r Senedd yn troi at Reform, ond ei fod eisiau annog "talent" newydd.
'Dwi ddim yn Gymro'
Mae arolygon barn diweddar wedi awgrymu mai ras rhwng Llafur, Plaid Cymru a Reform fydd hi i fod y blaid fwyaf yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf.
Roedd yr arolwg, gafodd ei gyhoeddi ar 6 Mai, yn rhoi Plaid Cymru ar y blaen ar 30%, gyda Reform ar 25%, a Llafur ar 18%.
Mae sylwebwyr wedi awgrymu bod llwyddiant Reform yn bennaf oherwydd bod cefnogwyr y Ceidwadwyr yn symud eu pleidlais.
Ond dywedodd Mr Farage fod ei blaid yn gobeithio derbyn pleidleiswyr gan Lafur hefyd, a bod "tystiolaeth gref" o hyn mewn "cadarnleoedd Llafur".
Ychwanegodd mai'r "etholiadau cenedlaethol yng Nghymru yw ein blaenoriaeth".
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 Mai
Does gan Reform UK ddim arweinydd yng Nghymru ar hyn o bryd, nac unrhyw aelodau yn y Senedd.
Pan ofynnwyd a fyddai'n ymgeisydd ar gyfer y Senedd ac o bosib yn brif weinidog newydd, dywedodd: "Dwi ddim yn Gymro felly nid fi, iawn? Rydyn ni'n blaid newydd iawn."
Ond ychwanegodd y byddai'n "sicr" o arwain yr ymgyrch etholiadol i ddechrau.
Bydd pleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd yn digwydd ar 7 Mai 2026, pan fydd nifer yr aelodau sy'n cael eu hethol yn codi o 60 i 96.
Bydd 16 etholaeth i gyd, gan ethol chwech AS yr un.
Y gred ydy y bydd y system bleidleisio newydd yn gweld aelodau Reform yn cael eu hethol i Senedd Cymru am y tro cyntaf.