Sophie o Gogglebocs: Defnyddio'r sgrîn i roi llais i bobl anabl
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 29 oed gafodd ei pharluso mewn damwain yn dweud ei bod yn benderfynol o ddefnyddio rhaglen Gogglebocs Cymru i siarad dros bobl anabl.
Mae Sophie Jones sy'n byw ym Mangor yn defnyddio cadair olwyn ac yn cael trawiadau epileptig o ganlyniad i anafiadau i'r ymennydd ar ôl syrthio a tharo ei phen yn erbyn wal bum mlynedd yn ôl.
Cafodd Sophie, sy'n wreiddiol o Sanclêr, Sir Gâr, ei pharluso o'i chanol i lawr yn dilyn y ddamwain.
Dywedodd y bydd y gyfres newydd sy'n cychwyn ar S4C am 21:00 ar nos Fercher, Hydref 16 yn gyfle iddi "ddangos i'r byd nad yw hi'n cael ei diffinio gan ei hanabledd."
- Cyhoeddwyd25 Mehefin
Meddai Sophie: "Dw i'n gaeth i'r gadair olwyn ers i mi gwympo yn 2019 gan gracio fy mhen gan achosi anaf i'r ymennydd ond dw i eisiau i wylwyr Gogglebocs Cymru weld tu hwnt i'r gadair olwyn a'm gweld fel person."
Bydd Sophie a'i 'hail fam' - Morfen Munro (un o'i gofalwyr) ymhlith saith aelod newydd sy'n rhan o griw beirniaid teledu Gogglebocs.
Mae Morfen yn rhan o'r tîm o weithwyr cymorth sy'n darparu gofal rownd y cloc i Sophie yn ei byngalo sydd wedi'i addasu'n arbennig.
Yn ystod y gyfres bydd y ddwy yn gwylio ac yn rhoi eu barn ar ystod eang o raglenni gan S4C, sianeli eraill a gwasanaethau ffrydio.
Dywedodd Morfen fod y ddwy wedi mwynhau gwylio gwahanol raglenni gyda'i gilydd.
"Mae gennym ni deledu sgrin fawr yn y tŷ ac rydyn ni'n gwylio pob math o raglenni gyda'n gilydd o gyfresi cyfan i ffilmiau a rhaglenni dogfen.
"Un gyfres wnaethon ni ei gwylio yn ddiweddar oedd We Might Regret This, drama gomedi am rywun tetraplegic yn ei dridegau sy'n symud o Ganada i Lundain."
Yn wreiddiol o Lanberis, bu Morfen yn gweithio fel dylunydd mewnol yn Swydd Efrog am fwy na 25 mlynedd cyn symud yn ôl i Gymru yn 2020. Daeth yn weithiwr cymorth ac mae wedi adnabod Sophie ers tua blwyddyn.
"Mae Sophie yn ferch ifanc hyfryd a dewr ac rydw i wrth fy modd efo'r gwaith, mae mor wahanol i'r hyn roeddwn i'n arfer ei wneud ac mae mor werth chweil," meddai.
Ychwanegodd Sophie: "Bu farw fy mam o Sepsis yn 2017 ac rwyf wedi dod yn hoff iawn o Morfen.
"Mae hi tua'r un oed â fy mam ac rydyn ni'n cael sgyrsiau tebyg a lot o hwyl gyda'n gilydd."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd5 Hydref
- Cyhoeddwyd8 Mai