Un o sêr Gogglebocs yn annog dysgwyr Caint

  • Cyhoeddwyd

Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Marcus Whitfield
Disgrifiad o’r llun,

Marcus Whitfield (canol) gyda Vicki Edmunds o Gogglebocs Cymru (chwith) a'r gantores Bronwen Lewis

Mae un o sêr Gogglebocs Cymru, Marcus Whitfield, wedi dechrau grŵp siarad Cymraeg yn ei Wetherspoons lleol yng Nghaint.

Mae tua wyth o ddysgwyr yn cyfarfod bob wythnos yn y dafarn yn nhref Tonbridge, Caint.

Ond pam fod pobl o Gaint wedi penderfynu dysgu Cymraeg?

Meddai Marcus: “Mae’r rhesymau’n wahanol i bawb yn y grŵp. Aeth un i Gymru ar ei wyliau a rhyfeddu at y Gymraeg, roedd Nain a Taid aelod arall yn dod o Gymru. Mae’r rhan fwyaf gyda chysylltiad â Chymru.

“Y syniad ydy creu gofod i bobl ymarfer eu Cymraeg.”

Ffynhonnell y llun, Marcus Whitfield
Disgrifiad o’r llun,

Dysgwyr Caint

‘Cardiau i helpu gyda’r Gymraeg’

Mae Marcus yn dod o Fwcle wrth ymyl Wrecsam yn wreiddiol, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2019.

Fel siaradwr newydd, mae'n awyddus iawn i helpu pobl eraill sy'n dysgu’r iaith.

Dyna pam ei fod wedi dyfeisio gêm o gardiau arbennig.

“Mae lot o grwpiau sgwrs ar draws y wlad yn defnyddio'r cardiau," meddai.

"Y bwriad yw defnyddio'r cardiau i ddechrau sgwrs. Mae'r cardiau'n cynnwys cwestiynau syml fel 'Beth wyt ti’n licio am Gymru?' neu 'Ble wyt ti’n mynd ar dy wyliau?'

“Maen nhw'n wych i gynnal sgwrs a rhoi syniadau i bobl.”

Ffynhonnell y llun, Marcus Whitfield
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm cardiau

10 mil o ddilynwyr

Nid dim ond dysgwyr Caint sy’n mwynhau cardiau Marcus.

Erbyn hyn, mae Marcus yn gwerthu’r cardiau i ddysgwyr a siaradwyr newydd ar hyd a lled y byd.

Mae wedi creu gwefan Paned.cymru i werthu nwyddau ar gyfer dysgwyr.

Hefyd, mae’n rhedeg grŵp Facebook o’r enw Handy Welsh sydd gyda bron i 10 mil o ddilynwyr.

“Dw i ddim yn arbenigwr ar y Gymraeg, ond dw i’n trio helpu ac ysbrydoli pobl i ddysgu.”

Gogglebocs Cymru

Mae Marcus yn un o sêr y gyfres Gogglebocs Cymru ac mae wrthi’n ffilmio cyfres newydd ar hyn o bryd.

Penderfynodd fynd ar Gogglebocs Cymru er mwyn ysbrydoli dysgwyr ac roedd eisiau gweld mwy o ddysgwyr ar y teledu.

“Ro'n i'n ansicr i ddechrau oherwydd fy mod yn dysgu Cymraeg.

“Ond penderfynais ei wneud oherwydd fy mod eisiau cynrychioli dysgwyr. Ro'n i eisiau dangos iddynt fod cyflawni pethau drwy'r Gymraeg yn bosib.

“Ro'n i hefyd eisiau dangos i siaradwyr Cymraeg bod dysgwyr fel fi'n gwneud eu gorau glas i ddysgu’r iaith.”

Ffynhonnell y llun, s4c
Disgrifiad o’r llun,

Marcus Whitfield a Vicky Edmund ar Gogglebocs

Ydy Marcus yn mwynhau bod yn un o sêr Gogglebocs Cymru?

“Dw i wrth fy modd. Mae’n wych gweithio gyda’r criw yn Gymraeg bob wythnos.

“Y peth gorau amdano nawr yw bod pobl yn fy adnabod ac yn dod i fyny ata i a dechrau sgwrs yn Gymraeg.”

Geirfa

Caint/Kent

rhyfeddu/be amazed

cysylltiad/connection

gofod/space

awyddus/keen

dyfeisio/invent

cynnal/to hold

nwyddau/merchandise

dilynwyr/followers

ysbrydoli/inspire

ansicr/insecure

cynrychioli/to represent

cyflawni/accomplish

gorau glas/very best

adnabod/recognise

Pynciau cysylltiedig