Dafydd Iwan wedi perfformio am y tro olaf gyda'i fand

Fe wnaeth Dafydd Iwan berfformio am y tro olaf gyda'i fand yng Ngŵyl Llanuwchllyn nos Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae Dafydd Iwan wedi perfformio am y tro olaf gyda'i fand a hynny yng Ngŵyl Llanuwchllyn nos Sadwrn.
Fe wnaeth y canwr, a oedd yn dathlu ei ben-blwydd yn 82 oed ddydd Sul, orffen y noson gyda'i gân 'I'r Gad'.
Dywedodd un a oedd yn y gynulleidfa ei fod "wedi cael diwrnod da yn gweld Dafydd Iwan ar ei orau" a'i fod yn "fraint cael gweld y perfformiad ola' un gyda'r band".

Gan siarad cyn y perfformiad, dywedodd Dafydd Iwan wrth raglen Newyddion S4C: "Fedrith rhywun fynd ymlaen i ganu tra bod e'n fyw ac mae galwadau yn dod i mewn, ond o'n i'n teimlo erbyn hyn bod angen rheoli'r diwedd - felly dwi am roi'r gorau i ganu gyda'r band.
"Mae'n mynd yn anodd weithiau i drefnu pethau a threfnu trafnidiaeth - a chyrraedd adre' yn hwyr y nos neu'n gynnar yn y bore - a dwi'n ailadrodd fy hun ers blynyddoedd maith yn canu'r un caneuon!"
Bydd yn parhau i ganu fel unigolyn i gymdeithasau, meddai, er mwyn cadw cysylltiad â gwahanol rannau o Gymru.
- Cyhoeddwyd23 Awst
- Cyhoeddwyd9 Mehefin
- Cyhoeddwyd24 Awst 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.