Pobl leol ar incwm isel i gael mynd i Eisteddfod Wrecsam am ddim

Cafodd Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd
Disgrifiad o’r llun,

Parc Ynysangharad ym Mhontypridd oedd cartref yr Eisteddfod yn 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd miloedd o drigolion lleol ar incwm isel yn cael cynnig i ymweld â'r Brifwyl yn Wrecsam am ddim.

Daw'r cynnig yn sgil grant o £200,000 gan Lywodraeth Cymru - a bydd y pecyn yn cynnwys mynediad am ddim i'r teulu cyfan, ynghyd â thaleb bwyd i blant.

Bwriad y pecyn yw sicrhau fod trigolion lleol na fyddai'n ystyried ymweld â'r Eisteddfod fel arall yn gallu manteisio ar y cyfle i ymweld â'r ŵyl.

Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni yn ardal Is-y-coed ar gyrion Wrecsam o 2-9 Awst.

Map Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r Eisteddfod yn rhan bwysig iawn o'n calendr diwylliannol ac yn rhoi'r cyfle i bobl weld, clywed a siarad Cymraeg beth bynnag yw eu cefndir.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni gyd ac mae'r grant yma am alluogi mwy o deuluoedd i fynychu'r ŵyl."

'Sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb'

Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth unwaith eto eleni, er mwyn sicrhau fod teuluoedd lleol ar incwm isel yn gallu cael blas ar ein hiaith a'n diwylliant yn yr Eisteddfod.

"Mae'r cynnig yn cynnwys talebau bwyd i blant yn ogystal â thocyn maes, ac rydyn ni'n credu fod cynnig mwy na thocyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod ein gŵyl yn hygyrch i bawb sy'n dymuno dod draw i'r Maes.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb i ardal Is-y-coed ymhen y mis."

Mae'r cynllun eleni'n cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ran yr Eisteddfod, ac mae'r cyngor ar hyn o bryd yn y broses o gysylltu â phawb sy'n gymwys i wneud cais am docyn maes am ddim.

Dywedodd y cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio Strategol, Diogelu'r Cyhoedd a Phencampwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam:

"Wrth i ni edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'r Eisteddfod yn Wrecsam, rydyn ni'n awyddus iawn i sicrhau y bydd cynifer o'n trigolion ni â phosibl yn cael cyfle i ymweld a phrofi a dathlu ein hiaith a'n diwylliant.

"Rydym yn falch iawn o'r cyfle i weithio gyda'r trefnwyr i ddarparu'r cyfle yma i deuluoedd na fyddai wedi ystyried ymweld â'r ŵyl fel arall, diolch i gefnogaeth hael y Llywodraeth.

"Rydw i'n annog pawb sy'n gymwys i dderbyn tocynnau i wneud cais a manteisio i'r eithaf ar ymweliad yr Eisteddfod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig