Dadorchuddio cadair a choron Eisteddfod Wrecsam

- Cyhoeddwyd
Mae cadair a choron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi cael eu dadorchuddio mewn seremoni arbennig yn y ddinas.
Mae'r gadair wedi cael ei dylunio a'i chreu gan Gafyn Owen a Sean Nelson, a'r goron gan Neil Rayment ac Elan Rowlands, y ddau a greodd coron Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024 hefyd.
Mae'r ddau grefftwaith wedi cael eu hysbrydoli gan hanes lleol a threftadaeth yr ardal.
Mae'r goron yn wobr am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd ar y pwnc 'Adfeilion', tra bod y gadair yn cael ei rhoi am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar y testun 'Dinas'.

Mae'r goron wedi'i dylunio a'i chreu gan yr un crefftwyr â'r llynedd
Mae'r goron wedi'i hysbrydoli gan y ffosiliau hynafol a ddarganfuwyd yng Nghoedwig Brymbo – sy'n dyddio'n ôl dros 300 miliwn o flynyddoedd i'r cyfnod Carbonifferaidd.
Yn amgylchynu'r goron mae patrwm organig ailadroddus ac o fewn y patrymau mae dyddiadau allweddol sy'n nodi cerrig milltir pwysig yn hanes Wrecsam, gan gynnwys dechrau chwyldro diwydiannol Wrecsam yn 1782 a chychwyn adeiladu Traphont Pontcysyllte yn 1795.
Mae hefyd yn cynnwys dyddiad sefydlu Clwb Pêl-droed Wrecsam yn 1864, lansio Lager Wrecsam yn 1882 a'r flwyddyn y creodd James Idwal Jones yr atlas hanesyddol cyntaf o Gymru yn 1900.

Mae dyddiadau allweddol yn hanes Wrecsam wedi'u hymgorffori yn y goron
Yn ganolog i'r goron mae ail-ddychmygiad o'r Nod Cyfrin, a ddyluniwyd yn wreiddiol ar gyfer yr Eisteddfod y llynedd, sydd bellach yn cynnwys gwead garw, tebyg i garreg, i adleisio'r ysbrydoliaeth ddaearegol.
Mae'r gair WRECSAM wedi'i osod yn falch ar draws y goron sy'n deyrnged i'r arwydd "Wrexham" arddull Hollywood eiconig a ddatgelwyd yn 2021.

Yn ôl Neil Rayment ac Elan Rowlands, mae dylunio'r goron am yr eildro "yn garreg filltir broffesiynol"
Elan Rowlands a Neil Rayment sydd wedi creu'r goron a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywedodd Elan Rowlands, sy'n wreiddiol o Gaernarfon: "Mae dylunio'r goron am yr eildro nid yn unig yn garreg filltir broffesiynol, ond hefyd yn brofiad creadigol hynod o foddhaus."
Dywedodd bod "arwyddocâd personol dwfn" yn y prosiect gan bod "fy hen hen daid yn gweithio yng nglofeydd Hafod yn Rhos, a magwyd fy nhad yn yr ardal".
Ychwanegodd Neil Rayment bod y goron "yn fwy na gwrthrych seremonïol – mae'n ddarn o gelf etifeddiaeth, wedi'i ddylunio a'i greu â llaw, ac wedi'i wreiddio mewn traddodiad ac arloesedd".
Noddir y goron gan Elin Haf Davies a chyflwynir y wobr ariannol o £750 gan Prydwen Elfed Owens.

Mae'r gadair yn adlewyrchu pedwar prif dirnod sy'n ymwneud â Wrecsam
Glo, pêl-droed, traphont ddŵr a bragdai sy'n cyfleu hanes a dyfodol Wrecsam yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer y gadair.
Roedd y gwneuthurwyr Gafyn Owen a'i bartner busnes Sean Nelson wedi adnabod pedwar prif dirnod sy'n ymwneud â Wrecsam, ac sy'n bwysig i'r trigolion lleol.
Dywedodd Gafyn, sy'n hanu o Fangor: "Mae'r pedwar prif nodwedd yma, sef hanes pyllau glo Wrecsam, pont ddŵr Pontcysyllte, bragdai'r ddinas a'u cariad at y tîm pêl-droed yn sail i'r cynllun, ac wedi ysbrydoli ein taith ddylunio i greu'r braslun."
Mae cefn y gadair yn adlewyrchu bwa traphont Pontcysyllte a'r ffenestri gwydr yn adlewyrchu eglwysi a chapeli'r ddinas.
Ychwanegodd Gafyn bod rhan uchaf y gadair yn cymryd ysbrydoliaeth o siâp to'r stadiwm y Cae Ras, a'r sedd wedi'i gorchuddio mewn defnydd coch, sef lliwiau'r tîm pêl-droed.
Elfen arall bwysig yn nhreftadaeth y ddinas yw'r diwydiant glo, ac mae'r gadair yn cynnig teyrnged i'r ddamwain erchyll ym mhwll Gresffordd yn 1934 yn ogystal â nodi dylanwad pensaernïol bragdai hanesyddol Wrecsam.

Gafyn Owen o Fangor, a'i bartner busnes, Sean Nelson, yw cynhyrchwyr y gadair
Dechreuodd Gafyn a Sean y gwaith o greu'r gadair yn eu gweithdy yn y Fflint.
"Y peth cyntaf wnaethom ni oedd 'nôl coed o Erddig ger Wrecsam.
"Mae'r gadair mor lleol â phosibl i Wrecsam."
Rhoddir y gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, a'r wobr ariannol gan Goleg Cambria.
Beth yw'r testunau eleni?
Mae'r goron yn cael ei rhoi am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd ar y pwnc 'Adfeilion'.
Y beirniaid eleni yw Ifor ap Glyn, Gwyneth Lewis a Siôn Aled.
'Dinas' yw'r testun ar gyfer y gadair, a hynny am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn, a'r beirniaid yw Peredur Lynch, Llŷr Gwyn Lewis a Menna Elfyn.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn yn cael ei chynnal yn ardal Is-y-Coed, Wrecsam o 2-9 Awst.
Fe fydd seremoni'r coroni ddydd Llun 4 Awst am 16:00, a seremoni'r cadeirio ddydd Gwener 8 Awst am 16:00.

Yn ganolog i'r goron mae ail-ddychmygiad o'r Nod Cyfrin
Wrth dderbyn y goron a'r gadair ar ran yr Eisteddfod dywedodd cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Llinos Roberts: "Maen nhw'n symbol cenedlaethol o'n hiaith a'n diwylliant, ond mae'r lleol hefyd i'w weld yn gwbl glir yn y ddwy, ac mae hyn wedi bod mor bwysig i ni yma yn Wrecsam drwy gydol ein taith.
"Rydw i wir yn gobeithio y bydd teilyngdod yn y ddwy gystadleuaeth bwysig yma eleni."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2024