Dirwy o £3.75m i Network Rail ar ôl marwolaethau dau weithiwr

Bu farw Gareth Delbridge a Michael Lewis yn y digwyddiad yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae Network Rail wedi cael dirwy o £3.75m ar ôl i ddau weithiwr gael eu taro a'u lladd gan drên yn ne Cymru.
Bu farw Gareth Delbridge, 64, a Michael 'Spike' Lewis, 58, ar ôl cael eu taro ger Margam, Port Talbot yn 2019.
Roedd y trên, oedd yn mynd o Abertawe i Paddington, yn teithio ar 70mya pan gyrhaeddodd y gweithwyr, gan daro dau ac achosi sioc ddifrifol i drydydd.
Roedd y tri yn gwneud gwaith cynnal a chadw trac, heb y systemau diogelwch cywir.
Fe ddaeth ymchwiliad gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) o hyd i fethiannau diogelwch systematig ac eang gan Network Rail o ran mesurau amddiffyn gweithwyr.
Mae Network Rail eisoes wedi cyfaddef eu rôl ym marwolaethau'r dynion.
Dywedodd teuluoedd y ddau ddyn na allai unrhyw ganlyniad cyfreithiol lenwi'r "bwlch" yn eu bywydau.
Ychwanegon nhw eu bod wedi ymrwymo i barhau "i godi ymwybyddiaeth" o'r angen am fesurau diogelwch cryfach yn dilyn yr "atgof torcalonnus" hwn o'r risgiau sy'n wynebu gweithwyr rheilffordd bob dydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng gorsafoedd Y Pîl a Phen-y-bont
Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener fe gafodd y cwmni ddirwy o £3.75m, a bydd yn rhaid iddynt dalu £175,000 yn ychwanegol mewn costau.
Clywodd y llys mai'r unig amddiffyniad oedd gan y gweithwyr oedd rhywun yn gwylio am drenau - y "lefel isaf o amddiffyniad".
"Roedd tro yn y trac ger y lleoliad felly doedd dim modd gweld yn dda tuag at Bort Talbot, felly nodwyd yr angen am ddau berson yn gwylio, tra bo pedwar dyn yn gwneud y gwaith," meddai'r Cofiadur Christian Jowett yn Llys y Goron Abertawe.
"Ond fe wnaeth y grŵp wahanu'n ddau - un i wneud y gwaith cynnal a chadw tra bo'r ail griw yn gwneud gwaith arall.
"Felly doedd neb ar gael i fod yr ail berson hwnnw oedd i fod yn gwylio i'r pellter."
Ychwanegodd y barnwr fod y dasg yn un swnllyd oherwydd yr offer oedd yn cael ei ddefnyddio, ac nad oedd y gweithwyr yn ymwybodol o'r trên "cyn yr oedd hi'n rhy hwyr".
Ychwanegodd Mr Jowett fod pryderon am bolisi diogelwch Network Rail wedi bod yn hysbys ers 2017, ond bod y camau a gafodd eu cymryd erbyn 2019 "ddim wedi datrys y pryderon".
Newidiadau mawr i ddiogelwch
Ers y ddamwain ym Margam bu newid sylweddol yn y ffordd y mae diwydiant rheilffyrdd Prydain yn rheoli diogelwch gweithwyr trac.
Mae Network Rail wedi dod â gweithio ar linellau byw i ben bron yn llwyr.
Dywedodd Nick Millington, cyfarwyddwr Cymru a'r Gororau i Network Rail: "Rydyn ni'n gwybod na ddylai marwolaethau trasig Gareth Delbridge a Michael 'Spike' Lewis fyth fod wedi digwydd ar ein rheilffordd, ac mae hynny wedi'i adlewyrchu yn y dyfarniad heddiw.
"Dros y bum mlynedd ddiwethaf rydw i wedi cyfarfod yn rheolaidd â theuluoedd Gareth a Spike, ac mae ein meddyliau yn parhau gyda nhw a'r holl ffrindiau a chydweithwyr sydd wedi'u heffeithio gan eu marwolaethau.
"Ers y drasiedi, rydym wedi parhau i drawsnewid diogelwch ein gweithlu trwy ddatblygu technoleg newydd ac offer cynllunio, sydd bron yn llwyr wedi dileu'r angen i weithio ar y rheilffordd pan mae trenau'n rhedeg.
"Mae'r dyfarniad heddiw yn atgyfnerthu pam fod rhaid i ddiogelwch fod yr ystyriaeth gyntaf bob amser, a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud ein rheilffyrdd mor ddiogel â phosib."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2019