Pam bod cymaint o danau gwyllt yn digwydd?

Tan gwairFfynhonnell y llun, Eddy Blanche
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gwasanaethau brys wedi bod yn delio gyda nifer o danau gwyllt ar fryniau a mynyddoedd Cymru dros yr wythnosau diwethaf.

BBC Cymru Fyw fu'n holi Rhys Owen, sy'n bennaeth cadwraeth coedwigoedd ac amaeth Parc Cenedlaethol Eryri ac yn ffermio buchod a defaid.

Pam bod y tanau wedi bod yn digwydd?

Mae'r amaethwyr yn cael llosgi ar yr ucheldir rhwng 15 Hydref-31 Mawrth - a hynny gyda chynllun rheolaeth mewn lle sy'n nodi, er enghraifft, lle mae'r lleoliadau dŵr a manylion mynediad i'r gwasanaethau brys. Ar diroedd sy'n cael eu gwarchod am resymau cadwraeth mae angen trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Ar diroedd isel, mae'r cyfnod llosgi yn dod i ben 15 Mawrth a hynny gan fod y gwanwyn yn dechrau'n gynt oherwydd yr hinsawdd.

Meddai Rhys Owen: "Mae'r tymor tyfu yn hwyrach ar yr ucheldir, ac mae angen ystyried y llystyfiant, tymor nythu'r adar, pryd mae'r ymlusgiaid yn dod allan o gyfnod o aeafgysgu."

Mae cyfuniad o dywydd sych, gwyntoedd a gormod o lystyfiant yn gallu arwain at dân yn mynd allan o reolaeth.

Pwy sy'n cynnau'r tanau?

Roedd fflamau'n 500 metr o led Ffynhonnell y llun, Myfyr Tomos
Disgrifiad o’r llun,

Roedd fflamau 500 metr o led mewn tân yn ardal Trawsfynydd ganol Mawrth

Cyfuniad o bobl meddai Rhys Owen - ond yn aml mae'n anodd profi pwy gan fod cymaint mwy o bobl gyda mynediad i gefn gwlad y dyddiau hyn.

Mae amaethwyr yn ceisio cadw o fewn y cyfnod llosgi swyddogol er mwyn osgoi cael eu cosbi meddai, ond os ydi'r tywydd ac amser yn eu herbyn weithiau mae 'na rai yn llosgi tu allan i'r ffenest swyddogol.

Ychwanegodd: "Ond mae mynediad i gefn gwlad wedi newid hefyd. Mae ganddon ni'r Pasg ar y ffordd a phobl yn dod yma am wyliau, pobl yn cael barbeciws.

"Mae'r sigarét yn prysur ddiflannu ond mae'r risg dal yno ac mae 'na ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd - rhai pobl yn gweld tanau ac yn meddwl 'mae hyn yn hwyl' ac yn cynnau yn fwriadol."

Ydi hyn yn broblem newydd?

Mae'r nifer o bobl sy'n hamddena yng nghefn gwlad wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Er nad ydi cynnau tanau mynydd gan amaethwyr yn ddim byd newydd, mae 'na sawl ffactor newydd sydd yn cynyddu'r risg.

"Mae amaethwyr yn llosgi ar y mynyddoedd ers canrifoedd, ond mae 'na storm berffaith ers tua 20 mlynedd," meddai Rhys.

"Yn gyffredinol mae 'na leihau dwysedd stoc wedi bod mewn amaeth ar yr ucheldir - felly llai o dda byw i fwyta'r planhigion, ac mae effaith newid hinsawdd yn golygu bod ni'n cael cyfnodau sych hirach ac yn gynt yn y tymor. Felly mae 'na fwy o danwydd ar y mynydd ac mae'r amodau yn caniatáu i'r tanau fod yn fwy ffyrnig."

Y difrod i'r tir wedi i'r fflamau gael eu diffoddFfynhonnell y llun, Sian Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y difrod i'r tir wedi i'r fflamau gael eu diffodd

Mae arferion rheoli'r llystyfiant hefyd wedi newid.

Yn draddodiadol roedd ffermwyr yn goleithio (cynnau tân mynydd) drwy losgi clytweithiau bychan o dir.

"Roedden nhw'n llosgi darn maint gardd, neu chwarter neu hanner acer, a'i gadw dan reolaeth, wedyn symud ymlaen rhyw ganllath," meddai Rhys. "Roedd y llystyfiant ar y mynydd wedyn yn amrywio o ran oedran a strwythur.

"Felly roedd darnau o lystyfiant iau, ac felly'n fwy gwyrdd a llai tebygol o losgi - felly llai o danwydd a doedd unrhyw dân ddim yn lledu.

"Mae sgiliau llosgi wedi eu colli ac mae'r dirwedd wedi newid. Mae 'na lai o staff ar ffermwyr ac mae angen ffermio mwy o dir y dyddiau yma."

Y perygl nawr ydi bod mwy o danwydd allan ar y mynydd - yn enwedig gyda'r cynnydd mewn rhedyn a'r gwellt molinia, sy'n llosgi'n sydyn ar ôl marw.

Beth yw'r perygl?

Os ydi tân allan o reolaeth mae 'na berygl amlwg i fywyd gwyllt - yn enwedig yn ystod cyfnod y gwanwyn pan mae'r cylch bywyd yn dechrau gydag adar yn nythu a'r gwenyn allan.

Mewn rhai ardaloedd - fel rhannau o'r Cymoedd a Cilgwyn, ger Caernarfon, er enghraifft - mae'r tir comin yn ffinio gyda thai ac felly mae perygl i eiddo a bywyd pobl hefyd.

Mae adnoddau'r gwasanaethau tân hefyd yn cael eu sugno. Yn 2024, ymatebodd gwasanaethau tân ledled Cymru i 977 achos o danau glaswellt - gostyngiad o 47% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Roedd nifer y tanau glaswellt bwriadol wedi gostwng 576 (44%) i 713.

Sut mae dod dros y broblem?

O ran amaethwyr, mae 'na reswm pam bod llosgi dan reolaeth wedi bodoli ers canrifoedd.

Mae rhai planhigion yn elwa o'r llosgi, ac mae'n galluogi ffermwyr i roi anifeiliaid ar y mynydd - sydd hefyd yn cadw'r tyfiant o dan reolaeth. Oni bai bod rhywun yn torri'r llystyfiant byw a marw a'i gario oddi yno mae mwy o danwydd am barhau allan ar y mynydd - a allai arwain at danau enfawr.

Dyna un o'r rhesymau dros y tanau mawr diweddar, meddai Rhys - gan fod tywydd gwlyb y llynedd wedi arwain at lai o losgi, a gwerth dwy flynedd o danwydd ar y bryniau eleni.

Tân ar fynydd Ffair Rhos
Disgrifiad o’r llun,

Tân ar fynydd Ffair Rhos, ger Ystrad Fflur, Ceredigion, ar 7 Ebrill 2025

Meddai: "Mae pobl yn meddwl bod yr ateb yn syml ond os nad oes tanau o dan reolaeth mae'r tanwydd ar y mynydd yn cynyddu a ti'n cael tân trychinebus - fel digwyddodd 15-20 mlynedd yn ôl ar y Mignaint, a'r mawn yn llosgi. Mae angen osgoi hynny.

"Cold burning sydd ei angen - lle mae'r tanwydd ar y wyneb yn llosgi ond nid yn y ddaear, sy'n effeithio strwythur y pridd ac yn creu mwy o wres, a thân dyfnach sy'n anodd ei ddiffodd ac yn para am wythnosau, a ti'n hemorrhageio carbon."

O ran llosgi bwriadol neu anfwriadol gan bobl sy'n hamddena, dilyn rheolau ac addysgu yw'r ateb. Mae'r gwasanaethau tân yng Nghymru yn annog pawb i ddilyn cyngor Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru - Doeth i Danau Gwyllt, dolen allanol.