Oedi cyn penderfynu ar ddyfodol plasty yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi oedi tan fis Tachwedd cyn penderfynu a ydyn nhw am werthu plasty hanesyddol.
Fe gafodd Plas Tan y Bwlch ym Maentwrog ei roi ar y farchnad ym mis Awst am £1.2m wedi i'r awdurdod ddweud nad oedd yn bosib iddyn nhw barhau i'w ariannu.
Ond mae ymgyrchwyr lleol eisiau i'r plasty gael ei drosglwyddo i grŵp cymunedol.
Cafodd cynnig i brynu'r adeilad ei drafod y tu ôl i ddrysau caeedig ddydd Mercher.
Yn y cyfarfod hwnnw fe benderfynwyd oedi rhag gwneud penderfyniad tan i'r awdurdod gyfarfod ym mis Tachwedd, a hynny er mwyn ymgynghori ymhellach gyda'r gymuned ac unrhyw un sy'n mynegi diddordeb i brynu'r safle.
Daeth tua 20 o bobl at ei gilydd y tu allan i'r adeilad fore Mercher i brotestio yn erbyn ei werthu, wrth i'r cyfarfod yn digwydd y tu mewn.
Mae manylion y rheiny sydd wedi gwneud y cynnig i brynu'r plasty wedi cael ei gadw'n gyfrinach.
Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd yr awdurdod bod hwn yn benderfyniad pwysig i’r Awdurdod a'u bod wedi gwrando ar "bryderon y cyhoedd a’n cymunedau".
'Agored i unrhyw gynnig'
Clywodd aelodau awdurdod y parc ddydd Mercher fod y corff yn wynebu sefyllfa ariannol "anodd iawn".
Yn ystod sesiwn gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd dywedodd y prif weithredwr dros dro, Iwan Jones, bod yr awdurdod wedi derbyn "nifer o ymholiadau" am y plas, a bod angen gwario £3m ar yr adeilad dros y degawd nesaf.
Cadarnhaodd hefyd bod yr awdurdod eisoes wedi bod mewn trafodaethau gydag un cwmni cymunedol a'u bod yn "agored i unrhyw gynnig", ond bod yr arwerthwyr o'r farn mai cynnig y plas a'r gerddi fel un eiddo fyddai fwyaf addas.
Ychwanegodd bod y plas yn costio £250,000 y flwyddyn i'w redeg ar hyn o bryd, ond pwysleisiodd bod "dim byd wedi ei benderfynu" hyd yma.
- Cyhoeddwyd7 Awst
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
Yn ôl y disgwyl, cafodd y wasg a'r cyhoedd eu heithrio o'r drafodaeth ar Blas Tan y Bwlch oherwydd sensitifrwydd masnachol.
Ond dywedodd y Cynghorydd John Pughe Roberts y byddai'n hoffi gweld cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn fuan er mwyn caniatáu i'r cyhoedd fynegi eu barn ar ddyfodol y plas.
Fe wnaeth aelod o'r awdurdod, Tim Jones, hefyd gyfaddef y "gallai'r cyfathrebu fod wedi bod yn well".
Cafodd y cynnig am gyfarfod cyhoeddus ei gefnogi gan aelodau, a dywedwyd y byddai hefyd yn galluogi pobl leol i ddeall yr heriau ariannol sy'n wynebu'r awdurdod.
'Y gymuned leol wedi dychryn'
Roedd y plasty gwledig yn gartref yn wreiddiol i deulu'r Oakeleys - perchnogion chwareli yn yr ardal - ond mae'r adeilad dan reolaeth gyhoeddus ers 1968.
Cafodd ei drawsnewid yn ganolfan sy'n cynnig ystod o gyrsiau preswyl i ysgolion ac aelodau'r cyhoedd.
Mae gan y plasty 30 o ystafelloedd gwely, tua 13 erw o erddi hanesyddol a 59 erw o goetir.
Dywed Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri bod y degawd diwethaf wedi bod yn gyfnod heriol oherwydd toriadau "sylweddol" ac effaith chwyddiant.
Ond mae grŵp cymunedol lleol, Achub Plas Tan y Bwlch, am weld y lle yn cael ei drosglwyddo i fenter gymunedol.
Dywedodd un o aelodau'r grŵp, Francesca Williams eu bod "yn erfyn ar awdurdod y parc i oedi unrhyw werthiant ar y plas hyd nes y bydd ymgynghoriad cyhoeddus wedi digwydd".
Mae hi'n dadlau bod angen i'r awdurdod "sicrhau eu bod yn ystyried barn a lles y gymuned leol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau".
Yn ôl aelod arall o'r grŵp, Llinos Alun: "Mae'r gymuned leol wedi dychryn bod Plas Tan y Bwlch a'r tiroedd wedi eu rhoi ar werth yn yr wythnosau dwetha'.
"Mae llawer ohonom yn gofyn sut gall ased cyhoeddus o'r fath, sydd wedi ei ariannu gan arian cyhoeddus, ei roi ar werth heb drafodaethau efo cymunedau lleol.
"'Dan ni hefyd yn poeni am fynediad yn y dyfodol i'r coedwigoedd a'r llwybrau o amgylch Llyn Mair a Hafod y Llan os bydd y safle yn mynd i ddwylo preifat.
Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd yr Awdurdod: "Mae hwn yn benderfyniad pwysig i’r awdurdod.
"Rydym wedi gwrando ar bryderon y cyhoedd a’n cymunedau, ac mae’n hanfodol ein bod yn cymryd yr amser i gysidro dyfodol Plas Tan y Bwlch.
"Rydym wedi cytuno i ystyried pob opsiwn posibl ac i ymgysylltu gyda'r gymuned ac i weithio’n agos gyda darpar brynwyr i wneud y penderfyniad iawn ar gyfer yr adeilad hanesyddol hwn."