Canfod achos o ffliw adar ar safle yn Sir Benfro

IeirFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gall ffliw adar effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys ieir, chwid a ffesantod

  • Cyhoeddwyd

Mae achos o ffliw adar "pathogenig iawn" wedi cael ei ganfod yn Sir Benfro, yn ôl yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Fe ddaeth cadarnhad ddydd Iau bod straen H5N1 wedi'i ganfod ar safle ger Aberdaugleddau - yr un math a gafodd ei ganfod ger Cynwyd yn Sir Ddinbych dros y penwythnos.

Fe gadarnhaodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru fod parth gwarchod a gwyliadwriaeth ffliw adar wedi ei ddatgan o amgylch y man lle cafodd yr achos ei ddarganfod., dolen allanol

Mae ffliw adar yn gyffredinol yn effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar, gan gynnwys ieir, chwid, ffesantod ac eraill.

Dywedodd APHA fod yn "rhaid i berchnogion adar aros yn wyliadwrus" ac y dylai pawb ddilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn atal achosion rhag lledaenu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Rydyn ni'n trin achosion o ffliw adar fel mater difrifol iawn, ac yn gweithio'n agos gyda APHA a gweinyddiaethau eraill wrth fonitro'r sefyllfa yn y DU ac yn rhyngwladol."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig