Parth gwarchod ffliw adar o gwmpas ardal Pontyberem

Iar Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Ar ôl cadarnhau achos o ffliw adar yn ardal Pontyberem, Sir Gaerfyrddin, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod parth gwarchod o gwmpas yr ardal.

Mae'r achos yn un "pathogenig iawn" ac felly mae "parth gwarchod ffliw adar tri chilometr a pharth gwyliadwraeth 10 cilometr o amgylch y safle heintiedig".

Mae sawl achos wedi'u cadarnhau yng Nghymru hyd yma, gan gynnwys yn Sir Benfro a Sir Ddinbych.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd ac iechyd cyhoeddus.

O 13 Tachwedd, mae wedi bod yn ofynnol i bawb sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw'r adar dan do.

Mae ffliw adar yn gyffredinol yn effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau o adar, gan gynnwys ieir, hwyaid, ffesantod ac eraill.

Yn dilyn cadarnhad yr achos ym Mhontyberem dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Bydd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid o Gyngor Sir Caerfyrddin yn ymweld â'r holl safleoedd (busnesau, cartrefi, daliadau amaethyddol a chyfeiriadau eraill) o fewn y parthau hyn sydd wedi'u sefydlu i helpu i atal y clefyd rhag lledaenu ymhellach."

Dywedon nhw hefyd fod y straen "pathogenig iawn" yma wedi'i "addasu ar gyfer adar a'i fod yn peri risg isel iawn i iechyd pobl".

"Ni fydd angen i unrhyw breswylydd neu berchennog busnes yn ardal Pontyberem nad yw'n cadw adar gymryd unrhyw gamau pellach."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig