Cyhuddo dyn o lofruddiaeth wedi marwolaeth sydyn

Christian DeanFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Christian Dean ei fod yn dad ffyddlon i dri o blant

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth sydyn dyn 36 oed yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Ffordd Graig ym mhentref Ynys-hir toc cyn 13:00 ddydd Iau.

Dywedodd swyddogion fod Christian Dean wedi marw yn yr eiddo, a'u bod yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd at y farwolaeth.

Mae Thomas Griffiths, 34, o Ynys-hir wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa.

Dywedodd teulu Mr Dean fod "colli Christian wedi effeithio'n ddwfn ar ei deulu, ei ffrindiau, a'r gymuned ehangach a oedd yn ei adnabod yn dda".

Disgrifion nhw Mr Dean fel cymeriad "adnabyddus" ac "annwyl" a ddaeth ag "egni, hiwmor, a chynhesrwydd lle bynnag yr aeth".

Pynciau cysylltiedig