Capten Evans: Cymro, meistr gwyddbwyll a llongwr dyfeisgar
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n 70 mlynedd eleni ers ffurfio Pencampwriaeth Gwyddbwyll Cymru, ac mae nifer sy'n cystadlu yn y bencampwriaeth yn siŵr o ddefnyddio symudiad penodol sydd wedi'i enwi ar ôl Cymro.
Ond pwy oedd Capten William Davies Evans o Sir Benfro? Llongwr llwyddiannus, a ddyfeisiodd un o'r symudiadau gwyddbwyll enwocaf erioed, Symudiad Evans neu'r 'Evans Gambit'.
Dyddiau cynnar
Ganwyd William Davies Evans ar fferm yn ardal Casblaidd, Sir Benfro ym mis Ionawr 1790.
Symudodd i fyw yn 10 oed i Aberdaugleddau, a drwy fyw mor agos at y môr y daeth yr ysfa.
Er iddo fynd i'r ysgol Ramadeg yn Hwlffordd, aeth yn brentis ar y môr yn 14 oed.
Roedd yn gweithio ar longau gwahanol ac fe frwydrodd yn y rhyfel Napoleonaidd nes i'r anghydfod ddod i ben ym 1815.
Erbyn diwedd y ddegawd honno, roedd wedi'i ddyrchafu yn gapten ar y llongau post oedd yn gweithredu rhwng Prydain ac Iwerddon ac yn sefyll allan fel un hynod alluog a dyfeisgar yn ei faes ac yn fathemategwr o fri.
Trechu'r goreuon
Tra'n gweithio ar y môr fe ddatblygodd ei gariad tuag at wyddbwyll. Pan oedd yn ôl yn Llundain roedd yn cystadlu mewn cystadlaethau yn erbyn chwaraewyr mawr y cyfnod.
Ym 1827 fe newidiodd fywyd Evans yn llwyr yn dilyn gêm yn erbyn un o'r chwaraewyr mwyaf disglair.
Roedd y Gwyddel, Alexander McDonnell yn cael ei ystyried yn feistr y gamp ac un o chwaraewyr gorau ei gyfnod. Roedd yn digwydd bod yn Llundain ar yr un amser ag Evans a dyma'r ddau yn eistedd i lawr i chwarae gêm o wyddbwyll.
Mae gêm Evans v McDonnell wedi'i gofnodi yn y llyfrau hanes, oherwydd dyma ble wnaeth Evans gyflwyno symudiad nad oedd neb wedi ei weld o'r blaen.
Yn nhermau gwyddbwyll, y symudiadau yw: 1.e4 e5 2.Nf3 Nc6 3.Bc4 Bc5 4.b4.
O fewn ychydig funudau, roedd y gêm ar ben ac Evans wedi trechu un o chwaraewyr gorau'r cyfnod.
'Hud a lledrith'
Daeth newyddiadurwyr i glywed am yr hyn ac o fewn dim roedd enw Evans yn dew drwy glybiau gwyddbwyll Llundain.
Erbyn 1832 roedd colofnau mewn cylchgronau yn talu teyrnged i'r symudiad yma a ddaeth i'w adnabod fe 'Symudiad Evans'.
Tra'n cystadlu yn erbyn meistri eraill, fel Louis de la Bourdonnais ym 1834, roedd McDonnell ei hun wedi dechrau defnyddio'r symudiad yn ei gemau.
O fewn blynyddoedd roedd chwaraewyr eraill wedi clywed am y symudiad newydd yma a daeth yn batrwm poblogaidd mewn gemau ar draws y byd.
Un o'r gemau gwyddbwyll enwocaf mewn hanes yw'r 'Evergreen game' rhwng Adolf Anderssen a Jean Dufrense a gynhaliwyd ym Merlin yn 1852, ac fe ddechreuodd y gêm honno gyda Symudiad Evans.
Hyd heddiw mae'r symudiad yn parhau i gael ei ddefnyddio. Fe ddisgrifiodd y Grand Feistr Paul van der Sterren y symudiad yn un "anhygoel" ac fel "hud a lledrith".
Anrheg gan Rwsia
Yn ogystal â'i ddoniau gwyddbwyll, fe ddyfeisiodd Evans system oleuo dri-lliw ar longau'r llynges i'w gwarchod rhag gwrthdrawiadau ar y môr.
Efallai mai dyma'r gwaith pwysicaf gyflawnodd yn ystod ei yrfa.
Wedi blynyddoedd o hwylio, roedd Evans yn ymwybodol o'r perygl o fod allan ar y moroedd yng nghanol nos.
Mewn ymgais i geisio gwella diogelwch ar y môr fe ddyfeisiodd y syniad y dylai llongau arddangos golau lliwgar tra'n teithio mewn tywyllwch.
Daeth y llywodraeth i glywed am ei syniad ac fe ddechreuodd cwmnïau llongau mawr ddefnyddio'r drefn newydd.
I ddiolch iddo am y syniad, rhoddwyd £1,500 fel gwobr iddo, a gyda'r system dri-lliw yn cael ei ddefnyddio ar draws y byd, fe dderbyniodd Evans gronomedr aur a £200 gan Tsar Rwsia.
Dyledion iechyd
Bu farw ar 3 Awst 1872 yn 83 mlwydd oed yn dilyn cyfnod o salwch.
Yn ôl rhifyn o'r papur newydd The Westminster Papers, roedd wedi cael gorchymyn gan feddyg i adael Gwlad Belg ble'r oedd yn byw a dychwelyd i Brydain er mwyn osgoi "tamprwydd ardal Ostend".
Ond doedd Evans ddim yn cael gadael Gwlad Belg nes bod dyled fechan a ddaeth i'r amlwg yn ystod ei salwch yn cael ei thalu.
Daeth rhai o chwaraewyr gwyddbwyll a bonheddwyr Llundain i glywed am hyn a ffurfiwyd casgliad i geisio helpu Capten Evans, ond serch hynny bu farw yng Ngwlad Belg ac mae wedi'i gladdu yn ninas Ostend.
Wrth gofnodi ei farwolaeth dywedodd un papur, "Beth mae Arkwraight wedi bod i Fanceinion a Stephenson i'r rheilffyrdd, mae Evans wedi bod yr un peth i'r gêm o wyddbwyll".
Y tro nesaf y bydd unrhyw un yn chwarae gwyddbwyll, beth am roi cynnig ar symudiad Evans a phwy a ŵyr, efallai y daw lwc i chi fel mae wedi gwneud i filoedd o chwaraewyr gwyddbwyll dros y canrifoedd.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023